Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

31.

Cofnodion. pdf eicon PDF 120 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir.

 

Materion yn Codi:

 

Eitem 28 - Cyflogadwyedd - Sesiwn weithdy i archwilio'r 'ffit' rhwng Rhaglen Waith Abertawe a'r Strategaeth Trechu Tlodi

 

Cadarnhaodd Pennaeth Tlodi a'i Atal a'r Is-gadeirydd fod y llythyr wedi'i anfon at Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach, fodd bynnag nid oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw oherwydd ymrwymiad blaenorol. Byddai'r materion a godwyd yn y llythyr yn cael eu trafod yn y cyfarfod misol i gynllunio'r agenda a gynhelir cyn y pwyllgor nesaf. Byddai diweddariad yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.

32.

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2017-2022. (Cyflwyniad)

Sian Bingham / Alison Williams

(Please also see link: http://www.swansea.gov.uk/childcaresufficiencyassessment)

Cofnodion:

Darparodd Sian Bingham, Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd, ac Allison Williams, Rheolwr Adnoddau Teuluoedd, gyflwyniad ar Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant  (CSA) 2017-2022.

 

Roedd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal cyfan (230 o dudalennau), ei gynllun gweithredu a fersiwn gryno o'r ddogfen ar gael ar wefan y cyngor: www.abertawe.gov.uk/asesiaddigonolrwyddgofalplant.

 

Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i ddiogelu, cyhyd ag y bo'n rhesymol ymarferol bosib, argaeledd gofal plant sy'n ddigonol er mwyn bodloni gofynion rhieni yn eu hardaloedd y mae angen gofal plant arnynt er mwyn iddynt weithio, parhau i weithio, neu i ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant.

 

Dylai Cynlluniau Gweithredu'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant gael eu hadolygu'n barhaus a dylid adrodd amdanynt drwy adroddiadau cynnydd blynyddol. Bob blwyddyn, dylai awdurdodau lleol anelu at wella'n barhaus wrth sicrhau darpariaeth gofal plant ddigonol.

 

Darparwyd gwybodaeth mewn perthynas â'r canlynol:

 

·                 Y fethodoleg ymchwil a ddefnyddiwyd i lunio'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant;

·                 Y sefydliadau a'r grwpiau a wahoddwyd i roi eu barn ar ddigonolrwydd gofal plant lleol;

·                 Y sefyllfa bresennol;

·                 Ystadegau cyflenwad gofal plant ffurfiol;

·                 Gwasgariad daearyddol gofal plant;

·                 Y 3 ward lle mae'r nifer o ysgolion cynradd uchaf;

·                 Darpariaeth Dechrau'n Deg;

·                 Yr hyn y mae canlyniadau'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant wedi dweud wrthym;

o     Cyffredinol;

o     Rhieni/Plant;

o     Darparwyr;

·                 Crynodeb o'r bylchau allweddol:

o     Bylchau daearyddol a math o ofal;

o     Bylchau incwm;

o     Bylchau anghenion penodol;

o     Bylchau amser;

o     Bylchau oedran;

·                 Oes gofal plant digonol yn Abertawe?

Cadarnhaodd y swyddogion, ar yr adeg pan gasglwyd y data, fod gan Gyngor Abertawe amrywiaeth eang a chynhwysfawr o ddarpariaeth gofal plant sy'n bodloni anghenion daearyddol, economaidd a chyflogaeth yr awdurdod lleol.

 

Gofynnodd yr aelodau nifer o gwestiynau, yr ymatebodd y swyddogion yn briodol iddynt.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Byddai'r swyddogion yn bresennol yn y cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 24 Ionawr 2018 i ddarparu gwybodaeth am y cynllun peilot a ariennir gan y llywodraeth i blant 3-4 oed.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.

33.

Cynllun Gwaith 2017-2018. pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cynghorodd y Cadeirydd y byddai'r Cynllun Gwaith yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf yn dilyn y cyfarfod i gynllunio'r ag Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach, y Cyfarwyddwr, Pennaeth Tlodi a'i Atal a'r Cadeirydd/Is-gadeirydd.

 

Penderfynwyd darparu'r Cynllun Gwaith wedi'i ddiweddaru yn y cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 24 Ionawr 2018.