Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

27.

Cofnodion. pdf eicon PDF 117 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

28.

Cyflogadwyedd - Gweithdy i archwilio a yw Rhaglen Waith Abertawe'n 'cydweddu' â'r Strategaeth Trechu Tlodi ac i ddrafftio llythyr at Aelod y Cabinet.

Cofnodion:

Rhoddodd Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'r Atal, gyflwyniad a oedd yn ystyried y cyswllt rhwng Rhaglen Gwaith Abertawe a chyflawni canlyniadau'r Strategaeth Trechu Tlodi.  

 

Roedd holl aelodau'r pwyllgor eisoes wedi derbyn copi o'r Strategaeth Trechu Tlodi ddrafft. Amlinellodd y Pennaeth Tlodi a'i Atal yr egwyddorion, y canlyniadau allweddol, cyfraniad Gwaith Abertawe, gan gynnwys yr hyn a oedd yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gwaith Abertawe, ei nodau a'r canlyniadau disgwyliedig.

 

Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol:

 

·                 Gofynnwyd am eglurder ar drefniadau llywodraethu, yn benodol y cyswllt rhwng PDChP Lleihau Tlodi a rôl Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.  A ddylid cael dull adrodd 2 ffordd?

·                 Awgrymwyd y gallai digwyddiadau i ofalwyr hefyd gael eu cynnal mewn ysgolion, nid mewn colegau'n unig;

·                 Gofynnwyd am wybodaeth am sawl ysgol sy'n rhan o'r cynllun 'Tîm am y Teulu';

·                 Ar hyn o bryd, mae oddeutu 800 o bobl yn cael eu cefnogi, serch hynny, mae oddeutu 24,000 o bobl sy'n anweithgar yn economaidd yn Abertawe.  Ar hyn o bryd, rydym yn helpu oddeutu 300 o bobl i ganfod gwaith, serch hynny, cydnabuwyd bod angen mwy o waith yn y maes hwn a dylid osgoi gweithio ar wahân; 

·                 Mae'r awdurdod wedi meithrin perthynas waith dda â'r Adran Gwaith a Phensiynau o ran cyflwyno Credyd Cynhwysol; 

·                 Roedd Mark Hurry, Canolfan Byd Gwaith, wedi cynorthwyo wrth lunio nodyn briffio a gyflwynwyd yn flaenorol i'r pwyllgor a oedd yn amlinellu'r systemau sy'n cael eu rhoi ar waith i gefnogi'r rhai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol; 

·                 Cyhoeddwyd newidiadau yn natganiad cyllideb y Canghellor o ran Credyd Cynhwysol, ond roeddent yn ymwneud â newidiadau i'r broses yn unig;

·                 Mae ystadegau darpariaeth cyflogaeth, e.e. faint o bobl rydym yn eu helpu ar hyn o bryd i ganfod swyddi/prosiectau eisoes yn cael eu cofnodi; 

·                 Unwaith bydd y Strategaeth Tlodi wedi'i mabwysiadu, byddai ystadegau chwarterol yn cael eu cyhoeddi;

·                 Roedd gweithio gyda sefydliadau eraill eisoes ar waith er mwyn helpu i wneud preswylwyr yn barod ar gyfer cyflogaeth.

 

Bu'r pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith ac awgrymwyd y byddai'n fuddiol gwahodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach i'r cyfarfod nesaf i drafod ymhellach a chadarnhau blaenoriaethau'r cynllun gwaith.

 

O ran y llythyr i'w lunio i Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach, yn ogystal ag eglurder ar y pryderon a nodwyd uchod, er mwyn monitro cynnydd Blaenraglen Waith Abertawe, gofynnodd y pwyllgor am ystadegau chwarterol ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol sy'n gysylltiedig â'r cynllun, fel a nodir isod:

 

Ø    Sawl person rydym yn ei helpu i ganfod gwaith ar hyn o bryd?

Ø    Sawl person rydym yn ei gefnogi ar hyn o bryd?

Ø    Sawl person sy'n cael cyfleoedd hyfforddi?

Ø    Beth yw'r gost o helpu person i ganfod gwaith?

 

Penderfynwyd:

 

1.               Nodi'r cyflwyniad;

2.               Gwahodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach i'r cyfarfod nesaf i drafod ymhellach a chadarnhau blaenoriaethau'r cynllun gwaith.

3.               Bydd Nick Williams, y Prif Swyddog Addysg, yn cael ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol i gael mwy o wybodaeth am wella canlyniadau yn y pynciau STEM/sectorau galw;

4.               Bydd Mark Hurry, Canolfan Byd Gwaith, yn cael ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol o ran y gwaith a wneir o ran Credyd Cynhwysol;

5.               Bydd y Cadeirydd ar y cyd â'r Pennaeth Tlodi a'i Atal/Cyfarwyddwr Pobl yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach yn amlinellu pryderon y pwyllgor ac yn gofyn am ystadegau chwarterol ar DPA fel a nodwyd uchod.

29.

Cynllun Gwaith 2017-2018. pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Is-gadeirydd gynllun gwaith diwygiedig ar gyfer 2017-2018.

 

Nodwyd gan fod gwrthdaro â PDChP Diogelu ar 20 Rhagfyr 2017, efallai bydd rhaid i eitemau'r agenda gael eu haildrefnu ar gyfer dyddiad arall.

 

Nododd y pwyllgor y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r cyngor ar 23 Tachwedd 2017 yn diwygio'r cylch gorchwyl ar gyfer y 5 Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisïau.  O ganlyniad i nifer yr eitemau yn y cynllun gwaith presennol, cytunodd y pwyllgor i barhau i gwrdd yn fisol.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r cynllun gwaith a ddiwygiwyd yn cael ei nodi.