Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

22.

Cofnodion. pdf eicon PDF 115 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 27 Medi 2017 fel cofnod cywir.

23.

Cyflogadwyedd - Rhaglen Abertawe'n Gweithio. (Cyflwyniad)

Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi & Atal

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Tlodi a'i Atal gyflwyniad i amlinellu Rhaglen Waith Abertawe.

 

Nod y rhaglen oedd symleiddio'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd i bobl Abertawe nad ydynt yn gweithio.

 

Amlygodd y canlynol:

 

Pecyn cefnogaeth

 

-                  Cynnig model cyflogadwyedd ar draws y ddinas (a gynigir i bawb, nid i'r ardaloedd targed yn unig);

-                  Pawb i gael mynediad i gyfleoedd sy'n cael eu creu drwy adfywio;

-                  Adeiladu ar waith cyflogadwyedd presennol (drwy 5 rhaglen a ariennir yn allanol);

-                  Cynyddu gweithgarwch i wella cyfleoedd bywyd.

 

Nodau

 

-                  Ymagwedd gyfannol yn seiliedig ar bobl at gynnwys, cyflogadwyedd a chefnogaeth sgiliau;

-                  Llwybrau cyflogaeth pobl leol i sectorau galw/twf;

-                  Gwneud y mwyaf o ffyniant i leihau tlodi.

 

Angen

 

-                  Mae 24,000 o bobl sy'n anweithgar yn economaidd yn Abertawe;

-                  Mae tlodi'n uchel iawn ymhlith pobl sy'n gweithio;

-                  Mae diweithdra tymor byr a chylchol yn uchel.

 

Sectorau twf

 

-                  Gofal cymdeithasol/iechyd;

-                  Digidol;

-                  Adeiladu;

-                  Diwydiannau creadigol;

-                  Morol;

-                  Lletygarwch;

-                  Canolfan Alwadau.

 

Ymagwedd

 

-                  Cyfuno ymagweddau;

-                  Ymagwedd gyson yw'r ffordd orau i'r dinesydd;

-                  Cyfuno adnoddau'n fewnol ac yn allanol;

-                  Darparu cefnogaeth hollgynhwysfawr;

-                  Nodi a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth;

-                  Ehangu'r targedau sy'n cael eu cyflawni ar hyn o bryd;

-                  Gweithio gyda phartneriaid.

 

Y model 5 cam:

 

-                  Nodi'n gynnar a chynnwys;

-                  Cynllunio a chydlynu unigol;

-                  Datblygu sgiliau;

-                  Cyflogaeth;

-                  Datblygu sgiliau mewn swyddi.

 

Canlyniadau

 

-                  Cynyddu cefnogaeth unigol;

-                  Cynyddu'r gyfradd sy'n cael gwaith o 20% i 50%;

-                  Mwy o grwpiau cleientiaid;

-                  Cysylltu ffyniant i'r angen i drechu tlodi;

-                  Lleihau effaith diwygio lles;

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau amrywiol ac ymatebodd y swyddog yn briodol.

 

Rhoddodd Pennaeth Tlodi a'i Atal wybod i'r pwyllgor am daflen a fyddai'n cael ei dosbarthu cyn bo hir i gymdeithasau tai, llyfrgelloedd, etc, a gofynnodd i gynghorwyr ei throsglwyddo i unrhyw grwpiau perthnasol eraill.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cyflwyniad;

2)              Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf y flwyddyn nesaf (tua mis Mawrth 2018) am gynnydd y cynllun.

24.

Llwgu dros y Gwyliau - Adolygiad o Raglen yr Haf a Chynllun ar gyfer Gwyliau Ysgol yn y Dyfodol. (Cyflwyniad)

Andrew Vie & Becky Cole, Gwalia.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adolygiad gan Becky Cole o'r elusen Gwalia (rhan o Grŵp Pobl) o'r rhaglen haf 'What's on Blaenymaes 2017' a gynhaliwyd yn ardal Blaenymaes. 

 

Nododd fanylion y cynllun peilot 5 wythnos a oedd yn seiliedig ar ymateb CLlLC  er mwyn mynd i'r afael â ‘diffyg bwyd dros y gwyliau'. Rhaglen wella Hwyl a Bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol, a gafodd ei llunio a'i threialu yng Nghaerdydd yn 2015, oedd yr enghraifft gyntaf yn y DU o brosiect amlasiantaeth a oedd yn darparu prydau iach, sgiliau maeth, chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill yn ystod gwyliau'r ysgol.

 

Roedd ardal Blaenymaes wedi'i dewis oherwydd bod ganddi'r crynhoad uchaf o eiddo mewn un ardal a'r nifer mwyaf o bartneriaid yn yr ardal ddaearyddol, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr 3ydd sector.

 

Roedd tebygolrwydd mawr na fyddai plant yn yr ardal yn derbyn prydau digonol yn ystod gwyliau'r ysgol. Roedd hyn yn seiliedig ar y ffaith y cofnodwyd bod 284 o blant yn derbyn prydau ysgol am ddim.

 

Ar ôl 2 gyfarfod cynllunio a oedd yn cynnwys 22 o asiantaethau partner, dyfeisiwyd y cynllun mewn 10 wythnos yn unig a gwirfoddolodd 17 o bartneriaid i roi o'u hamser i'r cynllun.

 

Hysbysebwyd y cynllun drwy bosteri a oedd yn cael eu harddangos mewn siopau, cyfleusterau cymunedol, swyddfeydd tai rhanbarthol, cyfryngau cymdeithasol, ac ar wefan Gwalia (Pobl). Anfonwyd negeseuon testun at bob tenant ac anfonwyd slipiau i gartrefi disgyblion ysgol ar ddiwedd y tymor.

 

Cynhaliwyd y cynllun dros 25 o ddiwrnodau wrth i amrywiaeth o asiantaethau partner gyflwyno gweithgareddau mewn lleoliadau amrywiol yn yr ardal, yn bennaf mewn adeiladau yn y gymuned. Darparwyd brecwast a chinio (cinio pecyn yn bennaf).

 

Daeth 32 o blant i bob sesiwn ar gyfartaledd a bwydwyd yr holl blant (yr uchafswm oedd 70 ar un diwrnod!). Roedd rhai plant hefyd yn gallu mynd â bwyd dros ben gartref i'w teuluoedd.

 

Bu'r cynllun yn llwyddiant mawr a dysgwyd y gwersi canlynol:

 

·                 Mae tlodi bwyd yn bwnc sensitif;

·                 Dywedodd rhai plant nad oeddent wedi cael brecwast;

·                 Gofynnodd rhai plant am fwyd ychwanegol i fynd ag ef gartref i aelodau o'u teulu;

·                 Mae meithrin perthnasoedd yn hanfodol er mwyn cynnwys teuluoedd;

·                 Mae angen ymagwedd fwy penodol;

·                 Nid oedd rhai preswylwyr yn ymwybodol o'r cyfleusterau cymunedol amrywiol yn eu lleoliad;

·                 Hyrwyddodd yr holl bartneriaid sesiynau a gweithgareddau eraill i annog cynnwys ehangach;

·                 Roedd partneriaid yn barod i ail-greu'r cynllun ar adegau eraill o'r flwyddyn;

·                 Y gobaith yw ehangu'r cynllun a'r nifer sy'n ei ddefnyddio.

 

Byddai'r cynllun yn cael ei gynnal eto yn ystod hanner tymor yr wythnos nesaf. Trefnwyd digwyddiad cynllunio ar gyfer mis Tachwedd a byddai'r Fforwm Partneriaeth Tlodi'n trafod cynlluniau'r dyfodol mewn cyfarfod ddydd Gwener. Hefyd, roedd Abertawe'n disgwyl bod yn rhan o brosiect parhaus CLlLC, a fyddai'n cael ei gynnal yn 2018.

 

Ar ôl i'r ddogfen werthuso gael ei chadarnhau, byddai'n cael ei dosbarthu i'r pwyllgor er gwybodaeth.

 

Bu Pennaeth Tlodi a'i Atal yn siarad ar ran Amanda Owen, Cydlynydd Agweddau Iach, Abertawe, na allai ddod, i fynegi ein diolchgarwch i Gwalia am roi'r cynllun at ei gilydd. Bu'n llwyddiant ysgubol a'r gobaith oedd y gellid llunio pecynnau cyngor ar gyfer sefydliadau cymunedol/partneriaid eraill sydd am gynnal cynlluniau tebyg o bosib.

 

Roedd y pwyllgor yn llawn edmygedd o'r 'ymdeimlad cadarnhaol' a oedd wedi'i greu gan yr asiantaethau amrywiol, gan arwain at 'godi calonnau' yn y gymuned. Roeddent yn edrych ymlaen at gael y newyddion diweddaraf maes o law.

25.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2017-2018 gan yr Is-gadeirydd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cynllun gwaith;

2)              Darparu'r newyddion diweddaraf am Raglen Waith Abertawe ym mis Mawrth 2018.