Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 75 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 23 Awst 2017 fel cofnod cywir.

16.

Adborth/Cyflwyniadau gan Aelodau ar eu Hymchwil - Trawsnewid Cymunedau'n Gyntaf.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem i gyfarfod yn y dyfodol gan mai dim ond heddiw oedd y pwyllgor yn cael eu briffio ar drawsnewidiad Cymunedau’n Gyntaf.

17.

Trawsnewid Cymunedau'n Gyntaf. pdf eicon PDF 129 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Tlodi a’i Atal adroddiad ‘er gwybodaeth’ mewn perthynas â Thrawsnewidiad Cymunedau’n Gyntaf.

 

Roedd yn amlinellu manylion datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar 14 Chwefror 2017 a oedd yn trafod y broses o ddileu Cymunedau’n Gyntaf yn raddol.

 

Fel rhan o’r cyhoeddiad, bydd gwerth bron £12m o gyllid ar gael ledled Cymru o fis Ebrill 2018 ar gyfer cefnogaeth cyflogadwyedd, gan gefnogi’r rhaglen Cymunedau am Waith. Bydd gan awdurdodau lleol y cyfle i gyflwyno’r isadeiledd newydd hwn cyn mis Ebrill 2018. Byddai’r cyllid hwn yn sicrhau isadeiledd ar gyfer cyflwyniad parhaus Cymunedau am Waith yn ogystal â chefnogaeth barhaus ar gyfer rheoli, costau adeiladau a swyddi mentora a chynnwys ychwanegol – Grant Cyflogadwyedd yw’r enw ar hyn.

 

Mae Abertawe wedi’i gadarnhau fel un o bedwar awdurdod lleol ar draws Cymru a fydd yn ‘fabwysiadwr cynnar’ o’r Grant Cyflogadwyedd ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i ddileu rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn raddol erbyn 31 Rhagfyr 2017 a rhoi strwythur ar waith ar gyfer cyflwyno’r Grant Cyflogadwyedd o 1 Ionawr 2018.

 

Amlinellodd yr egwyddorion a’r ystyriaethau allweddol canlynol ar gyfer y cynllun:

 

·                   Amserlenni;

·                   Staffio;

·                   Sefydliadau trydydd parti (Ffydd mewn Teuluoedd a Menter Chwarae Plant Bonymaen);

·                   Adeiladau.

 

Rhoddodd hefyd fanylion am raglen Esgyn sydd wedi bod ar waith yng nghlwstwr y gogledd-orllewin (Penderi). Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y dylai’r rhaglen ESGYN yn Abertawe, fel mabwysiadwr cynnar, fod yn rhan o’r broses drawsnewid ehangach fel bod staff yn cael cyfle teg a chyfartal i ymgeisio, o bosib, am rolau a fydd ar gael drwy’r Grant Cyflogadwyedd.

 

Er y dyluniwyd rhaglen Cymunedau’n Gyntaf i gyflwyno ‘prosiectau’ cytunedig yn lleol, ni fyddai’r Grant Cyflogadwyedd newydd yn cyflwyno prosiectau o’r fath. Byddai’r Grant Cyflogadwyedd yn darparu mentora un-i-un dwys ar gyfer cyfranogwyr.

 

Gwahoddwyd cynghorwyr â chlystyrau Cymunedau’n Gyntaf yn eu wardiau i gyfarfod ym mis Hydref i dderbyn diweddariad o ran y broses drawsnewid, gyda chyfarfodydd bob yn ail mis hefyd wedi’u trefnu.

 

Roedd y pwyllgor yn teimlo y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor Datblygu a chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y broses drawsnewid a chael gwahoddiad i unrhyw gyfarfodydd diweddaru perthnasol.

18.

Ymateb Cyngor Abertawe a Phartneriaeth Abertawe ehangach i roi'r gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn ar waith. pdf eicon PDF 163 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Tlodi a’i Atal a’r Rheolwr Hyfforddiant Budd-daliadau ac Ansawdd nodyn briffio a oedd yn rhoi gwybodaeth am y newid i Gredyd Cynhwysol (CC) yn Abertawe. Roedd yn cynnwys y canlynol:

 

·                 Cefndir am y newid, dyddiadau allweddol ac eithriadau;

·                 Ymateb i’r gwasanaeth gan yr Is-adran Budd-daliadau Tai a’r Tîm Hawliau Lles;

·                 Y ffordd rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i ddarparu cefnogaeth bellach;

·                 Gwybodaeth friffio gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n disgrifio ei hymateb lleol.

 

Nododd y Rheolwr Hyfforddiant Budd-daliadau ac Ansawdd y byddai angen cefnogaeth ddigidol ar hawlwyr i’w helpu i gwblhau hawliad CC ar-lein yn ogystal â chymorth i gynnal eu CC yn y dyfodol mewn perthynas â darparu tystiolaeth am geisiadau swyddi, etc.

 

Bydd y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion, y Tîm Budd-daliadau Tai, y Tîm Hawliau Lles a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn archwilio cyfleoedd i ddarparu dwy lefel o gefnogaeth ddigidol o’r Ganolfan Gyswllt, gan adeiladu ar y gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

·                  Cymorth ar unwaith gyda hawliadau CC ac ymrwymiadau;

·                  Hyfforddiant a chefnogaeth bellach, gan gynnwys cyfeirio i wasanaethau partner eraill i ddatblygu gallu unigolion.

 

Cynhelir hyfforddiant i staff Budd-daliadau Tai tua chanol mis Tachwedd cyn rhoi’r gwasanaeth ar waith ym mis Rhagfyr.

 

Roedd y gwaith partneriaeth ehangach a nodwyd i gefnogi’r mater yn cynnwys:

 

·                 Mapio darpariaeth ar draws y bartneriaeth;

·                 Deall dyblygu a gweithio ar y cyd i fwyafu’r defnydd o adnoddau, arbed costau ac ailgyfeirio er mwyn llenwi bylchau mewn gwasanaethau;

·                 Cymryd ymagwedd bartneriaeth ehangach at gyflwyno Cefnogaeth Cyllidebu Personol;

·                 Darparu cyngor ar y cyd ac edrych ar ddeunyddiau hyrwyddo ar y cyd i sicrhau y cyflwynir negeseuon cyson;

·                 Gweithio’n rhagweithiol gyda staff rheoli a phersonél lleol yr Adran Gwaith a Phensiynau i’w helpu i ddarparu cyngor a gwaith ar atebion cydweithredol er mwyn lliniaru’r problemau y mae hawlwyr yn eu hwynebu.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau amrywiol i’r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Cafwyd trafodaeth hir wedyn gydag awgrymiadau amrywiol yn cael eu gwneud, gan gynnwys syniadau ar sut gellid lledaenu cyngor i’r cyhoedd mor eang â phosib.

19.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2017-2018.

 

Penderfynwyd nodi’r cynllun gwaith.

20.

Amserau Cyfarfodydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018.

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl gan fod y pwyllgor eisoes wedi cytuno y dylai cyfarfodydd ddechrau am 4pm.