Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 53 KB

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir.

12.

Strategaeth Trechu Tlodi Ddrafft. (Cyflwyniad)

Chris Sivers – Cyfarwyddwr Pobl.

Cofnodion:

Roedd yr ymgynghoriad drafft ar Strategaeth Trechu Tlodi 2017-2020 (ddiwygiedig) ar gyfer Abertawe wedi'i ddosbarthu ac ategodd Chris Sivers, Cyfarwyddwr Pobl, yr adroddiad gydag adroddiad am y strategaeth tlodi a'r cynllun gweithredu.

 

Amlinellodd ddiffiniad Abertawe o dlodi:

 

Tlodi incwm - heb fod yn rhwystr i gyflawniad yn yr ysgol, bywyd iach/bywiog, sgiliau/cymwysterau, swydd foddhaus

 

Tlodi gwasanaethau - clustnodi adnoddau lle maent yn fwyaf effeithiol, a gwneud penderfyniadau ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth

 

Cyfranogiad wedi'i fwynhau gan bob preswylydd, sy'n cael mynediad i amrywiaeth eang o brofiadau diwylliannol, cymdeithasol a hamdden. Mae preswylwyr yn cymryd rhan mewn penderfyniadau.

 

Gwnaeth y Panel Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi nifer o argymhellion ac roedd bron bob un ohonynt wedi'u cynnwys yn y strategaeth ddrafft.

 

·                 Gwneud ymrwymiad newydd i drechu tlodi;

·                 Canolbwyntio ar 'yr hyn sy'n gweithio’;

·                 Rhoi pobl sydd mewn tlodi wrth wraidd y strategaeth;

·                 Cydweithio'n llawn drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe;

·                 Atgyfnerthu'r cysylltiadau â pholisïau economaidd;

·                 Ailfeddwl yr ymagwedd ardaloedd targed;

·                 Mae trechu tlodi'n berthnasol i bawb;

·                 Cadw'r strategaeth yn gyfredol.

 

Pwysleisiodd fod tlodi'n berthnasol i bawb a bod gan yr holl adrannau gyfrifoldeb, nid yr Adran Tlodi a'i Atal yn unig. Roedd cysylltiadau agosach â'n polisi datblygu economaidd bellach ac mae 'pob cyswllt yn cyfrif' ac mae gwaith gyda phartneriaid yn datblygu i ehangu ein hymagwedd.

 

O'r herwydd, roedd y canlyniadau'n cyd-fynd â rhai Cynllun Un Abertawe, fel a ganlyn:

 

·                 Dechrau da mewn bywyd i blant;

·                 Pobl yn dysgu'n llwyddiannus;

·                 Swyddi da i bobl ifanc ac oedolion;

·                 Safon byw dda i bobl;

·                 Pobl yn iach, yn ddiogel ac yn annibynnol;

·                 Lleoedd da i bobl fyw a gweithio ynddynt.

 

Estynnwyd y broses ymgynghori i 6 Hydref 2017 gyda fersiynau dwyieithog llawn a hawdd eu darllen ar gael.

 

Yna awgrymodd y dylid trafod 3 eitem o Fframwaith Perfformiad Cynllun Cyflawni Strategaeth Trechu Tlodi 2017-2020:

 

1.               Cynyddu llythrennedd digidol, cynyddu mynediad i amrywiaeth eang o wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys cynhwysiad ariannol

·             Mynediad mewn ardaloedd gwledig

·             Hyfforddi pobl sy'n amheus o TG

·             Lleihau unigedd

 

2.               Ystyried comisiynu astudiaeth cyfranogaeth a chyfranogiad yn Abertawe: 

·             Comisiwn Gwir am Dlodi Leeds

·             Yn debyg â naws Abertawe

·             Ystyried y pethau rydym yn eu gwneud (cyd-gomisiynu, etc)

 

3.               Comisiynu Policy in Practice i weithio ochr yn ochr â Thîm Refeniw a Budd-daliadau'r cyngor i nodi effaith gronnol diwygiadau budd-daliadau ar aelwydydd yn Abertawe:

·             Effaith diwygiadau lles ar aelwydydd

·             Bydd y rhan fwyaf o aelwydydd ar eu colled

·             Clustnodi'r gwasanaeth i'r rhai sydd mewn perygl

o    Cyflogadwyedd er mwyn cynyddu incwm

o    Tai i ddiogelu tenantiaethau

 

Trafododd y pwyllgor y 3 eitem uchod ac awgrymodd y dylem ymchwilio i'r arbenigedd sy'n cael ei ddatblygu mewn ysgolion a chyfranogaeth arall gan gymunedau o ran eitem 1.

 

O ran eitem 3, awgrymwyd cynnal digwyddiad megis "sioe deithiol" mewn cymunedau a oedd yn debygol o gael eu heffeithio. Hefyd, datganodd y cynghorwyr y byddai'n fanteisiol derbyn mwy o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer cyflwyno Credyd Cynhwysol yn y cyfarfod nesaf. 

 

PENDERFYNWYD y bydd y pwyllgor yn derbyn mwy o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer cynlluniau Credyd Cynhwysol yn y cyfarfod sydd wedi'i drefnu ar gyfer 27 Medi 2017.

13.

Cynllun Gwaith 2017-2018. pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Pobl y cynllun gwaith ar gyfer 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Nodi'r cynllun gwaith;

2)              Ychwanegu'r cynlluniau ar gyfer cyflwyno Credyd Cynhwysol at agenda'r cyfarfod sydd wedi'i drefnu ar gyfer 27 Medi 2017;

3)              Y bydd y cyfarfod sydd wedi'i drefnu ar gyfer 27 Medi 2017 yn dechrau am 3pm ac yn para am 2 awr.