Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi a gynhaliwyd ar 25 Mai 2017 fel cofnod
cywir. |
|
Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth.) Hybu datblygu Polisïau Corfforaethol Lleihau Tlodi y
cyngor i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor fel y bo'n
briodol. Sylwer: Gall Pwyllgorau Polisi a Datblygu gyfethol eraill i'r
Pwyllgor naill ai ar gyfer pwnc neu ar gyfer tymor os yw'r Pwyllgor yn ystyried
y bydd hyn yn ei helpu yn ei rôl. Cofnodion: Amlinellodd y Cadeirydd Gylch Gorchwyl
ar gyfer y pwyllgor, 'er gwybodaeth’. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. Cofnodion: Yn amodol ar gymeradwyaeth o adroddiad
Dinas a Sir Abertawe - Datganiad Ymrwymiadau Polisi a gaiff ei gyflwyno i'r
cyngor ar 27 Gorffennaf 2017, cynigwyd gohirio trafodaethau Cynllun Gwaith
2017-2018. PENDERFYNWYD gohirio trafodaethau Cynllun
Gwaith 2017-2018. |
|
AMSERLEN CYFARFODYDD Y DYFODOL AR GYFER BLWYDDYN DDINESIG 2017-2018. Cofnodion: PENDERFYNWYD y bydd cyfarfodydd y pwyllgor yn dechrau
am 4pm yn y dyfodol. |