Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021 fel cofnod cywir yn amodol
ar ddiwygio Cofnod 17 - Tegwch Iechyd Gwyrdd (Tudalen 4, paragraff 5) i nodi
"amddifadedd". |
|
Cydlynydd Ardal Leol. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Jon
Franklin ac Amy Hawkins gyflwyniad trosolwg yn amlinellu cefndir gwaith y
Cydlynwyr Ardaloedd Lleol (CALl). Fe wnaethant
fanylu ar rôl a chyfrifoldebau'r CALl sy'n cynnwys y
meysydd canlynol: ·
Mae CALl bellach yn cwmpasu holl ardal Dinas a Sir Abertawe; ·
mae'r
rôl yn un ataliol sy'n seiliedig ar gryfder i raddau helaeth; ·
Y nod
yw cefnogi ac arwain pobl i aros yn hyderus a gwydn, eu galluogi i ddefnyddio'u
hadnoddau eu hunain i reoli heriau a lleihau neu oedi eu hangen am wasanaethau
ffurfiol. ·
Canolbwyntio
ar helpu pobl i helpu eu hunain; a'i gilydd. ·
Creu
cysylltiadau o fewn cymunedau i gefnogi pobl leol; ·
Mae
staff wedi'u lleoli yn y gymuned, ac yn aml maent yn defnyddio
adeiladau/ystafelloedd i helpu i sefydlu eu hunain a datblygu sylfaen a safle
gweledol amlwg yn eu cymuned; ·
Mae CALl yn rhan o rwydwaith cenedlaethol; www.lacnetwork.org ·
Maent
yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr Trechu Tlodi i helpu a chynorthwyo'r
cyhoedd; ·
Maent
yn gweithio gyda'r trydydd sector a gwirfoddolwyr yn arbennig ar faterion sy'n
ymwneud â thlodi bwyd drwy gysylltiadau rhagorol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig; ·
Cyfranogiad
Prifysgol Abertawe ac adolygiad a gwerthusiad academaidd o'r rôl ac ehangu'r
ddarpariaeth CALl, yr adroddir ar ei ganlyniadau yn y
dyfodol. Yn dilyn y
cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau amryw gwestiynau a gwnaethant sylwadau am y
gwaith rhagorol a wnaed gan y CALl yn y gorffennol
a'u cefnogi'n llawn gan amlinellu y bydd eu rolau'n mynd yn anoddach wrth symud
ymlaen oherwydd pwysau allanol, yr ymatebodd y Swyddogion iddynt yn unol â
hynny. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 126 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2021-2022. Amlinellodd y
byddai'r adroddiad ar Bolisi Tyfu Bwyd Cymunedol yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod
nesaf. Penderfynwyd nodi cynnwys diwygiedig yr adroddiad. |