Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 71 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflwyno a Datblygu Polisi Diogelu a gynhaliwyd ar 16 Awst 2017 fel cofnod cywir.

 

17.

Model Gwasanaeth Trosgynnol y Gwasanaethau i Oedolion. pdf eicon PDF 327 KB

Cofnodion:

Darparodd Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion adroddiad a rhoddodd gyflwyniad ar Fodel Gwasanaeth Trosgynnol y Gwasanaethau i Oedolion, a gyflwynwyd i'r cabinet ar 15 Mehefin 2017.

 

Fel rhan o broses yr Adolygiad Comisiynu Corfforaethol, eglurwyd y cytunwyd i gynnal y pedwar adolygiad yn y Gwasanaethau i Oedolion fel a ganlyn:

 

·         Gofal yn y Cartref

·         Gofal Preswyl i Bobl Hŷn

·         Gwasanaethau Dydd i Bobl Hŷn

·         Llety a chefnogaeth yn ystod y dydd i bobl ag Anableddau Dysgu, Anableddau Corfforol a phryderon iechyd meddwl.

 

Er mwyn bodloni gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a meddu ar weledigaeth glir, datblygwyd model gwasanaeth a gweledigaeth gytunedig.  Roedd y model yn seiliedig ar 6 phrif egwyddor, fel a ganlyn:

 

·         Atal yn well

·         Help cynnar, gwell

·         Ymagwedd newydd at asesu

·         Gwell cost effeithiolrwydd

·         Gweithio gyda'n gilydd yn well

·         Cadw pobl yn ddiogel

 

Dylai'r egwyddorion hyn gael eu gwreiddio yn yr holl waith a wneir gan y Gwasanaethau i Oedolion.  Er mwyn cydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), datblygwyd pedair haen o gefnogaeth.

 

Dan y model, byddai'r Gwasanaethau i Oedolion yn ceisio cefnogi pobl ar yr haen isaf posib i gynnal annibyniaeth a lleihau dibyniaeth ar gefnogaeth statudol.  Ychwanegwyd y byddai cyflwyno'r model yn llwyddiannus yn dibynnu ar weithio ar y cyd ar draws y cyngor a chyda phartneriaid allanol. 

 

Darparwyd y model yn Atodiad 1.  Y cam cyntaf o roi'r model ar waith oedd cyflwyno canlyniad yr Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref.

 

Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·         Y broses ymgynghori;

·         Cyflwyno'r model i sefydliadau allanol;

·         Goblygiadau ariannol y model a'r angen i gyflwyno ymagwedd wahanol;

·         Ymatebion sy'n gyffredinol gadarnhaol a dderbyniwyd gan bartneriaid allanol;

·         Sut roedd y model wedi dilyn egwyddorion a chanllawiau'r statud;

·         Asesiadau poblogaeth a dulliau gweithio cynaliadwy;

·         Amserlen y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno;

·         Gwasanaethau a ddarperir i oedolion ifanc anabl;

·         Sut roedd y model yn cyd-fynd ag awdurdodau lleol eraill a Bae'r Gorllewin;

·         Dulliau asesu gwahanol a thargedu gwelliannau;

·         Y ffocws ar gadw annibyniaeth unigolion a chaniatáu iddynt aros gartref.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'r cyflwyniad.

</AI3>

 

18.

Contractau yn ôl y galw/cyflenwi. pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar yr ymagwedd orau er mwyn casglu barn am ddefnyddio contractau sero oriau/wrth gefn, mewn pryd ar gyfer yr eitem agenda a drefnwyd ar gyfer cyfarfod PDChP mis Rhagfyr.

 

Ychwanegwyd bod swyddogion wedi ceisio cyngor gan AD ynghylch yr ymagwedd orau at sicrhau bod gan y PDChP yr wybodaeth angenrheidiol a hefyd fod staff wedi'u diogelu'n effeithiol.  Yn gyffredinol, defnyddiwyd y rhan fwyaf o staff i gyflenwi ar gyfer swyddi gradd 5 a 6 rheng-flaen cymharol gyffredin, a oedd yn hanfodol yn ystod absenoldebau staff parhaol. 

 

Roedd AD felly wedi dweud na fyddai'n briodol i gynnal trafodaeth â staff ar y lefel hon mewn fforwm cyhoeddus, oherwydd gallai gwybodaeth bersonol gael ei datgelu a gallai rhai aelodau o staff deimlo dan fygythiad gan y fath drafodaeth mewn fforwm agored mawr.   Cadarnhawyd nad oedd gan unrhyw aelodau o staff gontractau sero oriau a bod yr awdurdod yn defnyddio contractau wrth gefn mewnol yn unig.

 

Trafododd y pwyllgor yr opsiynau sydd ar gael, a oedd yn cynnwys cynghorwyr yn cwrdd â staff a dosbarthu holiadur i staff.  Dywedodd aelodau y dylid ystyried yn ofalus nifer y staff sydd eu hangen i asesu barn staff a'r cwestiynau sy'n cael eu holi yn yr holiadur.  Gofynnodd y pwyllgor hefyd am fwy o wybodaeth gefndir, gan gynnwys faint o staff y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn rhan o hyn, pa mor aml roeddent yn gweithio a'r oriau a weithiwyd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol: -

 

1)    Bydd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch faint o staff y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn rhan o hyn, pa mor aml roeddent yn gweithio a'r oriau a weithiwyd;

2)    Bydd y pwyllgor yn trafod y mater ymhellach yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

19.

Cynllun Gwaith 2017-2018. pdf eicon PDF 58 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2017-2018. 

 

Esboniodd fod angen i'r cyfarfod pwyllgor ddechrau ar amser amgen oherwydd gwrthdaro â'r Panel Craffu Perfformiad Ysgolion.  Ystyriodd y pwyllgor yr opsiynau sydd ar gael. 

 

Penderfynwyd y byddai'r cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 18 Hydref 2017 yn cychwyn am 5.00pm, yn amodol ar argaeledd swyddogion.