Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi,
fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi Diogelu a gynhaliwyd ar 25 Mai fel cofnod cywir. |
|
Y Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth.) Hybu datblygu Polisïau Corfforaethol Diogelu y cyngor i'w hystyried a'u
mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor fel y bo'n briodol. Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd Gylch Gorchwyl ar gyfer y pwyllgor, er gwybodaeth. Amlinellodd i'r
aelodau'r cefndir a’r rhesymeg dros gyflwyno'r Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno
Polisi (PDCP). Nododd mai bwriad y
pwyllgorau oedd eu bod yn canolbwyntio ar ddatblygu polisi a sicrhau cyflwyno,
yn bennaf drwy ymrwymiadau polisi'r cyngor, i'w mabwysiadu gan y cyngor ar 27
Gorffennaf 2017. Y nod yw y bydd y pwyllgorau'n gweithredu er mwyn i aelodau a
swyddogion gydweithio gydag ymagwedd glir gan aelodau tuag at gyflwyno
Blaenoriaethau Corfforaethol. Rhoddodd fanylion i
dynnu sylw at y gwahaniaeth sylweddol rhwng y PCDP a Chraffu, gan amlinellu sut
maent yn wahanol i'r PCC oherwydd fe'u harweinir gan Flaenoriaethau
Corfforaethol drwy'r Cadeirydd ac nid drwy Aelod y Cabinet, er bydd y
cysylltiadau agos â phroses y Cabinet ac Aelod y Cabinet yn parhau. Dylai'r PDCP geisio darparu canlyniadau clir ar ôl cyflwyno ymchwil, tystiolaeth a gwybodaeth a dylai geisio osgoi unrhyw ddyblygiad o waith â'r 4 PDCP arall er gall cydweithio fod yn angenrheidiol mewn rhai pynciau. |
|
Cefndir i'r Siarter Gofal Moesegol. PDF 180 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau i Oedolion adroddiad drafft a nododd fanylion Siarter Gofal
Moesegol Unsain. Esboniwyd bod Siarter
Gofal Moesegol Unsain wedi'i chreu oherwydd arolwg gweithwyr gofal cartref o'r
enw 'Amser i Ofalu' a gynhaliwyd rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf 2012 i
gasglu eu barn ar pam y cafwyd cymaint o broblemau yn y sector. Darparwyd
manylion yr arolwg yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Nododd fod Undebau Llafur ar waith yn Abertawe a bydd rhaid i unrhyw
gytundebau'r dyfodol dderbyn cyd-gytundeb gan yr Undebau Llafur. Datganodd Unsain
mai 'prif fwriad y siarter oedd sefydlu gwaelodlin ar gyfer diogelwch, ansawdd
ac urddas gofal trwy sicrhau amodau cyflogaeth sy'n sicrhau bod cleientiaid yn
talu pris teg a bod gweithlu cadarn yn cael ei recriwtio a'i gadw trwy gyflog,
amodau a lefelau hyfforddi cynaliadwy. Yn hytrach na chynghorau'n ceisio arbed
arian trwy leihau cyflog ac amodau sydd wedi bod yn gyffredin i staff y cyngor,
dylent ddefnyddio'r rhain fel meincnod.' Nodwyd hefyd ar
wefan ymgyrch Unsain, www.savecarenow.org.uk, fod 27 awdurdod lleol, 2 gwmni masnachu
awdurdod lleol a 2 ddarparwr wedi cyhoeddi eu bod wedi mabwysiadu'r Siarter
Gofal Moesegol. Darparwyd manylion yn
Atodiad 2. Cyhoeddwyd adroddiad o'r enw
'Nodyn Briffio Drafft ar gyfer Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ar Oblygiadau
Mabwysiadu Siarter Gofal Moesegol Unsain i Gomisiynu Gwasanaethau Gofal Cartref
yn Ninas a Sir Abertawe' dyddiedig Ionawr 2015 i'r Bwrdd Gweithredol ym mis
Ebrill 2015. Roedd hyn yn crynhoi sefyllfa Dinas a Sir Abertawe o ran y siarter
tri cham parthed ei weithlu gofal cartref mewnol ac allanol. Ymhellach, yn ei
arweiniad ar fabwysiadu siarter ar gyfer cynghorau a darparwyr eraill,
datganodd Unsain ‘y ceir ymrwymiad i gam 1 ar unwaith, a bwriad i fabwysiadu
camau 2 a 3’ wrth gofrestru ar gyfer y siarter.
Nodwyd bod Dinas a Sir Abertawe eisoes wedi bodloni/bron wedi bodloni
llawer o ofynion y Siarter Gofal Moesegol a darparwyd y manylion yn Atodiad 3. Nodwyd bod Dinas a Sir
Abertawe eisoes wedi bodloni 4 allan o 5 maen prawf yng Ngham 1. Yr unig
faen prawf lle cafwyd ansicrwydd o ran cydymffurfio yn y sector gofal cartref
allanol oedd 'Bydd gweithwyr gofal cartref yn cael eu talu am eu hamser
teithio, costau teithio a threuliau angenrheidiol eraill megis ffonau symudol'
gan nad oedd yr arolwg wedi gofyn am dalu 'treuliau angenrheidiol eraill'. O'r 5 maen prawf
yng Ngham 2, mae Dinas a Sir Abertawe eisoes wedi bodloni neu ragori ar
3 ohonynt: - ·
Datganodd
un o'n darparwyr gofal cartref allanol yr oeddent yn cynnig cytundebau heb
oriau’n unig; ·
Roedd
un o'n darparwyr allanol yn disgwyl i'w staff dalu am gostau hyfforddi. Nid oedd Dinas a
Sir Abertawe yn bodloni'r ddau faen prawf yng Ngham 3, sef: - ·
Bydd pob
gweithiwr gofal cartref yn derbyn o leiaf y cyflog byw (£8.45 yr awr y tu allan
i Lundain). ·
Byddai
pob gweithiwr gofal cartref yn cael ei gynnwys mewn cynllun tâl salwch
galwedigaethol. Amlinellodd yr
adroddiad hefyd sut y gallai'r awdurdod fynd i'r afael â meysydd nad ydynt yn
cydymffurfio â hwy, Siarter Gofal Abertawe, a goblygiadau mabwysiadu Siarter
Gofal. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Trafodaethau
gyda darparwyr allanol o ran datblygu siarter; ·
Darpariaeth
gymysg yn cael ei darparu'n fewnol ac yn allanol; ·
Goblygiadau
ariannol y siarter; ·
Goblygiadau
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru); ·
Diben
cyffredinol darparu gofal cartref; ·
Newid
pwyslais o ddarpariaeth sy'n seiliedig ar amser, i ddarpariaeth sy'n seiliedig
ar ganlyniadau; ·
Yr
angen am hyblygrwydd yn y system; ·
Cydlynwyr
PDG yn mynd i'r afael ag unigrwydd unigolion mewn cymunedau; ·
Goblygiadau
ariannol, cymhwysedd a chefnogaeth Llywodraeth Cymru; ·
Canolbwyntio
ar hanfodion y siarter yn yr hyn yr oedd yr awdurdod yn ceisio ei wneud; ·
Cymharu
sut yr oedd awdurdodau/sefydliadau lleol eraill wedi mabwysiadu'r siarter; ·
Sut y
byddai'r awdurdod yn ymdrin â chontractau presennol ac yn y dyfodol; ·
Amserlenni
fframwaith perthnasol ac osgoi oedi'r broses; ·
Taliadau
uniongyrchol, cymariaethau ag awdurdodau cyfagos a rheoli risg. PENDERFYNWYD y
cytunir ar y camau gweithredu canlynol yn seiliedig ar ganfyddiadau hyd yn
hyn:- 1)
Ymateb
i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ar broblemau’r
gweithlu gofal cartref (Gorffennaf ac Awst 2017); 2)
Parhau
i wneud cynnydd ar Fenter Recriwtio a Chadw Gofal Canolraddol Bae'r Gorllewin,
gan sicrhau ei bod yn adnabod cysylltiadau â'r Siarter Gofal. 3)
Datblygu
Siarter Gofal ar gyfer darparu gofal yn Abertawe gyda darparwyr, comisiynwyr ac
Undebau Llafur a all gael ei chynnwys mewn ymarfer caffael yn y dyfodol; 4)
Cyd-gynhyrchu
manyleb gwasanaeth ar gyfer yr ymarfer caffael; 5)
Cynnwys
cwestiwn tendro 'Arferion Gwaith Teg' mewn ymarfer caffael yn y dyfodol i bennu
ei werth yn ogystal â meini prawf eraill i sicrhau cydbwysedd priodol rhwng
ansawdd a chost y contract; 6) Gwneud cymariaethau ag awdurdodau/sefydliadau eraill sydd wedi mabwysiadu'r siarter. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. (Trafodaeth) Cofnodion: Pwysleisiodd y
cadeirydd unwaith eto y gall y pwyllgor drafod ei Raglen Waith a'i wneud yn
swyddogol ar ôl mabwysiadu'r Blaenoriaethau Corfforaethol ar 27 Gorffennaf 2017
yng nghyfarfod y cyngor. Cynhaliwyd
trafodaethau ynglŷn â phynciau'r dyfodol gan gynnwys deall model
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a gwasanaethau i blant, yn enwedig deall
cyfrifoldeb a rennir gydag asiantaethau mewnol ac allanol i roi tawelwch meddwl
bod yr un nodau'n cael eu ceisio. Ychwanegwyd y dylid
cymharu ag awdurdodau/sefydliadau eraill a oedd wedi mabwysiadu'r Siarter Gofal
Moesegol a dylid trafod amserlenni fframwaith swyddogion yn y cyfarfod nesaf a
drefnir. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi
cynnwys y trafodaethau; 2)
Bod y
cynghorydd E J King yn gwneud cymariaethau ag awdurdodau/sefydliadau eraill a
oedd wedi mabwysiadu'r Siarter Gofal Moesegol, ac yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod
nesaf a drefnir; 3)
Y
dylid trafod amserlenni fframwaith swyddogion yn y cyfarfod nesaf a drefnir. |
|
Amserau Cyfarfodydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018. Cofnodion: PENDERFYNWYD y bydd cyfarfodydd y pwyllgor yn dechrau
am 4pm yn y dyfodol ac yn parhau am oddeutu 2 awr. |