Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y
Dyfodol a gynhaliwyd ar 25 Medi a 27 Tachwedd 2018 a'u llofnodi fel cofnod
cywir. |
|
Cydgynhyrchu. (Drafodaeth) Cofnodion: Rhoddodd Lisa
Banks, Swyddog Cyllunio - Anableddau Dysgu,
gyflwyniad ar 'Gydgynhyrchu - Gweithio gyda'n Gilydd'
a oedd yn cynnwys: - ·
Ysgogwyr 'o'r pen i'r gwaelod' - gweledigaeth a rennir ·
Safbwynt
cenedlaethol ·
Tybiaethau ·
O
ymgynghori i gydgynhyrchu - "cam i fyny" ·
6
egwyddor cydgynhyrchu ·
Beth
yw ystyr cydgynhyrchu? ·
Model
cynnwys Alain Thomas ·
Cymhelliant ·
Gallu
·
Astudiaethau
Achos: - Cysylltu Cymunedau - Falmouth Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) Rhwydwaith Defnyddwyr
Gwasanaeth S.U.N Fesul Teulu ·
Cydgynhyrchu yn ymarferol Dangoswyd fideo
cyn y cyflwyniad ar ystyr cydgynhyrchu. Gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddog Cyflwyno
a ymatebodd yn briodol. Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: - ·
Ddatblygiad
a chynnydd strategaeth cydgynhyrchu ar gyfer y cyngor ·
Y
gwahaniaeth rhwng cydweithio a chydgynhyrchu - rhaid
i gydgynhyrchu fodloni'r 6 egwyddor a nodwyd ·
Mae cydgynhyrchu'n dechrau o gychwyn cyntaf y broses ·
Mynd
i'r afael â materion cydbwysedd pŵer a bygythion a all fod yn amlwg gyda chydgynhyrchu - sicrhau na ddefnyddir jargon ·
Byddai
angen newid diwylliannol i hwyluso cydgynhyrchu'n
llawn - newid sut trefnir cyfarfodydd, sut llunnir agendâu etc. ·
Roedd
ambell destun dryswch ac anghysondeb wrth fynd ati i gydgynhrychu
- lle dywedwyd bod gwaith wedi'i gydgynhyrchu ond nid
cydgynhyrchu gwirioneddol oedd hyn. ·
Roedd
cydgynhyrchu fel arfer yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus
a'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau maent yn eu darparu. ·
Roedd
angen eglurder o ran gwneud penderfyniadau wrth gydgynhyrchu
- a allai adroddiadau/polisïau a gydgynhyrchwyd gael
eu newid/gwahardd gan benderfynwyr? ·
Gofynnwyd
am dystiolaeth i ddangos manteision ac effaith cydgynhyrchu
yn ogystal ag unrhyw wersi a ddysgwyd ·
Rhwydwaith
Cydgynhyrchu Abertawe - helpodd hwn i nodi
rhwydweithiau ar gyfer cydgynhyrchu ·
Rheolaeth
- cam i fyny o gydgynhyrchu lle mae defnyddwyr
gwasanaeth yn gyfrifol am gynnal gwasanaeth ·
Astudiaethau
achos - cywirdeb y canlyniadau yr adroddwyd amdanynt ·
Enghreifftiau
lle defnyddiwyd cydgynhyrchu ·
Effaith
cydgynhyrchu ar adnoddau a chyllideb ·
Prin
yw'r enghreifftiau o ddefnyddio cydgynhyrchu mewn
awdurdodau eraill - credir mai Abertawe ar hyn o bryd fyddai'r awdurdod cyntaf
yng Nghymru i feddu ar strategaeth cydgynhyrchu Diolchodd y pwyllgor i'r Swyddog Cynllunio
- Anableddau Dysgu, am y cyflwyniad. Penderfynwyd - 1)
Y
byddai'r Swyddog Strategaeth a Pholisi yn anfon copi o'r cyflwyniad a
manylion/dolenni pellach i'r astudiaethau achos a amlygwyd yn y cyflwyniad; ac 2)
Y
trefnir gweithdy ar gydgynhyrchu |
|
Cynllun Gwaith 2018 - 2019. PDF 110 KB Cofnodion: Trafododd y
pwyllgor gynnydd cydgynhyrchu. Roedd yn ddarn mawr o
waith ac awgrymwyd y dylid trefnu gweithdy ar gydgynhyrchu,
o ddewis ym mis Chwefror os oedd hynny'n bosib. O ran eitemau'r
dyfodol, awgrymwyd y cysylltiad â'r rhyngrwyd yn Neuadd y Ddinas. Anogwyd y pwyllgor hefyd i ystyried pa rai o feysydd cyfathrebu'r cyngor y dylid canolbwyntio arnynt. |