Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

24.

Cofnodion: pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 25 Medi a 27 Tachwedd 2018 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

25.

Cydgynhyrchu. (Drafodaeth)

Cofnodion:

Rhoddodd Lisa Banks, Swyddog Cyllunio - Anableddau Dysgu, gyflwyniad ar 'Gydgynhyrchu - Gweithio gyda'n Gilydd' a oedd yn cynnwys: -

 

·             Ysgogwyr 'o'r pen i'r gwaelod' - gweledigaeth a rennir

·             Safbwynt cenedlaethol

·             Tybiaethau

·             O ymgynghori i gydgynhyrchu - "cam i fyny"

·             6 egwyddor cydgynhyrchu

·             Beth yw ystyr cydgynhyrchu?

·             Model cynnwys Alain Thomas

·             Cymhelliant

·             Gallu

·             Astudiaethau Achos: - Cysylltu Cymunedau - Falmouth

Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE)

Rhwydwaith Defnyddwyr Gwasanaeth S.U.N

Fesul Teulu

·             Cydgynhyrchu yn ymarferol

 

Dangoswyd fideo cyn y cyflwyniad ar ystyr cydgynhyrchu.

 

Gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddog Cyflwyno a ymatebodd yn briodol. Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: -

 

·             Ddatblygiad a chynnydd strategaeth cydgynhyrchu ar gyfer y cyngor

·             Y gwahaniaeth rhwng cydweithio a chydgynhyrchu - rhaid i gydgynhyrchu fodloni'r 6 egwyddor a nodwyd

·             Mae cydgynhyrchu'n dechrau o gychwyn cyntaf y broses

·             Mynd i'r afael â materion cydbwysedd pŵer a bygythion a all fod yn amlwg gyda chydgynhyrchu - sicrhau na ddefnyddir jargon

·             Byddai angen newid diwylliannol i hwyluso cydgynhyrchu'n llawn - newid sut trefnir cyfarfodydd, sut llunnir agendâu etc.

·             Roedd ambell destun dryswch ac anghysondeb wrth fynd ati i gydgynhrychu - lle dywedwyd bod gwaith wedi'i gydgynhyrchu ond nid cydgynhyrchu gwirioneddol oedd hyn.

·             Roedd cydgynhyrchu fel arfer yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus a'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau maent yn eu darparu.

·             Roedd angen eglurder o ran gwneud penderfyniadau wrth gydgynhyrchu - a allai adroddiadau/polisïau a gydgynhyrchwyd gael eu newid/gwahardd gan benderfynwyr?

·             Gofynnwyd am dystiolaeth i ddangos manteision ac effaith cydgynhyrchu yn ogystal ag unrhyw wersi a ddysgwyd

·             Rhwydwaith Cydgynhyrchu Abertawe - helpodd hwn i nodi rhwydweithiau ar gyfer cydgynhyrchu

·             Rheolaeth - cam i fyny o gydgynhyrchu lle mae defnyddwyr gwasanaeth yn gyfrifol am gynnal gwasanaeth

·             Astudiaethau achos - cywirdeb y canlyniadau yr adroddwyd amdanynt

·             Enghreifftiau lle defnyddiwyd cydgynhyrchu

·             Effaith cydgynhyrchu ar adnoddau a chyllideb

·             Prin yw'r enghreifftiau o ddefnyddio cydgynhyrchu mewn awdurdodau eraill - credir mai Abertawe ar hyn o bryd fyddai'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i feddu ar strategaeth cydgynhyrchu

 

Diolchodd y pwyllgor i'r Swyddog Cynllunio - Anableddau Dysgu, am y cyflwyniad.

 

Penderfynwyd  -

1)          Y byddai'r Swyddog Strategaeth a Pholisi yn anfon copi o'r cyflwyniad a manylion/dolenni pellach i'r astudiaethau achos a amlygwyd yn y cyflwyniad; ac

2)          Y trefnir gweithdy ar gydgynhyrchu

 

26.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Trafododd y pwyllgor gynnydd cydgynhyrchu. Roedd yn ddarn mawr o waith ac awgrymwyd y dylid trefnu gweithdy ar gydgynhyrchu, o ddewis ym mis Chwefror os oedd hynny'n bosib.

 

O ran eitemau'r dyfodol, awgrymwyd y cysylltiad â'r rhyngrwyd yn Neuadd y Ddinas.

 

Anogwyd y pwyllgor hefyd i ystyried pa rai o feysydd cyfathrebu'r cyngor y dylid canolbwyntio arnynt.