Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. 

13.

Cofnodion. pdf eicon PDF 121 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir.

14.

Diffiniadau Contractau Gweithwyr AD.

Cofnodion:

Darparwyd cyflwyniad gan y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol a oedd yn cynnwys Cofnodion 14, 15 a 16.

 

Darparodd y cyflwyniad ddiffiniadau ar gyfer contractau gweithwyr AD, a oedd yn cynnwys y canlynol: -

·                Parhaol

·                Dros dro

·                Cyflenwi/Achlysurol

Amlygwyd Polisi Cyflogaeth Cyflenwi Dros Dro'r cyngor.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y Strategaeth a'r Cynllun Datblygu Sefydliadol, a oedd yn cynnwys: -

·                Ymagwedd Strategol a Gweithredu Datblygu Sefydliadol

·                Cynllun Datblygu Sefydliadol: Blaenoriaethau 1af

·                Cynllun Datblygu Sefydliadol: Blaenoriaethau Eilaidd

·                Cynllun Datblygu Sefydliadol: Blaenoriaethau Trydyddol

 

Roedd y cyflwyniad hefyd yn ymdrin ag oriau gweithio hyblyg/ffyrdd newydd o weithio. Roedd hyn yn cynnwys y tri maes peilot a nodwyd ynghyd â'r sesiwn cynnwys gweithdai.

 

Cwestiynau a thrafodaethau dan sylw: -

·                Contractwyr yn defnyddio contractau dim oriau

·                Ystyr bod yn sefydliad ystwyth

·                Effaith gweithio ystwyth ar absenoldeb

·                Ystyr cynnwys yn y cyngor a'r tu allan iddo

·                Cydnabyddiaeth ar gyfer staff a phosibilrwydd cynlluniau gwobrwyo

·                Datblygu Rhaglen Cynghorwyr y Dyfodol

·                Cwmpas cynnwys ynghylch oriau gweithio hyblyg

·                Ffyrdd o fesur llwyddiant cynlluniau peilot oriau gweithio hyblyg

 

Penderfynwyd:    -

1)        Nodi cynnwys y cyflwyniad; a

2)        dylai'r Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol ddarparu gwybodaeth bellach mewn perthynas â chontractau dim oriau sy'n cael eu defnyddio gan gontractwyr. 

15.

Strategaeth a Chynllun Datblygu Sefydliadol.

Cofnodion:

Darparwyd cyflwyniad gan y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol a oedd yn cynnwys Cofnodion 14, 15 a 16. Darperir manylion llawn yng Nghofnod 14.

16.

Cynllun a Chwmpas Oriau Gweithio Hyblyg.

Cofnodion:

The Strategic Human Resources and Organisational Development Manager provided a presentation which covered Minutes 14, 15 & 16. Full details are provided in Minute 14.

 

17.

Cynllun Gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2018/19 a nododd y byddai'r Is-gadeirydd yn cadeirio cyfarfod nesaf Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhelir ar 23 Hydref 2018.

 

Byddai Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy yn trefnu gweithdy ynghylch cyfathrebu'r cyngor/digideiddio llythyrau. Trafodwyd dyddiau posib ar gyfer y gweithdy gan y pwyllgor a nodwyd bod dydd Llun neu ddydd Iau a phrynhawniau'n fwy dymunol.

 

Nododd hefyd y byddai oriau gweithio hyblyg yn cael eu symud o fis Tachwedd oherwydd y darparwyd diweddariad heddiw. 

 

Trafododd y pwyllgor apiau, megis ap Cyngor Caerdydd ac ap Llyfrgell Abertawe, y gellid eu defnyddio i ddod o hyd i syniadau ynghylch cynnwys/defnydd.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith a'r diweddariadau.