Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|||||||||||
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a
gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 fel cofnod cywir. |
|||||||||||
Cynllun Gwaith 2018 - 2019. PDF 109 KB Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr
Rhaglen Abertawe Gynaliadwy gyflwyniad ar gynllun gwaith 2018/19, a oedd yn
cynnwys y canlynol: - ·
Diben
y PDP Pwyllgorau'r
cyngor yw Pwyllgorau Datblygu Polisi gyda'r diben o ddatblygu polisïau
corfforaethol y cyngor i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r
cyngor fel y bo'n briodol'. ·
Pwyllgor
heddiw o Cytuno o'r diwedd ar amodau a thelerau cynllun
gwaith y PDP - elfennau a'u cwmpas o Trafod arweinwyr y pwyllgor ar gyfer
meysydd allweddol y rhaglen waith. ·
Meysydd
Cynllun Gwaith y cytunwyd arnynt ym mis Mehefin o Contractau AD Gweithwyr (diffiniadau) o Strategaeth a Chynllun Datblygu
Sefydliadol o Oriau Gweithio Hyblyg o Cydgynhyrchu o Cynllun Gweithredu Caffael o Cyfathrebu'r Cyngor o Ap Dinasyddion (cysylltu â chyfathrebu uchod) ·
Beth
sydd ei angen ar bob eitem? o Cwmpas o Deall y broblem cyn dod o hyd i ateb o Allbwn a gwerth ychwanegol o'r pwyllgor -
cofio diben y PDP o Arweinydd/Hyrwyddwr y PDP o Dewisiadau neu gynnyrch terfynol/ganlyniad ·
Camau
Nesaf o Rhaglen mewn sesiynau gwaith/cwmpasu ar
gyfer pob elfen o'r cynllun gwaith y cytunwyd arni o Anfon dogfennau allweddol ymlaen llaw e.e.
copi o'r Strategaeth a'r Cynllun Datblygu Sefydliadol, brîff gwaith hyblyg o Cyfarfodydd un i un/cyfarfodydd â’r
Swyddog Arweiniol y cytunwyd arno ac Arweinydd/Hyrwyddwr y PDP Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r
Swyddog Cyflwyno a ymatebodd yn briodol. Roedd y cwestiynau a’r trafodaethau’n
canolbwyntio ar y canlynol: - Contractau AD Gweithwyr / Strategaeth a
Chynllun Datblygu Sefydliadol/Oriau Gweithio Hyblyg ·
Gofynnwyd
am adroddiad ysgrifenedig am y diffiniadau/mathau gwahanol o gontractau. ·
Awgrymwyd
y dylid edrych ar gadw staff fel rhan o'r Strategaeth a'r Cynllun Datblygu
Sefydliadol ·
Gofynnwyd
am y diweddaraf o ran data gwaelodlin ar gontractau gweithwyr ·
Bydd
rhaid edrych ar y tri maes sef Contractau AD Gweithwyr, y Strategaeth a'r
Cynllun Datblygu Sefydliadol ac Oriau Gweithio Hyblyg gyda'i gilydd gan eu bod
wedi'u cysylltu'n gynhenid. Cydgynhyrchu ·
Diffiniad a chwmpas cydgynhyrchu ·
Meysydd addas posib ar gyfer cydgynhyrchu
Cyfathrebu'r
cyngor/ap Dinasyddion ·
Rhaid edrych ar y rhain gyda'i gilydd gan eu bod yn
gorgyffwrdd Penderfynwyd: 1)
Darparu/cyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r pwyllgor am y
mathau amrywiol o gontractau gweithwyr, i gynnwys diffiniad ar bob math o
gontract; 2)
Rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor ar brosiect y data a'r
gwaith gwaelodlin ar gontractau gweithwyr; 3)
Dosbarthu'r Strategaeth a'r Cynllun Datblygu Sefydliadol
a'r brîff oriau gweithio hyblyg i'r pwyllgor; 4)
Trefnu sesiwn waith cyn cynnal y pwyllgor ym mis Medi er
mwyn cynnal ymarfer cwmpasu ar Gontractau AD Gweithwyr, y Strategaeth a'r
Cynllun Datblygu Sefydliadol ac Oriau Gweithio Hyblyg; 5)
Cymeradwywyd yr aelodau arweiniol ar gyfer pob maes isod:
-
6)
Trefnir cyfarfodydd â swyddogion arweiniol ac aelodau
arweiniol ar gyfer pob maes gwaith. |