Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig, Abertawe - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

37.

Datgeliadau o Ddiddordebau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw ddiddordebau.

 

38.

Cofnodion. pdf eicon PDF 109 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2018 fel cofnod cywir.

 

39.

Caffael - 'Chwalu Rhwystrau i Gyflenwyr Lleol' - Cymalau Drafft Rheolau Gweithdrefnau Contractau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Categori Reolau Gweithdrefnau Contractau drafft yn dilyn gweithdai a oedd yn canolbwyntio ar 'chwalu rhwystrau i gyflenwyr lleol'. Amlygodd yn benodol baragraff 15 a oedd yn ymdrin â: -

 

·                Diffiniad ardal leol

·                Ystyried manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wrth ddyfarnu contractau

·                Cyfyngu cystadleuaeth i'r ardal leol

·                Diffiniad o gyflenwr lleol; 

·                Cymal tynnu yn ôl, lle gall y cyngor ddewis peidio â defnyddio cyflenwr lleol pan fyddai'n rhoi gormod o bwysau ar y cyngor.

 

Byddai proses diwygio'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau yn cynnwys ymgynghoriad ac yna Weithgor y Cyfansoddiad.

 

Cafwyd trafodaeth yn dilyn y Rheolau Gweithdrefnau Contractau drafft a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Cyfyngiadau ariannol a phryd byddai'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau yn berthnasol

·                Effaith rheoliadau'r UE

·                Maint yr ardal leol a ddiffinnir gan 'gyflenwr lleol' ac a ddylid ychwanegu neu eithrio ardaloedd eraill 

·                Ai manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yw'r term mwyaf addas neu a fyddai term megis manteision cymunedol yn well

·                Sefyllfa lle byddai cyflenwr lleol yn cyflawni un o'r manteision, e.e. manteision economaidd ond yn anfanteisiol i un neu ddau o'r manteision eraill, e.e. cymdeithasol ac amgylcheddol.

·                Rhestrau a Gymeradwyir/Cytundebau Fframwaith

·                Adroddiad caffael i ddangos yr ardaloedd caffaeledig

·                Effaith ac ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

 

Yn dilyn y trafodaethau, cyflwynir y newidiadau isod i'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau drafft: - 

 

·                A ellid defnyddio term gwahanol yn lle manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol

·                Dylai'r rheolau egluro na ddylid cyflawni un fantais, e.e. economaidd, pan fydd yn anfanteisiol i'r manteision eraill.

 

Penderfynwyd: -

 

1)        dosbarthu'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau drafft newydd i'r pwyllgor;

2)        bydd y Rheolwr Categori yn cyflwyno adroddiad i'r pwyllgor am yr ardaloedd caffaeledig presennol;

3)        bydd Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy yn darparu eglurder ar sefyllfa defnyddio rhestrau a gymeradwyir o fewn yr Adran Priffyrdd.

4)        darparu Rheolau Gweithdrefnau Contractau drafft er mwyn ymgynghori arnynt. 

 

40.

Ymweliad Safle - Canolfan Gyswllt, Canolfan Ddinesig.

Cofnodion:

Ymwelodd y pwyllgor â safle'r Ganolfan Gyswllt.

 

41.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Trafododd y pwyllgor y cynllun gwaith arfaethedig.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith.