Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a
gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Gwasanaethau yn y Gymuned. Cofnodion: Rhoddodd yr
Ymgynghorydd Gwella Busnes gyflwyniad ar 'Wasanaethau yn y gymuned'. Roedd y
cyflwyniad yn cynnwys y canlynol: - ·
Beth
yw "Gwasanaethau yn y gymuned" ·
Y
darlun mwy ·
Beth
yw canolfannau cymunedol? ·
Egwyddorion
allweddol ·
Manteision
canolfannau cymunedol ·
Ardaloedd
peilot ·
Cynnydd ·
Datblygiad
prototeip ·
Cylch
Comisiynu Canolfannau ·
Amserlenni Nododd Pennaeth
Dros Dro'r Gwasanaethau Eiddo fod yr Adolygiad o Asedau wedi ffurfio'r sail ar
gyfer y dewis o ardaloedd peilot. Gofynnwyd
cwestiynau i'r Swyddogion Cyflwyno a ymatebodd iddynt yn briodol. Cwestiynau a
thrafodaethau dan sylw: - ·
Llywodraethu'r
canolfannau ·
Hyrwyddo
a chysylltu â phartneriaid ·
Priodoldeb
ardaloedd peilot sy'n seiliedig ar yr Adolygiad o Asedau ·
Amserlenni
ar gyfer ardaloedd peilot a chyflwyno mwy ohonynt ·
Ystyriaeth
o'r marchnata a'r brandio gorau ·
Ystyriaeth
o gynnwys y gymuned - trafferthion a chostau posib Rhoddodd y
Cadeirydd ddiolch i'r tîm am ei waith a'i ymdrech PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad. |
|
Y Diweddaraf am y Gweithdy Caffael. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr
Rhaglen Abertawe Gynaliadwy ddiweddariad mewn perthynas â'r Gweithdai Caffael.
Nodwyd bod 17 Ionawr 2018 ac 14 Chwefror 2018 wedi'u nodi ar gyfer gweithdy 1 a
2 yn ôl eu trefn. Cylchredwyd trosolwg o'r Gweithdai Caffael a darparwyd
crynodeb yng nghais y cyfarfod. Penderfynwyd nodi dyddiadau'r gweithdai. |
|
Amserlen ddrafft ar gyfer busnes. PDF 87 KB Cofnodion: Darparodd yr
Ymgynghorydd Gwella Busnes amserlen ddrafft ar gyfer busnes ar gyfer y
cyfarfodydd sydd i ddod. Penderfynwyd nodi'r amserlen ddrafft ar gyfer busnes. |