Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 65 KB

To approve and sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 22 Awst 2017 fel cofnod cywir.

 

17.

Diweddariad am brosiect y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. pdf eicon PDF 129 KB

Linda Phillips

Cofnodion:

Darparodd y Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Swyddog Prosiectau Datblygu Sefydliadol ddiweddariad am Brosiect y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau.

 

Tynnwyd sylw at feysydd canlynol yr adroddiad: -

 

·                     Gofynion Rheoliadau Cydraddoldeb 2011 sy'n benodol i Gymru

·                     Cymorth a chyfraniad gan Dr Alison Parken ym Mhrifysgol Caerdydd

·                     Mae ysgolion, athrawon a staff cyflenwi/achlysurol wedi'u cynnwys yn yr ymchwil ddiweddaraf 

·                     Sefyllfa gyffredinol y gweithlu cyfredol o ran rhywiau.

·                     Trosolwg o sut mae swyddi'r sefydliad yn cael eu categoreiddio ar hyn o bryd

·                     Trosolwg o ddata ysgolion

·                     Cymhariaeth rhwng cyflog cyfartalog cenedlaethol Cymru a Lloeg

·                     Canlyniadau ac argymhellion

 

Gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddogion Cyflwyno a ymatebodd iddynt yn briodol. Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                     Ffyrdd o gael/hyrwyddo mwy o fenywod mewn swyddi gradd uwch.

·                     Darparu gwell cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau.

·                     Cynnal proses recriwtio deg a chyfartal.

·                     Posibilrwydd a defnyddioldeb cymharu â gweithluoedd tebyg.

·                     Porth recriwtio i ddarparu mwy o ddata ar gyfer y dyfodol

·                     Achlysuron lle mae menywod yn gweithio mewn mwy nag un swydd rhan amser, a fyddai'n cyfateb i swydd amser llawn pan gânt eu cyfuno

 

Nodwyd y byddai diweddariad pellach yn cael ei ddarparu ym mis Mawrth/Ebrill 2018.

 

Roedd y pwyllgor am ddiolch i'r swyddogion yn ogystal â Dr Parken o Brifysgol Caerdydd am eu cyfraniad a'u gwaith.

 

Penderfynwyd:  -

1.    Nodi cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf;

2.    Y bydd y pwyllgor yn ystyried cyhoeddi'r data ar wefan Equal Pay

3.    Darparu diweddariad pellach am Brosiect y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau i'r pwyllgor ym mis Mawrth/Ebrill 2018

18.

Y diweddaraf am gynnydd y cynllun gwaith. pdf eicon PDF 33 KB

Cofnodion:

Darparodd Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy drosolwg cryno o'r gweithdy blaenorol a drefnwyd ynghylch yr Adolygiad Caffael. Byddai'r gweithdy hwn yn cael ei aildrefnu ar gyfer mis Ionawr 2018. Byddai amlinelliad o'r gweithdy'n cael ei ddosbarthu i'r pwyllgor.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro drosolwg o ffocws a dibenion y gweithdai yn ogystal â'r diweddaraf am yr adolygiadau a'r meysydd Cynllun Gwaith 100 diwrnod canlynol: -

 

·                     Sefydlu uned cyflwyno a datblygu polisi corfforaethol

·                     Cytuno ar raglen cyflwyno caeau 3G ddrafft

·                     Dechrau diddymu pob contract heb oriau

·                     Dechrau comisiynu gwaith ar y cerdyn/ap dinesydd

·                     Gweithio ystwyth yn y dyfodol

·                     Gweithio tuag at weithredu gweddarlledu

·                     Gweithio tuag at weithredu e-bleidleisio

·                     Masnacheiddio'r Plasty yn y dyfodol

·                     Polisïau/prosesau caffael y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi'r diweddariad am y Cynllun Gwaith. 

19.

Amserlen waith hyd at fis Mawrth 2018.

Cofnodion:

Cynigiwyd bod yr eitemau canlynol yn cael eu trefnu ar gyfer cyfarfodydd y pwyllgor sydd ar ddod: -

 

·                     Llunio Cynllun Gwaith ar gyfer Rhaglen Waith Ddrafft yr Uned Cyflwyno a Datblygu Polisi Corfforaethol.

·                     Diweddariad am y rhaglen cyflwyno caeau 3G ddrafft cyn mis Mawrth 2018.

·                     Diweddariad (gyda pheth cymhariaeth ariannol) am ddiddymu pob contract heb oriau cyn mis Mawrth 2018.

·                     Adroddiad am y cerdyn/ap dinesydd cyn mis Mawrth 2018.

·                     Diweddariad am fasnacheiddio'r Plasty cyn mis Mawrth 2018.

·                     Trefnu gweithdy ar bolisïau/prosesau caffael y dyfodol ar gyfer mis Ionawr 2018.

·                     Diweddariad am Gynllun Cymunedol Creadigol.

·                     Diweddariad am ysgolion a hygyrchedd/argaeledd gweithgareddau cymunedol.

·                     Pwyllgor i drafod Abertawe Gynaliadwy i edrych ar y meysydd ffocws.

·                     Cyfarwyddwr Pobl i fynd i'r pwyllgor i drafod trais domestig a meysydd ffocws ar gyfer y pwyllgor.

 

Penderfynwyd y byddai'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro yn llunio amserlen waith hyd at fis Mawrth 2018.