Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a
gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir. |
|
Uned Datblygu a Chyflwyno Polisi Corfforaethol. Richard Rowlands a Sarah Caulkin Cofnodion: Cyflwynwyd trosolwg o'r Uned Cyflwyno a Datblygu Polisi Corfforaethol ('yr Uned') gan y Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad. Nodwyd ganddo fod y broses o sefydlu'r Uned eisoes wedi cychwyn a rhoddwyd trosolwg ganddo o'r canlynol: - · Yr hyn fyddai'r Uned yn ei ddarparu · Yr hyn na fyddai'r Uned yn ei ddarparu · Cyfrifoldebau'r Uned · Sut ffurf fyddai ar yr Uned · Camau nesaf yr Uned Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog, ac ymatebodd yn briodol.
Gofynnwyd am gopi ysgrifenedig o swyddogaeth, rolau a chyfrifoldebau'r Uned. Nodwyd hefyd bod yr Uned o hyd yn datblygu a byddai'n cael ei hadolygu a'i haddasu yn briodol er mwyn sicrhau ei bod yn effeithiol. Penderfynwyd: - 1) nodi'r diweddariad; ac 2) y byddai swyddogaeth, rolau a chyfrifoldebau'r Uned yn cael eu darparu’n ysgrifenedig. |
|
Cwmpas yr Adolygiad Caffael. Andrew Hopkins Cofnodion: Darparwyd cwmpas
amlinellol o'r Adolygiad Caffael gan Andrew Hopkins, Cynghorydd Gwella Busnes
o'r Tîm Trawsnewid. Roedd cwmpas
arfaethedig yr Adolygiad Caffael yn cynnwys y canlynol: - ·
Adolygiad
o wariant y cyngor mewn perthynas â busnesau bychain a chanolig (SMEs) ·
Gwariant
Trydydd Parti ·
Contractau
fframwaith presennol a'u heffaith ar BBaCh ·
Adolygiad
o'r gwasanaeth sydd ar gael i BBaCh mewn perthynas
â'r broses dendro/cyflwyno cais ·
Adolygiad
cyffredinol o reoli contractau ·
Lefelau
gwariant nad yw'n cydymffurfio ·
Ffyrdd
i hyrwyddo cyflenwad lleol Nodwyd mai
adolygiad corfforaethol yn unig oedd yr adolygiad arfaethedig ac nid oedd yn
cynnwys ysgolion. Cafwyd trafodaeth
ynghylch cwmpas arfaethedig yr Adolygiad Caffael, a oedd yn canolbwyntio ar: ·
Sut
caiff contractau eu hysbysebu i BBaCh a ph'un ai oes modd hysbysebu contractau ar wefan y cyngor ·
Porth
Gwerthwch i Gymru ·
Adolygiadau
caffael blaenorol ·
Ystyried
cynnwys Addysg/Ysgolion yn yr Adolygiad ·
Yr
angen i sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau/nwyddau a ddarperir yn cael ei
gynnal wrth ystyried cost ·
Sicrhau
ni chaiff unrhyw orgyffwrdd ag adolygiadau neu bwyllgorau eraill. Penderfynwyd darparu cwmpas amlinellol yr Adolygiad
Caffael yn ysgrifenedig i'w ystyried yn llawn. |
|
Cynllun Gwaith Diwygiedig 2017/2018. Cofnodion: Darparwyd Cynllun Gwaith diweddaredig gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro a bydd yn darparu rhaglen ar gyfer y flwyddyn maes o law. Penderfynwyd: - 1) Nodi'r cynllun gwaith; a 2) llunio rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn a'i dosbarthu ymhlith aelodau'r pwyllgor. |
|
Cylch Gorchwyl. Cofnodion: Darparwyd fersiwn
ddrafft o'r Cylch Gorchwyl gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro at ystyriaeth y
pwyllgor. |