Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

6.

Cofnodion: pdf eicon PDF 50 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 25 Mai 2017 fel cofnod cywir. 

 

7.

Y Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth)

Hybu datblygu Polisïau Corfforaethol Trawsnewid a Dyfodol y cyngor i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor fel y bo'n briodol.

Cofnodion:

 Amlinellodd y Cadeirydd Gylch Gorchwyl ar gyfer y pwyllgor, er gwybodaeth.

 

Amlinellodd Sarah Caulkin, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol Dros Dro, y cefndir a'r rhesymeg a oedd yn sail i gyflwyno'r pwyllgorau cyflwyno a datblygu polisi (PCDP) i aelodau.

 

Dywedodd mai'r bwriad oedd eu bod yn canolbwyntio ar ddatblygu polisïau a sicrhau y cânt eu cyflwyno. Y nod yw y bydd y pwyllgorau'n sianel i alluogi aelodau a swyddogion weithio ar y cyd, gydag ymagwedd a arweinir gan aelodau er mwyn cyflwyno'r blaenoriaethau corfforaethol.

 

Rhoddodd fanylion i dynnu sylw at y gwahaniaeth sylweddol rhwng y PCDP (sy'n edrych ymlaen at y dyfodol) a Chraffu (sef adolygu'r hyn a gyflawnwyd eisoes), gan amlinellu sut maent yn wahanol i'r PCC oherwydd fe'u harweinir gan Flaenoriaethau Corfforaethol drwy'r Cadeirydd ac nid drwy Aelod y Cabinet, er bydd y cysylltiadau agos gyda phroses y Cabinet ac Aelod y Cabinet yn parhau.

 

Dylai'r PCDP anelu i ddarparu canlyniadau clir yn dilyn cyflwyniad ymchwil, tystiolaeth a gwybodaeth, a dylid ceisio osgoi dyblu gwaith gyda'r pedwar PCDP arall, er y bydd gweithio ar y cyd yn angenrheidiol mewn rhai meysydd pwnc.

 

Trafodwyd amserau a dyddiadau'r cyfarfodydd gan y pwyllgor. Cynigwyd y dylid cynnal y pwyllgorau ar ddydd Mawrth am 9.30am o hyn allan. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    nodi'r cylch gorchwyl.

2)    ystyried newid amser a dydd arfaethedig y pwyllgor.

 

8.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. (Trafodaeth)

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith Ddrafft i'r pwyllgor gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol Dros Dro a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

Rhaglen Waith y 100 niwrnod cyntaf

 

·         Sefydlu uned cyflwyno a datblygu polisi corfforaethol

·         Cytuno ar raglen gyflwyno caeau 3G

·         Dechrau diddymu contractau yn ôl y galw

·         Dechrau comisiynu gwaith ar y cerdyn/ap dinesydd

·         Cam nesaf y rhaglen gyflwyno

·         Gweithio tuag at weithredu gweddarlledu

·         Gweithio tuag at weithredu e-bleidleisio

·         Adolygu masnacheiddio'r Plasty

·         Adolygu polisi/proses gaffael i sicrhau y gall busnesau meicro/bach/canolog gael mynediad i gontractau.

 

Amcanion PCDP ehangach o'r maniffesto

 

Adolygiad 1:

-       Sicrhau perchnogaeth gymunedol fwy o barciau a gweithio gyda sefydliadau 'cyfeillion parciau' i sicrhau cynaladwyedd a rheolaeth tymor hir parciau a mannau cyhoeddus.

-       Ceisio defnyddio asedau cyhoeddus a chymunedol mewn ffordd fwy dychmygol, megis adeiladau'r cyngor.

-       Dylai ysgolion fod wrth wraidd cymunedau, a byddwn yn gweithio gyda Phenaethiaid a chyrff llywodraethu sy'n sicrhau bod ysgolion yn hygyrch.

 

Adolygiad 2:

-       Ymgymryd ag ymagwedd dim goddefgarwch tuag at drechu trais domestig a chydweithio â phartneriaid i gefnogi dioddefwyr trais domestig a chefnogi’r sawl sy'n dioddef ohono'n llawn. 

 

Adolygiad 3:

-       Parhau â rhaglen foderneiddio Abertawe Gynaliadwy

 

Cynhaliwyd trafodaeth ar bynciau'r Rhaglen Waith a thrafodwyd rôl y pwyllgor o ran y Rhaglen Waith. Nodwyd hefyd gan y pwyllgor fod yna nifer sylweddol o adolygiadau ar y Rhaglen Waith ddrafft ac a oedd yn cyd-fynd â chyflwyno a datblygu polisi. Cytunodd y pwyllgor ar feysydd y gwaith arfaethedig ond awgrymodd rhai newidiadau i eiriad y rhaglen waith i adlewyrchu mai cyflwyno a datblygu polisi yw rôl y pwyllgor. Yn ogystal, gofynnwyd am ragor o wybodaeth am berthynas y pwyllgor â chraffu fel rhan o'r cylch gorchwyl.

 

Nododd y Cadeirydd eitem ychwanegol i'w hychwanegu i'r Rhaglen Waith, sef 'menywod yn cyrraedd y brig'.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Cymeradwyo Rhaglen Waith Ddrafft, yn amodol ar newidiadau i eiriad rhai eitemau.

2)    Darparu mwy o wybodaeth am berthynas y pwyllgor â chraffu

3)    Trefnu cyflwyniad/datganiad ar gyfer cyfarfod nesaf yr Uned Cyflwyno Strategol.