Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y
Cynghorydd J E Burtonshaw gysylltiad personol â Chofnod 37 a 40 "Adfywio
ac Adeiladau Gwag y Stryd Fawr". |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor
Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 20
Ionawr 2022 fel cofnod cywir. |
|
Adfywio ac Adeiladau Gwag y Stryd Fawr. PDF 332 KB Cofnodion: Darparodd y
Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd i adfywio'r Stryd Fawr a
mynd i'r afael ag eiddo gwag. Nododd yr Aelodau gamau gweithredu'r cynllun adfer sy'n cael eu datblygu
a'u cyflawni ar hyn o bryd: ·
Arian grant a ddyrennir i fusnesau lleol drwy'r Grant i Addasu Mangre ar gyfer yr Awyr Agored, i gefnogi busnesau lleol i
addasu i ofynion cadw pellter cymdeithasol – wedi cwblhau y rhan fwyaf o’r
gwaith. ·
Parhau i roi cymorth
ariannol COVID-19 Llywodraeth Cymru i fusnesau lleol drwy gynlluniau fel
cymorth ardrethi annomestig uniongyrchol a grantiau dewisol ·
Cwblhawyd y broses o
recriwtio swyddogion datblygu busnes newydd ym mis Mawrth 2021 gan weithio o
dan faner Busnes Abertawe a darparu ystod o gymorth busnes sydd wedi cynnwys
grantiau cychwyn busnes, seminarau ar-lein yn seiliedig ar thema a chynyddu
ymgysylltiad â busnesau ledled Abertawe ·
Cyflwynwyd menter Siopwch
yn Lleol, Siopwch yn Abertawe ar draws y sir, wedi'i hamseru i gyd-fynd â
llacio'r cyfyngiadau ar wahanol gamau dros y 12 mis diwethaf · Ystod eang o ddarpariaeth cyflogadwyedd gan gynnwys lleoliadau â chynllun Kickstart ·
44 o fwrsariaethau cychwyn
busnes wedi'u cyflwyno hyd yma Mae cynigion Canolfan Gymunedol Dyfaty a amlinellwyd ym mis Chwefror 2021 ynghylch yr
unedau siopau gwag yn datblygu’n dda ac yn darparu cyfle gwych i leoli a
phrofi'r dulliau hyn gan weithio'n agos gyda'r holl wasanaethau cymorth
perthnasol, ac yn rhoi cyfle gwirioneddol i weithredu fel galluogwyr i roi’r
offer y mae eu hangen ar bobl leol i gryfhau'r gymuned a chreu cyfleoedd
cadarnhaol i ficro-fusnesau. Roedd pedair o'r chwe uned bellach wedi'u
hadnewyddu ac mae'r cyfleustodau wedi'u hysgogi. Gwnaed gwaith ymgysylltu
cychwynnol â'r gymuned, a byddai cymorth yn cael ei ddarparu i wahanol grwpiau
ac unigolion i roi cynnig ar eu syniadau, a oedd yn cynnwys busnesau bach
newydd, gweithgareddau cymorth a gwasanaethau. Roedd gweithgarwch ymgysylltu
wedi bod yn gadarnhaol iawn. Yn ogystal,
roedd hen dafarn y Lamb yn gweithredu fel swyddfa
safle gwaith Theatr y Palace, ac roedd hyn ynddo'i hun yn dod ag ymwelwyr i'r lleoliad ac yn golygu
bod yr adeilad presennol yn cael ei ddefnyddio dros dro, sy'n ategu'r
gweithgareddau a fydd yn dechrau yn unedau'r siop yn fuan. Rhoddwyd y cynllun gweithredu gorfodi ar
waith ac roedd gwaith yn dechrau ar gynlluniau cychwynnol. Yr hyn a oedd yn allweddol oedd
integreiddio'r gweithgareddau hyn – nid oes gan unrhyw un sector na maes gwaith
yr holl atebion, ond mae'r cyfle i greu amgylchedd cadarnhaol a
chost-effeithiol i alluogi pobl i wireddu eu dyfodol eu hunain yn wirionedd,
gyda phecyn cyfannol o gymorth ar gael ar yr adeg gywir. Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd Swyddogion
fod strategaethau marchnata amrywiol yn mynd rhagddynt, a oedd yn cynnwys
argaeledd grantiau a chymorth ardrethi busnes. Roedd tîm amlddisgyblaethol, a
oedd yn cynnwys sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a
grwpiau cymunedol hefyd yn rhan o waith adfywio'r Stryd Fawr. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu
cyflwyniad addysgiadol a'u gwaith parhaus. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 108 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd gynllun gwaith 2021-2022. Penderfynwyd y dylid nodi'r
cynllun gwaith. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adfywio ac Adeiladau Gwag y Stryd Fawr. Cofnodion: Darparodd y
Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd i adfywio'r Stryd Fawr a
mynd i'r afael ag eiddo gwag. Diolchodd y
Cadeirydd iddo am ei adroddiad addysgiadol a'i waith parhaus. |