Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd P R
Hood-Williams - Personol - Cofnod Rhif: 26 – Rheoli a Chynnal Mannau Agored
(Bioamrywiaeth). |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor
Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 fel
cofnod cywir. |
|
Rheoli a Chynnal a Chadw Mannau Agored (Bioamrywiaeth). PDF 519 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Rheoli Gwastraff, gyda chymorth Swyddogion,
ddiweddariad cynnydd ar yr adolygiad o reolaeth y cyngor o'i fannau gwyrdd. Manylodd swyddogion ar y cynnydd hyd yma (gan gynnwys rôl y gweithgor),
prynu offer, ymgysylltu â chyrff amgylcheddol, arolygon, profion gweithredol,
paratoi ar gyfer ehangu profion y tymor nesaf, gwybodaeth a chynyddu
ymwybyddiaeth, ymgynghori â'r gymuned a materion cyffredinol. Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Dywedodd y Pennaeth Rheoli Gwastraff y byddai'n ofynnol datblygu polisi
strategol yn y lle cyntaf, cyn unrhyw ymgynghoriad ehangach. Ailadroddodd yr heriau a wynebir gan Aelodau
wrth gydbwyso ymrwymiad y cyngor i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd/natur a barn
eu cymunedau lleol. Byddai angen rhoi
ymarferion ymgynghori pellach ar waith fesul cam ar ôl i'r fframwaith
cyffredinol gael ei gymeradwyo. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynnydd hyd yma a'r cyfeiriad teithio. 2)
Y
bydd Chris Howell yn gwahodd y Cadeirydd a'r Cynghorydd P K Jones i gyfarfodydd
Gweithgor y Swyddogion yn y dyfodol. 3)
Y
caiff Aelodau eu gwahodd i ddod i weithgor i drafod yr ymarfer ymgynghori
ar-lein yn y dyfodol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Adran yr Amgylchedd Naturiol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth
strategaeth ar gyfer rheoli coed ar/sy'n effeithio ar dir/eiddo dan
berchnogaeth y cyngor ac yn nodi dyletswyddau'r cyngor mewn perthynas â choed a
warchodir. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am ei gyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd: 1) Cytuno ar y Strategaeth Rheoli Coed a'i
chyfeirio at y Cabinet i'w chymeradwyo. 2)
Cynnal
ymarfer mapio i nodi safleoedd/parthau
posib ar gyfer plannu ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn amodol ar argaeledd
cyllid a chynhaliaeth yn y dyfodol. |
|
Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd. PDF 538 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd
ar gyfer 20 Ionawr 2022. |
|
Cynllun Gwaith 2021 - 2022. PDF 196 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2022 a dywedodd y byddai'r Strategaeth
Newid yn yr Hinsawdd yn cael ei thrafod yn y cyfarfod ar 20 Ionawr, 2022. Trafododd yr
Aelodau bynciau i'w trafod am weddill y flwyddyn ddinesig ac awgrymwyd y dylid
gohirio'r eitem ynghylch Goleuadau Stryd tan y cyfarfod ar 17 Chwefror, 2022. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu cyfarfod rhwng y Cadeirydd,
yr Is-gadeirydd a'r Cyfarwyddwr Lleoedd i drafod amseriad eitemau yn y dyfodol
i'w hystyried ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig. |