Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 21 Hydref
2021 fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth Cerbydau Allyriadau Tra Isel. PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr y Cerbydlu adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn manylu ar y Strategaeth Allyriadau Isel Iawn newydd a gyflwynwyd i
Lywodraeth Cymru i gefnogi ymagwedd y cyngor a'i Bolisi Cerbydlu
Gwyrdd hollgyffredinol. Trafododd yr
Aelodau'r canlynol: gwella sgiliau technegwyr i Safonau Cymhwysedd Sefydliad y
Diwydiant Moduro; cyfleoedd prentisiaethau; galw am isadeiledd gwefru cerbydau
trydan; cerbydau tanwydd hydrogen a'r cynllun aberthu cyflog. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cyfarwyddwr Lleoedd, cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn
fodlon ar yr 20 gweithred y manylwyd arnynt yn y cynllun trawsnewid. Mynegodd y
Cadeirydd ac Aelodau'r Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid
Gwasanaethau a Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd eu diolchgarwch i
Swyddogion am eu gwaith caled i gyflwyno'r strategaeth heriol a sensitif o ran
amser.
|
|
Cynllun Gwaith 2021 - 2022. PDF 38 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2022. Nododd y
Cyfarwyddwr Lleoedd fod y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd wedi'i chymeradwyo
gan y Cabinet ac awgrymodd fod y Pwyllgor (wrth ystyried y mater yn y cyfarfod ym
mis Rhagfyr) yn nodi elfennau'r strategaeth lle gellid archwilio camau
gweithredu allweddol yn fanylach. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y diweddariad am Raglenni Cyflogadwyedd (a ystyriwyd yn y cyfarfod
ym mis Hydref 2021) a nododd y byddai ef a'r Is-Gadeirydd yn trafod unrhyw
faterion trawsbynciol yn uniongyrchol â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg. Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2020-2022. |