Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 16
Chwefror 2021 fel cofnod cywir. |
|
Diweddariad Rhaglenni Cyflogadwyedd. PDF 177 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid Allanol adroddiad er
gwybodaeth a oedd yn manylu ar raglenni cyflogadwyedd, sgiliau a hyfforddiant
allweddol sy'n cael eu darparu gan Gyngor Abertawe. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r cyflawniadau
hyd yma ac yn tynnu sylw at gyfleoedd a heriau y dylid eu hystyried wrth
ddatblygu a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau olynol, cyllid yn dilyn gadael
yr UE. Nododd
aelodau y cefndir a’r cyd-destun, prosiectau economaidd a chyflogadwyedd
cyfredol (y manylir arnynt yn Atodiad A), materion ac allbynnau a chyfleoedd a
heriau. Mewn ymateb
i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd swyddogion y canlynol: 1)
derbynnir £2.5m y flwyddyn drwy arian grant a ddefnyddir
ar gyfer staffio prosiectau a chymwysterau. 2)
Er bod gwerth mewn blaengynllunio er mwyn datblygu polisi
cyn i'r cyllid ddod i ben, nid yw cyllid grant yn y dyfodol yn hysbys. Gallai gweithgorau gael eu cynnal yn nghanol
2022 i bennu ffordd ymlaen. Fodd bynnag,
o ystyried yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022, byddai angen i'r PDP
ystyried penderfynu ar y pwnc hwn ar ôl Mai 2022. 3)
Mae sgiliau a gafwyd o wybodaeth am y farchnad lafur yn
sail i gynllun sgiliau cadarn. Mae Bwrdd
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (PDSRh)
Trefniant Rhanbarthol Talent a Sgiliau'r Fargen Ddinesig yn cydlynu'r wybodaeth
ac yn asesu'r gofynion ar gyfer y rhanbarth. 4)
Gwnaed cynnydd gydag ysgolion a sefydliadau addysgol
ôl-16 er mwyn mynd i'r afael â'r prinder sgiliau a nodwyd. Diolchodd y Cadeirydd
i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd: 1)
Cynnull
cyfarfod ar y cyd rhwng PDC yr Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a’r PDC
Addysg i archwilio'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn perthynas â phrinder
sgiliau ac ymateb ysgolion a sefydliadau addysgol ôl-16. Diolchodd y
cadeirydd i'r swyddogion am eu hadroddiad addysgiadol. Penderfynwyd nodi'r
adroddiad. |
|
Cynllun Gwaith 2021 - 2022. PDF 198 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2022. Trafododd yr aelodau'r
pynciau i'w trafod yng nghyfarfodydd y dyfodol. Penderfynwyd: 1)
Ailenwi
eitem y Cerbydlu Gwyrdd a Llwyd yn 'Strategaeth
Cerbydau Allyriadau Tra Isel'. 2)
Nodi
cynllun gwaith 2020-2022. |