Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Datblygu Polisi'r Economi, Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 15
Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir. Codwyd ymholiadau
mewn perthynas â'r arolwg bioamrywiaeth ar-lein a mesurau tawelu traffig. Awgrymodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y dylid
codi'r materion fel rhan o gynllun gwaith 2020 - 2022. |
|
Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Achos Busnes y Rhaglen Sgiliau a Thalentau. PDF 449 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Lleoedd ddiweddariad o achos busnes Sgiliau a
Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe (ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad) a
gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cabinet ac archwiliwyd sut y gall hyn gyd-fynd
ag eitem agenda datblygu sgiliau lleol PDP yn y dyfodol. Nododd yr aelodau’r cefndir a’r cyd-destun, y cynllun busnes ar gyfer y
rhaglen sgiliau a thalent, gwybodaeth am gyllido, cyflwyno'r cyfnodau (gan
gynnwys y dadansoddiad bylchau ac a yw'n ofynnol i'r cyngor wneud ymyriadau
pellach), yr heriau a wynebir mewn perthynas â bylchau mewn sgiliau, nod y
rhaglen a'r effaith ariannol. Trafododd yr aelodau'r canlynol: 1)
Datblygu
sgiliau a recriwtio lleol a sut y gall y cyngor ddatblygu ei bolisïau i
gynorthwyo yn hynny o beth. 2)
Rôl
ysgolion wrth alinio'r cwricwlwm oed ysgol â'r hyn sy'n ofynnol ar ôl 16 oed er
mwyn mynd i'r afael â'r prinder sgiliau enfawr. 3)
Costau
ffïoedd ymgynghorwyr a'r angen i sicrhau bod mwyafrif
yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu cyfleoedd hyfforddi. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am yr adroddiad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd
ar y canlynol: Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn cyflwyno adroddiadau manwl pellach, gan fynd i'r afael â sgiliau lleol a recriwtio, gan gynnwys meysydd ymyrraeth y cyngor a rôl addysg wrth ddatblygu cwricwlwm sy'n mynd i'r afael â'r materion gyda phrinder sgiliau i bobl dros 16 oed. Mae'r adroddiadau hyn i'w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 21 Hydref, 2021. |
|
Cynllun Gwaith 2021 - 2022. PDF 195 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd gynllun gwaith 2020-2022. Codwyd ymholiadau
ynghylch amserlennu adroddiadau pellach mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae
Abertawe (Achos Busnes Sgiliau a Thalent); diweddariad mewn perthynas â'r
arolwg Bioamrywiaeth ar-lein a mesurau tawelu traffig. Awgrymwyd trefnu cyfarfod ar wahân i ail
flaenoriaethu eitemau'r cynllun gwaith. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Swyddog
y Gwasanaethau Democrataidd i drefnu cyfarfod cynllun gwaith sy'n cynnwys y
Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, a'r Cyfarwyddwr Lleoedd. |