Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y
Cynghorwyr C Anderson a P M Matthews gysylltiad personol â Chofnod 9
"Gosod Arosfannau Bysus". |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021 fel
cofnod cywir. |
|
Lleoliad Safleoedd Bysus. PDF 149 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd yr adroddiad. Rhoddodd Rheolwr
yr Uned Cludiant Integredig drosolwg cynhwysfawr o berchnogaeth, math, lleoliad
a gwaith cynnal a chadw arosfannau a chysodfannau
bysus. Nodwyd bod Swyddogion yn defnyddio canllawiau yn hytrach na bod polisi
ffurfiol ar waith. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol iddynt. Anogwyd yr
Aelodau i anfon neges ar wahân at y Tîm Cludiant ynghylch unrhyw bryderon
diogelwch neu lendid posib. Cytunodd yr
Aelodau y dylid llunio polisi i'w ddefnyddio yn Ninas a Sir Abertawe. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelod Cabinet a'r Swyddog am yr adroddiad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Y
dylid nodi'r adroddiad. 2) Bydd Arweinydd y Tîm Cludiant i Deithwyr
yn drafftio polisi (yn seiliedig ar y canllawiau gweithredol cyfredol) ac yn
ymchwilio i bolisïau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol eraill. |
|
Mesurau Arafu Traffig. PDF 336 KB Cofnodion: Rhoddodd y
Rheolwr Diogelwch Ffyrdd drosolwg o’r cefndir a'r materion i'w hystyried sy'n
gysylltiedig â chyflwyno gwaith tawelu traffig. Nododd yr
Aelodau'r ystyriaethau tawelu traffig. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol iddynt. Mewn ymateb i
gwestiynau gan Aelodau, cadarnhaodd Aelod y Cabinet y canlynol: 1)
Mae parthau
20 mya yn rhoi budd cymedrol i faterion amgylcheddol.
2)
Mae
angen monitro/gorfodi parthau 20 mya hefyd i sicrhau
cydymffurfiaeth. 3)
Mae
cyflwyno mesurau tawelu traffig yn cael effaith negyddol ar isadeiledd
priffyrdd ac ar hyn o bryd nid oes cyllid ychwanegol ar gael i wrthsefyll hyn. 4)
Ymgynghorir
â'r holl wasanaethau brys cyn cyflwyno mesurau tawelu traffig ac ystyrir eu
sylwadau. 5)
Mae
ymgynghori â'r cyhoedd yn hanfodol wrth bennu priodoldeb y gwahanol fathau o
fesurau tawelu traffig. 6)
Nid yw
tawelu traffig yn cael effaith andwyol ar argaeledd cilfachau parcio i
breswylwyr. 7)
Fodd
bynnag, byddai swyddogion yn gallu cynorthwyo Gweithgor, ond nid oes gan y Tîm
Rheoli Traffig adnoddau ar hyn o bryd. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelod Cabinet a'r Swyddogion am eu hadroddiad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Y
dylid nodi'r adroddiad. |
|
Cynllun Gwaith 2021 - 2022. PDF 194 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Gwasanaethau Democrataidd gynllun gwaith 2021-2022. Dywedodd, yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod
diwethaf y Pwyllgor, fod amserlenni a manylion swyddogion bellach wedi'u
cynnwys yn y cynllun. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Y
byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn rhoi diweddariad interim i'r Pwyllgor ynghylch arolwg
ar-lein Rheoli Mannau Agored (Bioamrywiaeth) cyn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ym
mis Medi 2021. 2)
Caiff
y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd ei chynnwys yn y cynllun gwaith. 3)
Gan
gynnwys pwyntiau 1) a 2) uchod, cymeradwyo'r cynllun gwaith ar gyfer 2021-2022. |