Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 22 Ebrill a 20 Mai,
2021 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol a'r Cynllun Gwaith Arfaethedig 2021-2022. PDF 249 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd yr Adroddiad Blynyddol a'r Cynllun Gwaith arfaethedig ar
gyfer 2021-2022. Nododd yr
Aelodau'r pynciau a drafodwyd yn ystod y Flwyddyn Ddinesig flaenorol. Trafododd yr
Aelodau eitemau arfaethedig y cynllun gwaith a gofynnwyd cwestiynau i'r
Cyfarwyddwr Lleoedd, a ymatebodd yn unol â hynny. Awgrymodd yr
Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth fod y Pwyllgor yn
archwilio ansawdd a chysondeb torri glaswellt ar draws Dinas a Sir Abertawe. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1.
Y
dylid nodi'r adroddiad. 2.
Bydd
y Cyfarwyddwr Lleoedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gynnwys yr
arolwg ar-lein Rheoli Mannau Agored (Bioamrywiaeth) cyn ei gymeradwyo. 3.
Caiff
y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd ei chynnwys yn y cynllun gwaith. 4.
Gweithlu
Canol y Ddinas y Dyfodol i gynnwys Trefniant Rhanbarthol Talent a Sgiliau'r
Fargen Ddinesig. 5.
Gwella
traffig i'w gynnwys yn y pwnc twmpath cyflymder. 6.
Cynnwys
Goleuadau Stryd. 7.
Bydd
y Cyfarwyddwr Lleoedd yn llenwi'r cynllun gwaith â dyddiadau awgrymedig ac yn
blaenoriaethu pynciau i'r materion hynny y gellir ymdrin â hwy yn ôl amserlenni
byrrach a hirach. |