Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu
a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2020
fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth Seilwaith Gwyrdd. PDF 335 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd D H Hopkins, Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau, Martin
Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd a Penny Gruffydd, Swyddog Polisi Cynaliadwy
adroddiad y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y
pwyllgor cyn ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Chwefror 2021. Amlinellwyd y cynlluniwyd y strategaeth i gefnogi Rhwydwaith Isadeiledd
Gwyrdd Strategol Polisi ER 2 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'r Canllawiau
Cynllunio Atodol ar Isadeiledd Gwyrdd sy'n cael eu datblygu Cyfrannodd y strategaeth at ddyletswyddau'r
cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr
Amgylchedd (Cymru) 2016, a bydd yn cefnogi'r defnydd o Safon SDCau (Systemau
Draenio Cynaliadwy) Statudol 2019. Roedd hefyd yn cyflawni un o'r camau yn
amcan llesiant y Cyngor: Cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth
Abertawe ac amcan Gweithio gyda Natur Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Ychwanegwyd bod y broses o lunio'r strategaeth yn cynnwys cysylltu â
rhanddeiliaid perthnasol y cyngor o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd
sector, preswylwyr, ymwelwyr a defnyddwyr Ardal Ganolog Abertawe wrth
ddatblygu'r strategaeth ddrafft, ac yna ymgynghoriad 5 wythnos ar y strategaeth
ddrafft. Roedd yr adroddiad yn nodi sut yr oedd
Adran Amgylchedd Naturiol y cyngor yn cydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
a Green Infrastructure Consultancy i ddatblygu Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd
ddrafft ar gyfer Ardal Ganolog Abertawe; Ardal Ganolog Abertawe – Adfywio'n
Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt, a gynhwyswyd yn Atodiad A. Cynlluniwyd y strategaeth i wireddu nodau
isadeiledd gwyrdd Fframwaith Adfywio Ardal Ganolog Abertawe a sicrhau bod canol
y ddinas yn elwa ar welliannau isadeiledd gwyrdd a gynlluniwyd yn strategol
wrth gynllunio datblygiadau newydd ac adnewyddu adeiladau a mannau cyhoeddus
sy'n bodoli eisoes. Roedd y strategaeth yn nodi manteision a
chost-effeithiolrwydd isadeiledd gwyrdd, a fyddai'n galluogi'r cyngor a
rhanddeiliaid i gymryd ymagwedd wybodus a chydlynol tuag at sicrhau'r
manteision mwyaf posib, a magu hyder
buddsoddwr mewn isadeiledd gwyrdd yng nghanol y ddinas. Rhoddodd yr adroddiad fanylion
am ddatblygiad y strategaeth, gan gynnwys
gweledigaeth y strategaeth a sut y byddai'r cyngor yn defnyddio'r strategaeth
yn gorfforaethol. Cafodd holl sylwadau a
chamau gweithredu'r arolygon cyhoeddus, e-byst, sesiynau ysgol a llyfrgell eu
crynhoi yn Atodiad B. Amlinellwyd yr egwyddor datblygu
cynaliadwy a'r ffyrdd o weithio a fu'n ganolog i ddatblygiad y strategaeth hon
ers ei syniadaeth, yn Atodiad C. Trafododd y pwyllgor y
canlynol: - ·
Gweithio mewn
partneriaeth mewn ffordd gadarnhaol iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i
gynhyrchu'r strategaeth ragorol; ·
Pwysigrwydd gwella
ansawdd aer o fewn y Sir hefyd; ·
Canolbwyntio'r
strategaeth bresennol ar ganol y ddinas, 'prynu i mewn' gan ddatblygwyr a
datblygu'r strategaeth ledled y Sir fel rhan o broses tri chyfnod; ·
Oedi a achoswyd gan
bandemig COVID-19; ·
Cyllido'r prosiect yn
y dyfodol; ·
Gweledigaeth y
strategaeth. Dywedodd y Cynghorydd R
Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth fod y
Cabinet yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau adfywio ac ychwanegodd fod llawer
o ddiddordeb wedi'i greu gan y strategaeth, a gefnogwyd yn eang. Penderfynwyd cytuno ar y strategaeth a'i hanfon ymlaen i'r Cabinet i'w mabwysiadu ym
mis Chwefror 2021. |
|
Cynllun Gwaith 2020/2021. PDF 379 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad y cynllun gwaith diwygiedig ar gyfer 2020-2021. Tynnodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd sylw at agwedd drafnidiaeth y cynllun adfer o COVID-19, i'w
thrafod ym mis Ionawr 2021. Cyfeiriodd at y nod o sut y gellid diwygio a gwella
polisi'r cyngor i gefnogi'r gwaith o gyflawni nod y cyngor i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030, o fewn gwasanaethau a
gweithrediadau'r cyngor. Ychwanegodd fod
hyn yn eang ei gwmpas ac y byddai'n caniatáu i'r pwyllgor gyfrannu at yr
adroddiad, a fyddai'n fframwaith trafod. Penderfynwyd nodi cynnwys yr
adroddiad. |