Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd
a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 fel cofnod cywir. |
|||||
Amnest ar wastraff (diweddariad). Cofnodion: Dywedodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd y bu peth dryswch ynghylch yr wybodaeth yr oedd Aelodau'n
ei cheisio. Cyfeiriodd yr
aelodau at fenter a gynhaliwyd ychydig flynyddoedd yn ôl a oedd yn caniatáu i breswylwyr
lleol waredu eitemau gwastraff yn gywir ac yn gyfleus yn eu wardiau. Roedd y
fenter yn llwyddiannus wrth leihau'r achosion o dipio anghyfreithlon a chafwyd
adborth cadarnhaol gan breswylwyr lleol. Yn ogystal, roedd cyfleuster a oedd yn
caniatáu i breswylwyr gael gwybodaeth am ailgylchu. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai darparu adnoddau ar gyfer gwastraff cymysg yn her,
yn enwedig gan nad oedd dyraniad cyllidebol ar hyn o bryd ar gyfer y math hwn o
fenter. Nododd yr
aelodau'r ffigurau ailgylchu cyfredol, problemau gyda gwastraff masnachol,
cymariaethau ag awdurdodau lleol cyfagos mewn perthynas ag erlyniadau a gosod
camerâu cudd mewn lleoliadau tipio anghyfreithlon. Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod, dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd nad oedd rhai materion a
godwyd gan yr aelodau yng cylch gorchwyl y Pwyllgor Datblygu Polisi. Fodd
bynnag, byddai swyddogion yn llunio adroddiad am gyflwyno cynllun peilot yng
nghyd-destun strategaeth ailgylchu'r cyngor.
Nodwyd ymhellach
gan yr Aelodau y gallai mentrau o'r math hyn (ar yr amod nad oeddent yn mynd yn
groes i bolisi cyfredol y cyngor) gael eu hariannu o fewn cyllidebau cymunedol
pe baent yn dymuno gwneud hynny. Penderfynwyd cyflwyno adroddiad i'r cyfarfod a
drefnwyd ar gyfer 16 Ebrill, 2020. |
|||||
Cynllun Gwaith 2019/2020. PDF 213 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cynllun gwaith. Penderfynwyd y dylai'r cynllun gwaith ar gyfer
2019/2020 gynnwys y canlynol:
|