Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod (au) blaenorol fel cofnod
cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr
2019 fel cofnod cywir. |
|||||||
Coridor yr Afon. Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Adfywio Ffisegol adborth o'r gweithdy a gynhaliwyd ym mis Hydref 2018
ac amlinellwyd yr amcanion drafft ar gyfer mis Ionawr 2019. Nododd y
cyflwyniad: ·
Ddiben
Strategaeth Glannau Afon Tawe; ·
Cynllun
Datblygu Lleol Abertawe (2016); ·
4
Ardal Astudio; ·
Fformat
y gweithdy; ·
Adfywio'n seiliedig ar dreftadaeth, cadw a gwella asedau
treftadaeth; ·
Mynediad, symudiad, cysylltiadau; ·
Bioamrywiaeth a'r amgylchedd; ·
Defnydd Cymysg o dir, tai, defnydd masnachol a
chyflogaeth; ·
Gweledigaeth strategaeth coridor glannau afon Tawe; ·
Amcanion strategaeth coridor glannau afon Tawe; ·
Y camau nesaf; Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Allanol a Datblygiad Economaidd drosolwg
cynhwysfawr o'r rhaglen o gynnydd cyllid posib. Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Canolbwyntiodd trafodaethau ar: ·
Berchnogaeth a chyflwr gwely'r afon a'r angen i weithio
mewn partneriaeth â'r perchennog; ·
Manylion sensitif yn ymwneud
â’r bont wrthbwys; ·
Gwella bioamrywiaeth trwy gyflwyno rhywogaethau naturiol
a defnyddio egwyddorion y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd; ·
Y cynigion a'r cynnydd gyda'r prosiect Skyline; ·
Cyllid; ·
Y safle Parcio a Theithio; ·
Y gwaith a wnaed gan Cyfoeth
Naturiol Cymru wrth ddatblygu eu cynigion ar gyfer coridor yr afon; ·
Y cynigion ynghylch podiau
addysg a rôl Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wrth helpu'r cyngor gydag agweddau
ar y strategaeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai'n trafod y materion a drafodwyd yn
ei gyfarfod gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd: 1.
Nodi'r diweddariad; 2.
Rhannu copi o'r cyflwyniad ag aelodau'r pwyllgor; 3.
Trefnu diweddariad ar gynnydd ar gyfer 18 Ebrill, 2019. |
|||||||
Cynllun Gwaith 2018/2019. PDF 92 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
y cynllun gwaith diwygiedig ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd
nodi’r Cynllun Gwaith ar
gyfer 2018-2019:
[Yn ychwanegol,
cytunodd aelodau i ymgynnull am weithdy ar y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd
ddydd Iau 21 Chwefror, amser i'w gadarnhau]. |