Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd V M Evans – Personol - Cofnod Rhif 43 - Strategaeth Trafnidiaeth - wedi'i gyflogi am dâl gan GWR fel a grybwyllwyd yng Nghofnod Rhif. 43. |
|||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod (au) blaenorol fel cofnod
cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018 fel
cofnod cywir. |
|||||
Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr Canol y Ddinas Astudiaeth Dichonoldeb ddrafft Stryd y Gwynt. Nododd yr aelodau
fod yr adroddiad wedi'i gomisiynu ar y cyd rhwng y cyngor a'r Rhanbarth Gwella
Busnes. Roedd yr
adroddiad yn cynnwys 36 o dudalennau, gan gynnwys y cynllun busnes a'r
wybodaeth dechnegol. Nodwyd nad yw'r
rhagair wedi'i amlinellu eto. Fodd bynnag, rhagwelir y byddai'r Arweinydd/Aelod
y Cabinet a Chadeirydd y Rhanbarth Gwella Busnes yn darparu mewnbwn. Rhoddodd Rheolwr
Canol y Ddinas grynodeb cynhwysfawr o'r ddogfen, y weledigaeth 8 pwynt a
gynigiwyd a'r costau sy'n gysylltiedig â'r cynigion Efydd, Arian ac Aur. Roedd materion
allweddol a gododd o'r trafodaethau'n cynnwys y canlynol: ·
Cafwyd
80-90% o gefnogaeth ar gyfer y cynigion a gyflwynwyd. ·
Cyfanswm
cost cyflwyno'r cynllun llawn yw £2.3m. ·
Byddai'r
cynllun yn cael ei gyflwyno mewn camau dros gyfnod estynedig. ·
Roedd
amlygu'r buddion posib yn allweddol i ddatblygu'r cynllun. Manylodd Rheolwr
Canol y Ddinas yr amserlenni mewn perthynas â phenderfyniad y Cabinet a
cheisiwyd sylwadau gan aelodau'r Cabinet. Diolchodd y Cadeirydd
i Reolwr Canol y Ddinas am ei chyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd cylchredeg Astudiaeth Dichonoldeb ddrafft
Stryd y Gwynt i aelodau'r Cabinet, yn gofyn am gyflwyno unrhyw sylwadau i
Reolwr Canol y Ddinas erbyn dydd Gwener 4 Ionawr 2019 fan bellaf. |
|||||
Strategaeth Cludiant. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at ddiweddariad
swyddog blaenorol mewn perthynas â'r ymagwedd ranbarthol at drafnidiaeth a sut
mae hyn yn cysylltu â'r cynllun trafnidiaeth lleol. Bu llwyddiant wrth
sicrhau grant gwerth £700,000 i gynnal astudiaeth dichonoldeb a chanfod sut
olwg fyddai ar strategaeth trafnidiaeth rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu cwmni
'Trafnidiaeth Cymru' sydd â rôl oruchwyliol ar gyfer isadeiledd cludiant yng
Nghymru. Nododd yr
aelodau'r adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Mark Barry mewn perthynas ag
amseroedd teithio a gwelliannau i'r isadeiledd rheilffyrdd. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd at y Papur Gwyn a baratowyd gan Lywodraeth Cymru sy'n
archwilio taliadau consesiynol ac integreiddio â'r rhwydwaith trenau yn
rhanbarthol. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a ymatebodd yn briodol iddynt. Penderfynwyd y bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn penodi unigolyn a fydd yn darparu mwy o wybodaeth i'r pwyllgor. |
|||||
Polisi Seilwaith Gwyrdd. Cofnodion: Darparodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd drosolwg o'r adolygiad Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd. Nodwyd y byddai'r adolygiad yn dod i ben ar
ddiwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill. Awgrymodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd y dylid cynnal gweithdy lle gallai aelodau'r pwyllgor
gyfrannu at ddatblygiad y strategaeth honno. Penderfynwyd y byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn
ymgysylltu â'r Cadeirydd ynglŷn â'r dyddiadau ar gyfer y gweithdy â
siaradwr addas. |
|||||
Y diweddaraf am fargen y ddinas. Cofnodion: Nododd y
Cyfarwyddwr Lleoedd fod digwyddiad cynnwys busnesau mewn perthynas â'r
strategaeth trafnidiaeth wedi'i gynnal ar 6 Rhagfyr 2018 a oedd wedi cynnwys
busnesau, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector. Mae'r gwaith yn
parhau gyda Llywodraeth Cymru a bydd cyfarfod pellach yn cael ei mewn perthynas â phroblemau prosiect Abertawe
a bydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnull er mwyn egluro rhai o'r problemau. Nodwyd y byddai
angen i'r broses gyflymu fel ei bod yn cael ei chwblhau erbyn diwedd mis
Chwefror 2019, gyda'r nod y byddai arian y Fargen Ddinesig yn dilyn erbyn
diwedd mis Mawrth. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|||||
Cynllun Gwaith 2018/2019. PDF 92 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019;
|