Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatgelwyd unrhyw gysylltiadau. |
|||||||
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2018
fel cofnod cywir. |
|||||||
Fflyd Werdd. Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd at y diweddaraf a roddwyd i aelodau ym mis Mehefin 2018 a
manylodd ar brif faterion y polisi drafft a oedd yn cynnwys: ·
Penderfynu
ar yr hierarchaeth gerbydau (datblygu meini prawf/matrics e.e. cerbydau â'r
allyriadau isaf wedi'u cydbwyso yn erbyn costau ac ymarferoldeb). Sicrhau bod y polisi yn 'fyw' er mwyn cynnwys
datblygiadau technolegol newidiol. ·
Creu
gwaelodlin ar gyfer y cerbydlu a oedd yn cynnwys
niferoedd ac yn hepgor y cerbydlu cyfan gyda'r nod
o'i leihau 10-20%. ·
Mabwysiadu
ymagwedd gorfforaethol at brynu holl gerbydau'r cyngor, gyda rheolwr y cerbydlu'n unig yn gyfrifol am gaffael y rhain. ·
Cyflwyno
trefniadau monitro i sicrhau y gall aelodau ddal swyddogion i gyfrif. ·
Penderfynu
ar gynnwys cerbydlu 'llwyd' (cerbydau wedi'u
prydlesu) a'r effaith ar gaffael cost-effeithiol. ·
Efallai
bydd angen addasu amodau a thelerau gweithwyr er mwyn annog newid mewn
ymddygiad drwy dalu cyfradd treuliau llogi i weithwyr sy'n defnyddio cerbydau
trydan yn hytrach na rhai diesel. ·
Byddai
angen i ystyriaethau ariannol fod o fewn cyllidebau sydd ar gael oni bai fod y
Cabinet/cyngor yn penderfynu fel arall. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd at yr amrywiol brofion sy'n bodoli yng Nghymru, a lwyddodd
i gael arian grant. Nododd aelodau fod Swyddogion Arloesedd
Llywodraeth Cymru wedi clustnodii £2m er mwyn newid
cerbydau. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y
Cyfarwyddwr Lleoedd, ·
Roedd gwaith yn cael ei wneud i ehangu argaeledd pwyntiau
gwefru i aelodau'r cyhoedd drwy'r defnydd o fannau parcio dynodedig. ·
Roedd
posibilrwydd o osod paneli solar ar eiddo'r cyngor, fodd bynnag, erys heriau o
ran storio batris. Dan fenter 'Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer' y cyngor,
roedd opsiynau'n cael eu hystyried. Rhagwelwyd y byddai cost paneli solar yn
lleihau dros amser fel y byddai eu gosod ar eiddo'r cyngor yn opsiwn ymarferol. ·
Yr
amser ailwefru presennol ar gyfer cerbydau trydan yw 4 awr, a'r nod yw lleihau
hyn i 20 munud. ·
Y
dyhead trosgynnol fyddai sicrhau bod y polisi'n hyblyg er mwyn caniatáu
datblygiadau technolegol. ·
Mae
'Polisi o'r Cartref i'r Gwaith' cadarn ar gyfer cerbydau'r cyngor a ddefnyddir
gan weithwyr. ·
Heb
fychanu pwysigrwydd y Polisi Aer Glân a'r angen am gynnwys hwn yn y Polisi Cerbydlu Gwyrdd, mae yna broblem amseru. Mae'r Polisi Aer
Glân yn cysylltu â'r Polisi Trafnidiaeth a bydd yn cymryd mwy o amser i'w
ddatblygu. Rhagwelir y gellir datblygu'r
Polisi Cerbydlu Gwyrdd erbyn diwedd 2018. ·
Cafwyd
tua 240 o gerbydau newydd yn lle'r hen rai yn y 9 mis diwethaf. Bydd APSE
(Cymdeithas Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus) yn cynnal
adolygiad fel rhan o broses gomisiynu ar gerbydlu'r
cyngor. Y nod fyddai lleihau'r tymor contract ar gyfer cerbydau a brydlesir i dymor o 2 i 3 blynedd a fyddai'n
gost-effeithiol i'r cyngor. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai'n cymryd 4 i 5
mlynedd er mwyn i'r cerbydlu weithio drwy'r system.
Felly, y ffordd orau ymlaen fyddai ymagwedd gyfnodol. ·
Gosodir
teclynnau olrhain ar y rhan fwyaf o gerbydau ac mae system adolygu gadarn yn
weithredol. Diolchodd y
cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd: ·
Ystyried
y Polisi Cerbydlu gwyrdd drafft mewn cyfarfodydd a
drefnwyd ar gyfer mis Medi a mis Hydref. · Y bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn e-bostio aelodau i roi'r diweddaraf iddynt a manylion niferoedd y ceir gwyrdd cyn y cyfarfod. |
|||||||
Strategaeth Cludiant. Cofnodion: Nododd y
Cyfarwyddwr Lleoedd fod y cyngor yn ceisio mabwysiadu ymagwedd ranbarthol o ran
y Strategaeth Trafnidiaeth. Daw'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol i ben yn
2020. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu
grant i ddechrau'r broses ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar y strategaeth
ddrafft. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £700 mil ar gael ar gyfer y cam
nesaf sy'n cwmpasu comisiynu unigolyn penodol a fydd yn arwain ar y Polisi
Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae Metro De
Cymru'n cynnwys awdurdodau lleol ffiniol ac mae'n ymdrin â'r cyfleoedd ar gyfer
buddsoddiad dros yr 50 mlynedd nesaf. Mae'n cyd-fynd â'r Fargen Ddinesig ac yn
edrych ar y tymor byr, canolig a hir. Mae ymchwil yn cael ei wneud i ganfod
tueddiadau teithio a sut mae trafnidiaeth leol yn ateb y galw. Mae lleoliadau
rhesymegol ar gyfer canolfannau lleol a rhanbarthol sy'n cynnwys trenau/bysus a
lle mae'r rhain yn cyd-fynd ag anghenion rhanbarthau eraill. Roedd ail ddarn o
waith wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith trenau
strategol, y byddai'r Athro Barry, Prifysgol Caerdydd, yn ei wneud. Nododd y
Cyfarwyddwr Lleoedd fod rhai o'r prosiectau'n gysylltiedig â'r Fargen Ddinesig,
ac eraill yn cyd-fynd â ffin. Mae Cyngor Sir Gâr yn cydlynu'r cyd-bwyllgor ar ran y rhanbarth, a rhagwelwyd na fyddai
problem pe bai'r pwyllgor yn dymuno siarad â swyddogion Cyngor Sir Gâr. Adroddodd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod y Cynllun Teithio Llesol yn allweddol i ddatblygu darpariaeth i feicwyr. |
|||||||
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 92 KB Cofnodion: Resolved that the revisions to the work plan 2018 – 2019 be agreed as follows:
|