Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd cadarnhau Cofnodion Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi - Yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar: a)
12
Ebrill 2018; b)
24
Ebrill 2018; a c)
24
Mai 2018 fel cofnodion cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd y cylch
gorchwyl. |
|||||||||||||||||||||||||||
Coridor yr Afon. Cofnodion: Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd y diweddaraf o ran Datblygiad Gwaith Copr yr Hafod. Nodwyd bod
cyfalaf gwerth £1.5 miliwn wedi'i gymeradwyo gan alluogi'r Cabinet i gyflwyno
cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae ail gam y broses bellach wedi'i gwblhau
a gwneir penderfyniad ym mis Medi 2018.
Hysbyswyd yr aelodau'n flaenorol ynghylch y strategaeth bresennol (sydd
bellach wedi dyddio). Awgrymwyd y byddai
gweithdy ar gyfer aelodau tua diwedd mis Awst/dechrau mis Medi 2018 yn fuddiol
gan y rhagwelwyd penderfyniad gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Byddai gan yr
aelodau'r cyfle i gyfrannu at y strategaeth gyntaf ar gyfer yr ardal, gan
ystyried hygyrchedd, rhwydweithiau, isadeiledd priffyrdd etc. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y
Cyfarwyddwr Lleoedd: 1.
Byddai'r
llwybr gwneud penderfyniadau ar gyfer y strategaeth a'r angen am unrhyw ganllaw
cynllunio atodol ffurfiol yn cael ei hadrodd i'r aelodau. 2.
Roedd
dau opsiwn yn cael eu hystyried mewn perthynas â Chynllun Skyline/Skyluge, sy'n cynnwys defnyddio'r tir yn y maes parcio neu
ar ochr arall yr afon. Penderfynwyd: 1.
Trefnu
trafodaeth ar goridor yr afon ar gyfer y cyfarfod nesaf er mwyn penderfynu pa
bynciau i'w hystyried mewn gweithdy pwyllgor; 2. Y bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn dosbarthu'r strategaeth bresennol i aelodau'r pwyllgor. |
|||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Cludiant. Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd at y diweddariad blaenorol ynghylch y Strategaeth
Trafnidiaeth a sut mae hyn yn effeithio ar y Fargen Ddinesig. Nodwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi darparu grant gwerth £140,000 i'r rhanbarthau (sy'n cynnwys 4 ardal
awdurdod lleol) at ddibenion comisiynu ymgynghorwyr i ddatblygu cynllun
trafnidiaeth rhanbarthol (sy'n cynnwys ffyrdd, rheilffyrdd a bysus). Yn wreiddiol, byddai'r ymgynghorwyr yn
dadansoddi'r data mewn perthynas â lle mae pobl yn byw, yn gweithio ynddo, yn
ymweld ag ef ac unrhyw heriau a'r canlyniadau posib. Byddai canolfannau trafnidiaeth rhanbarthol
sy'n arwain at gydgysylltedd gwell drwy'r rhanbarth
hefyd yn cael eu harchwilio. Byddai
cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gael a cheisiwyd barn y pwyllgor mewn
perthynas â'r polisi arfaethedig. Nodwyd hefyd fod
ail ddarn o waith wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith
trenau strategol, a fyddai'n cael ei gynnal gan yr Athro Barry, Prifysgol
Caerdydd. Roedd golwg clir
ar y ddau adolygiad yn rhan bwysig o adfywio'r ddinas. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y
Cyfarwyddwr Lleoedd: 1.
Byddai'r
Panel Ariannu Allanol yn ystyried cyfres o geisiadau mewn cysylltiad â Ffordd Ffabian (yr ardal gerllaw cwmni Four
Counties sy'n archwilio a fyddai llwybr mwy syth yn
ymarferol); gwelliannau posib i'r cyffyrdd ar Ffordd Ffabian
a'r cyfleusterau parcio a theithio. 2.
Byddai
materion amgylcheddol yn cael eu harchwilio hefyd. Fodd bynnag, nid oedd yn
ymwybodol a oedd cyflwyno parthau dim mynediad i geir wedi'i ystyried. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|||||||||||||||||||||||||||
Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cartrefi fel Gorsafoedd Pwer. Cofnodion: Nododd y
Cyfarwyddwr Pobl mai un o brosiectau'r Fargen Ddinesig yw Cartrefi fel
Gorsafoedd Pŵer. Egwyddor sylfaenol
y cynllun oedd creu ynni gan ddefnyddio eiddo newydd a phresennol, wrth osod
neu ail-osod yr eiddo. Gellid defnyddio
amrywiaeth o dactegau a fyddai'n gofyn am ddefnyddio technoleg ddrud.
Rhagwelwyd y byddai'r gwaith arloesol a gynhelir fel rhan o'r Fargen Ddinesig
yn fuddiol i'r DU yn gyffredinol. Manylodd ar y
modelau busnes a rôl y darparwyr tai amrywiol wrth sicrhau llwyddiant y
cynllun. Roedd
Castell-nedd Port Talbot wedi dechrau ei brosiect peilot sy'n cynnwys 16 o dai
newydd â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Nodwyd bod y Cabinet wedi
cymeradwyo adroddiad ynghylch Arfarniad Opsiynau ar gyfer Mwy o Gartrefi ar
Safle Parc yr Helyg a rhagwelir y byddai lefel y dechnoleg sydd ar gael i'w
chyflwyno i'r cynllun yn ddibynnol ar gyllid Tai Arloesol Llywodraeth Cymru. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y
Cyfarwyddwr Lleoedd, 1.
Bydd
y cynllun yn ceisio adeiladu 2500 o dai newydd ac ôl-osod 7500 o dai presennol.
Rhagwelir y byddai'r cartrefi'n cael eu hadeiladu fesul cam. 2.
Roedd
'Robin Hood Energy' Cyngor Nottingham yn enghraifft dda o awdurdod lleol yn cynhyrchu
ac yn cyflenwi trydan. Roedd y cyngor wedi bod yn archwilio a fyddai yn
ymarferol efelychu'r cynllun hwn. Roedd achos busnes a chynigion ar gyfer
ymgynghoriad yn cael eu hystyried gyda'r nod o adrodd i'r Cabinet ar ddechrau
mis Medi.Byddai angen i'r cynnig ddarparu tystiolaeth
drwyadl sy'n manylu ar ddichonoldeb ariannol a heb unrhyw gost i'r trethdalwr. 3.
Byddai'r
morlyn arfaethedig yn darparu cyflenwad sylweddol o ynni adnewyddadwy a allai
ddarparu cyfleoedd a buddion i'r sector cyhoeddus lleol. 4.
Mae'r
fenter paneli solar mewn ysgolion wedi bod yn llwyddiannus wrth leihau'r costau
wrth brynu trydan mewn ysgolion. Datganodd y Cyfarwyddwr Pobl y byddai'n
darparu dadansoddiad o'r ysgolion sy'n elwa o'r cynllun. 5.
Mewn
perthynas ag ôl-osod tai cyngor, penderfynwyd nad oedd yn ariannol ddichonadwy
i osod paneli solar ar stoc tai. Yn ychwanegol, mae heriau ariannol o ran
storio ar fatris. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.
|
|||||||||||||||||||||||||||
Fflyd Werdd. Cofnodion: Cylchredodd y
Cadeirydd nodyn briffio a baratowyd gan y Cyfarwyddwr Pobl. Datganodd y
Cyfarwyddwr Pobl nad oedd y nodyn briffio'n cynrychioli polisi, ond ymagwedd at
ddatblygu polisi. Datganodd mai diben y
drafodaeth heddiw oedd ceisio barn aelodau. Nododd yr aelodau
y byddai polisi'r Cerbydlu Gwyrdd yn cael ei bennu yn
ôl defnydd y cyngor o gerbydau. Mae'r cerbydau a awgrymwyd yn cynnwys y rheiny
y mae gweithwyr y cyngor yn eu defnyddio wrth gyflawni eu dyletswyddau
(tryciau/faniau sbwriel a cheir hurio). Roedd rhaid
ystyried hierarchaeth y cerbydau (e.e. cerbydau heb allyriadau, rhai diesel ac unrhyw beth yn y canol). Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y Cyfarwyddwr
Lleoedd: 1.
Cynhaliwyd
arbrofion gyda cherbydau deisel "hybrid" a
cherbydau trydan, er nad yw'r rheiny sy'n ymwneud â cherbydau trydan wedi bod
mor llwyddiannus oherwydd maint y batri.
Nod rhan o'r arbrawf oedd pennu a allant gyflwyno dibynadwyedd/sicrwydd
ac mae angen ymagwedd fesul cam at gaffael. 2.
Mae
hurio cerbyd dros gyfnod byr yn golygu nad yw'r cyngor yn gyfrifol. 3.
Nid
oes polisi mewn perthynas â chael gwared ar lygredd yng nghanol y ddinas. 4.
Mae gweithwyr
yn hawlio costau teithio pan fyddant yn defnyddio eu cerbydau eu hunain at
ddibenion gwaith. Un opsiwn yw cynnig yr un gyfradd ar gyfer defnyddio'r ddau
fath o gerbyd. 5.
Ni
thrafodwyd caffael eto. Penderfynwyd y dylid: 1.
Gwahodd
y Swyddog Arweiniol, Mark Barrow, i gyfrannu at weithdy pwyllgor; 2.
Gwahodd
cydweithwyr perthnasol o Dai, Cludiant ac Ynni i gymryd rhan hefyd; ac 3. Y bydd y Cadeirydd yn cwrdd â'r Cyfarwyddwr Lleoedd cyn gweithdy pwyllgor i benderfynu ar gynllun gwaith arfaethedig. |
|||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. Cofnodion: Nododd y Cyfarwyddwr
Pobl fod ymgynghoriadau'n dal i fod ar waith a bod tri opsiwn yn cael eu
hystyried (yr opsiwn a ffefrir yw'r trydydd
opsiwn). Un o'r prif heriau oedd hyd
amser cau'r ffordd yn ystod y dydd. Penderfynwyd ar y canlynol: 1.
Bydd
Rheolwr Canol y Ddinas yn bresennol yn y cyfarfod nesaf i ddarparu'r diweddaraf
ar y cynnydd; a 2. Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn e-bostio'r aelodau mewn perthynas ag adborth o'r ymgynghoriad, a'r adborth a gyflwynwyd gan yr aelodau'n benodol. |
|||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Gwaith 2018 - 2019. Cofnodion: Cyfeiriodd y cadeirydd
at eitemau'r cynllun gwaith pwysig a oedd heb eu penderfynu a drafodwyd yn y
cyfarfod ar 24 Ebrill 2018. Nododd y
Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai pwnc Cerdyn y Dinesydd yn cael ei ystyried gan PDP
Cyngor y Dyfodol. Ni chyfeirwyd
at ardaloedd siopa y tu allan i'r ddinas a gellid cynnwys materion anabledd
mewn polisïau eraill. Penderfynwyd y dylai eitemau'r cynllun gwaith sydd i'w
hystyried ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019 gynnwys:
|