Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Adborth Aelodau - Astudiaeth Dichonolrwydd - Troi Stryd y Gwynt yn Barth Cerddwyr. Cofnodion: Diolchodd yr
Is-gadeirydd i’r aelodau hynny a oedd wedi cyflwyno sylwadau i'r Cadeirydd drwy
e-bost, yn dilyn cyflwyniad a thrafodaeth yn y cyfarfod diwethaf. Dywedodd y gallai
aelodau barhau i gyflwyno eu barn/sylwadau drwy e-bost iddo ef ei hun neu i'r
Cadeirydd, ac y byddai'r rhain yn cael eu hanfon ymlaen at Lisa Wells. Siaradodd y
Cynghorwyr T M White ac L S Gibbard eto am y sylwadau a gyflwynwyd ganddynt yn
electronig, gan gyfeirio at y meysydd canlynol: y posibilrwydd o ymweliad
safle/tro o gwmpas yr ardal, cefnogi parth i gerddwyr yn ystod y dydd ac opsiwn
un lôn, hyrwyddo Stryd y Gwynt yn well, materion ynghylch celfi stryd, casglu
sbwriel, "glasu'r" ardal gwneud yn fawr o hanes a phensaernïaeth yr
ardal leol. Amlinellodd y
Cynghorydd SM Jones y posibilrwydd o lasu'r ardal yn fwy a chyflwyno mwy o
flodau i'w gwella. |
|
Adroddiad blynyddol ar gyfer 2017/18 y rhaglen waith. PDF 143 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad trosolwg a oedd yn crynhoi'r testunau eang a
archwiliwyd ac a drafodwyd gan y pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddinesig
ddiwethaf. Roedd y rhain yn
cynnwys y meysydd canlynol: ·
Trosolwg
o'r Fargen Ddinesig; ·
Cerdyn
y Dinesydd; ·
Troi Stryd
y Gwynt yn barth i gerddwyr; ·
Coridor
yr Afon; ·
Strategaeth
Trafnidiaeth y Dyfodol a Thai; ·
Tai
yng nghanol y ddinas; ·
Bargen
Ddinesig Bae Abertawe; ·
Abertawe
a'r Dinas-ranbarth ·
Tai
Cydweithredol Mynegodd Aelodau,
er eu bod yn croesawu'r amrywiaeth eang o destunau a phynciau a drafodwyd yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf, yr hoffent gael diweddariadau/adroddiadau cynnydd
am bob un o'r meysydd pwnc uchod yn ystod y flwyddyn ddinesig nesaf, a bod
angen ffocws manylach a chliriach ar rai meysydd pwnc
mwy penodol er mwyn symud materion yn eu blaenau a phenderfynu arnynt. Penderfynwyd nodi'r adroddiad blynyddol ac y dylai'r
cynllun gwaith ar gyfer 2018/2019 adlewyrchu'r materion a amlygwyd uchod. |
|
Cynllun Gwaith PDChP yr Economi ac Isadeiledd - 2018/2019. (Trafodaeth) Cofnodion: Mynegodd yr
Is-gadeirydd, yn ychwanegol at yr adborth a'r drafodaeth a gafwyd ar gyfer
Cofnod 48 (uchod), y dylid ychwanegu'r holl eitemau a amlygwyd uchod at y
Cynllun Gwaith er mwyn cael diweddariadau yn ystod y flwyddyn ddinesig. Trafododd aelodau
ymhellach y meysydd a amlinellir isod a'u hamlygu fel meysydd y gallai'r
pwyllgor neu grwpiau tasg a gorffen posib ymchwilio iddynt yn fanylach yn ystod
y flwyddyn: ·
Troi
Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr; (diweddariad i gyfarfod mis Mehefin) ·
Cynigion
ar gyfer Cerdyn y Dinesydd; ·
Ardaloedd
siopa y tu allan i'r ddinas; ·
Materion
anabledd; ·
Coridor
yr Afon; ·
Cerbydlu Gwyrdd; ·
Polisi
Isadeiledd Gwyrdd. Mynegodd yr
Is-gadeirydd y byddai'n trafod y materion a'r pynciau a godwyd uchod â'r
Cadeirydd cyn y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd ychwanegu'r materion a amlinellwyd uchod
(ac yng Nghofnod 48) at y cynllun gwaith yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor ym
mis Mehefin. |