Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
To approve and sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2017 fel
cofnod cywir. |
|
Tai yng Nghanol y Ddinas. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd y
Rheolwr Cynllunio Strategol ac Amgylchedd Naturiol ddiweddariad i'r aelodau am
rôl tai wrth adfywio canol y ddinas, gan ystyried llwyddiant y polisi yn y
gorffennol ac ar hyn o bryd, a fframwaith polisi'r Cyngor sydd yn yr arfaeth. Nododd y
cyd-destun, cefndir y polisi (a oedd yn cynnwys adolygiad hanesyddol) a rôl tai
yn y dyfodol wrth adfywio canol y ddinas. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol: ·
O ran
llety dwysedd uchel yn y ddinas, nid oedd unrhyw reolau pendant o ran dwysedd
fesul hectar; ·
Mae
cyfyngiadau parcio ceir yn llac yng nghanol y ddinas ond mae'n rhaid iddynt gysylltu'n
glir â'r datblygiad (ar y safle ac oddi yno); ·
Gyda
gweledigaeth tra modern o fywyd, nid yw'n rhy bell i ffwrdd lle na fydd angen
bod yn berchen ar gerbyd oherwydd datblygiadau mewn technoleg; ·
Bydd
canol y ddinas yn newid er mwyn cynnal cymysgedd o gyfleusterau preswyl,
manwerthu a hamdden ac felly'n denu pobl; Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu
cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cartrefi fel Gorsafoedd Pwer. PDF 113 KB Cofnodion: Darparodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd drosolwg o brosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer
Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r camau arfaethedig nesaf. Nododd y cefndir;
angen/galw; trosolwg o'r prosiect; pecyn ariannu cenedlaethol ar lefel y DU;
allbwn/canlyniadau a'r camau nesaf. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y
Cyfarwyddwr Lleoedd, ·
Mae
llawer o safleoedd arbrofol yn y DU, fodd bynnag, nid yw technoleg wedi symud
yn ddigon cyflym (mae storfa batri wedi bod yn broblem); ·
Mae'r
peilot yn ymwneud â mwy nac adeiladu tai newydd, mae hefyd yn ymwneud â gosodiadau
ôl-ffitio; ·
Mae'r
cynllun peilot yn debygol o gael ei fabwysiadu'n raddol o fewn y sector
preifat; ·
Ni
fydd unrhyw effaith ar gyllideb refeniw'r cyngor; ·
Ceir
diweddariad pellach ym mis Ionawr/Chwefror 2018 pan fydd yr achos busnes wedi'i
ddatblygu. Diolchodd y
cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 91 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cynllun gwaith a chadarnhawyd y byddai Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio'r Ddinas yn cyflwyno eitem ar yr Economi (yn canolbwyntio'n arbennig ar
y rhanbarth a manteision gweithio mewn partneriaeth) ar 11 Ionawr 2018. Cyfeiriodd y
Swyddog Gwasanaethau Democrataidd at y cyfarfod a drefnir ar gyfer 2pm ar 8
Chwefror 2018 a nododd fod cyfarfod Arbennig o'r Cabinet wedi'i drefnu (er mwyn
trafod y cyllideb) am 2pm. Oherwydd hynny, roedd yn angenrheidiol bod amser y
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd yn cael ei newid
er mwyn cynnal cyfarfod Arbennig o'r Cabinet. Penderfynwyd: 1.
nodi'r cynllun gwaith; 2.
symud
y cyfarfod a drefnir ar gyfer 8 Chwefror 2018 i 10.00am. |