Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw
fuddiannau. |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2017 fel
cofnod cywir. |
|||||||||||||||||||
Coridor yr Afon - Cyfleoedd a Datblygiad. (Cyflwyniad) Cofnodion: Nododd y Cyfarwyddwr Lleoedd ei fod wedi rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf am y strategaeth ar gyfer coridor yr afon a oedd yn seiliedig ar y ddogfen a gwblhawyd gan Hyder yn 2006 a oedd yn nodi mai'r weledigaeth ar gyfer Coridor Glannau'r Tawe oedd i "ddatblygu ardal drefol fodern, deniadol a bywiog ar lannau’r afon, gan greu lle y mae pobl am fyw, gweithio ac ymweld ag e, wrth gyfalafu ar gyfraniad unigryw afon Tawe i'r Chwyldro Diwydiannol a'i ddathlu”. I gyd-fynd â’r adroddiad a ddarparwyd yn y cyfarfod diwethaf, rhoddwyd cyflwyniad gweledol gan Gail Evans, y Prif Reolwr Adfywio, a oedd yn amlinellu’r gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn, y sefyllfa bresennol a gofynion y dyfodol ar gyfer pob Ardal Strategaeth o ran y canlynol: · Ffordd Ddosbarthu'r Morfa - cynllun wedi'i gwblhau. 1.7 km o hyd a llwybr defnydd a rennir 3 metr o hyd. Cyflwynwyd hwn drwy raglen gyflwyno fesul cam a chysylltu’n agos â’r sector preifat i sicrhau arian cyfatebol. Byddai’r buddion yn gwella mynediad i swyddi a gwasanaethau, yn agor y coridor i ddatblygiadau, yn lleihau tagfeydd a phroblemau ansawdd aer ar yr A4067 Heol Castell-nedd, yr Hafod ac yn gwella cysylltiadau cerdded a beicio. · Gwaith Copr yr Hafod-Morfa amlinellwyd yr hanes, y cyd-destun a’r camau nesaf o ran: o Ailddatblygu'r Tŷ Pŵer drwy benderfyniad ariannu Menter CTL sy’n ddisgwyliedig ym mis Mai 2018, gyda dyddiad cwblhau arfaethedig yn yr hydref 2021 (yn amodol ar gyllid). o Uwchgynllun yr Hafod-Morfa – yn seiliedig ar Uwchgynllun Purcell 2014. Uwchgynllun ar ei newydd wedd yn cael ei ddatblygu i arwain y camau nesaf. · Car Cebl Nenlinell – Mynydd Cilfái i’r Hafod – yn aros am benderfyniad gan y datblygwr o Seland Newydd. · Y Garreg Wen – edrych ar gyfleoedd eraill mewn perthynas â hamdden etc, ar ochr ddwyreiniol Abertawe, · Yr Ardal Gopr– Safle Addis – wedi’i gwblhau a gwersi wedi’u dysgu ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. · Glanfa Pipehouse – wedi’i werthu’n amodol i Grŵp Tai Coastal. Gallai’r safle gynnwys cymysgedd o lety sy’n diwallu anghenon tai’r ardal leol, yn ogystal â detholiad o eiddo i ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen ar gyfer y gymuned leol. Byddai arolygon yn cael eu cynnal yn y misoedd i ddod i archwilio meysydd megis archaeoleg a draenio. Roedd hi wedi gallu cadarnhau y byddai camau’n cael eu cymryd o ran y sylwadau a godwyd gan Aelodau yn y cyfarfod diwethaf ynghylch: · Yr angen i gynnwys llwybrau cerdded/beicio mewn unrhyw gynigion yn y dyfodol. · Ystyried ehangu bywyd gwyllt yr ardaloedd. · Cymeradwyo'r ceir llusg arfaethedig/Ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cylch · Ymgynghoriad â defnyddwyr glan yr afon (e.e. pysgotwyr etc). Amlinellodd hefyd yr ystyriaethau pellach a’r camau nesaf fel a ganlyn: Mynediad ac
Isadeiledd · Llwybr cerdded/beicio glan yr afon - angen cwblhau’r llwybr cerdded a beicio ar lan yr afon ar ochr orllewinol yr afon, a chreu cysylltiadau priodol â blaen yr afon o gymunedau cyfagos. · Glannau dwyreiniol yr afon/Llwybr beicio'r dwyrain - parc treftadaeth a chyfleoedd bywyd gwyllt/bioamrywiaeth. Ystyried cyfleoedd hamdden priodol sy’n gyfyngedig o ran maint ar yr ochr ddwyreiniol. · Darpariaeth parcio a theithio amgen i ryddhau lle a’r potensial ar gyfer datblygiad/gwelliannau o gwmpas cyrchfan Gwaith Copr yr Hafod/Morfa. Hamdden a
Threftadaeth · Mynydd Cilfái - angen ymagwedd gynaliadwy at ddefnyddiau hamdden newydd, gwella mynediad a rheoli ar gyfer yr ardal ehangach. Mae ymgynghoriadau’n mynd rhagddynt â CNC a pherchennog tir preifat. · Cyllid i sicrhau'r dyfodol a defnydd cadarnhaol o adeiladau rhestredig amlwg a nodweddion treftadaeth, ynghyd â’u cynnal (e.e. Ceisiadau CTL am arian cyfatebol) · Anghenion isadeiledd a gwasanaeth ar gyfer datblygiad newydd, a mesurau lliniaru’r perygl o lifogydd · Potensial cyfleoedd hamdden dŵr, cyfleoedd treftadaeth a dehongli nad oes neb wedi manteisio arnynt. Bwriedir cynnal ymgynghoriad pellach a chyfleoedd cyllid ar gyfer adeileddau pontŵn ar yr afon. Datblygiadau a
Gwelliannau Amgylcheddol · Annog defnyddiau tir addas a chymysg. A allai fod unrhyw gyfleoedd datblygu ychwanegol? · Heriau dylunio/cynllun oherwydd ffurfwedd y safleoedd. Unrhyw gyfleoedd datblygu ychwanegol? · Unrhyw ofynion ar gyfer gwelliannau amgylcheddol megis sgrinio drwy blannu saernïol, i wella golygfeydd ac amwynder. Gwnaeth aelodau sylwadau ar yr eitemau isod: · Yr angen am fwy o gyfleoedd cyflogaeth i bobl leol drwy ddatblygiadau masnachol, diwydiant ysgafn a defnydd cymysg yn y cynllun; · Yr angen am groesfan gyswllt arall ar draws yr afon i gerddwyr/feicwyr er mwyn cysylltu St Thomas â chanol y ddinas i osgoi pontydd afon Tawe sy’n ddryslyd a lle ceir tagfeydd yn aml. · Adfer y pontydd gwrthbwys. · Bioamrywiaeth ar yr ochr ddwyreiniol – e.e. parc eco/gwarchodfa natur fach, wedi’i rheoli â chydymdeimlad a’r posibilrwydd o gynnwys arbenigwyr perthnasol mewn astudiaeth o rywogaethau planhigion/bywyd gwyllt presennol. · Mwy o waith ymchwilio i gysylltu â chytundebau A106 er mwyn sicrhau mynediad i lannau’r afon – gweithio gyda pherchnogion tir. · Sicrhau bod llwybrau mynediad, yn enwedig llwybrau troed/beicio yn ddiogel i ddefnyddwyr. · Llwybr mynediad o’r Morfa i faes parcio’r Garreg Wen. · Ymgynghoriad cynhwysol â’r holl ddefnyddwyr, gan gynnwys pysgotwyr, ceidwaid, Wheelrights, defnyddwyr llwybrau ceffyl etc. · Ymholiad ynghylch a ellid rhannu’r safle ailddatblygu tai posib yn lleiniau llai i’w prynu’n breifat e.e. perchnogion tai a allai gael eu mynediad eu hunain i bontŵn ar lan yr afon (y tir gorau). · A fyddai’r datblygiad tai’n cynnwys tai fforddiadwy neu gymysg. · Datblygiad/oriel addysgol i ysgolion astudio ynddynt neu eu defnyddio. · Yr angen i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn osgoi arwahanrwydd o ran mynediad, parcio ac isadeiledd. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd : 1. Nodi'r cyflwyniad; 2. Rhannu copi o'r cyflwyniad ag aelodau'r pwyllgor; 3. Y dylai swyddogion fwrw ymlaen â’r cynlluniau ond os bydd unrhyw anawsterau’n codi yn ystod y broses, dylid rhoi gwybod i’r pwyllgor amdanynt er mwyn eu hystyried ymhellach. |
|||||||||||||||||||
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 94 KB Cofnodion: Awgrymodd y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwr Lleoedd y diwygiadau canlynol i’r cynllun gwaith:
Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith diwygiedig. |