Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd V M
Evans – Personol - Cofnod Rhif: 20 - mae coridor yr afon ar ymyl fy ward. Y Cynghorydd P R
Hood-Williams - Personol - Cofnod Rhif: 20 - coridor yr afon - Cadeirydd Fforwm
Mynediad Lleol Abertawe. Y Cynghorydd T M White – Personol - Cofnod Rhif: 20 - coridor yr afon - mae coridor yr afon ar ymyl fy ward. |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017 fel cofnod cywir yn amodol ar sylwadau'r Cynghorydd P R Hood-Williams ynghylch y posibilrwydd o gynnwys creu ardal gerdded i gerddwyr rhwng Sgwâr y Castell a Stryd y Gwynt yn yr astudiaeth dichonoldeb. |
|||||||||||||||||||
Coridor yr Afon. (trafodaeth) Cofnodion: Nododd y
Cyfarwyddwr Lleoedd fod y strategaeth ar gyfer coridor yr afon yn seiliedig ar
yr hen ddogfen a gwblhawyd gan Hyder yn 2006 a oedd yn nodi mai'r weledigaeth
ar gyfer Coridor Glannau'r Tawe oedd i "ddatblygu ardal drefol fodern,
deniadol a bywiog, gan greu lle y mae pobl am fyw, gweithio ac ymweld ag e,
wrth gyfalafu ar gyfraniad unigryw Tawe i'r Chwyldro Diwydiannol a'i ddathlu. Cyfeiriodd at yr 14 o brif amcanion a chynigion a nodwyd yn yr astudiaeth
wreiddiol o goridor yr afon a oedd yn seiliedig ar nifer o strategaethau
ardaloedd. Manylodd ar y sefyllfa bresennol a gofynion y dyfodol ar gyfer pob ardal
strategaeth fel a nodwyd isod: ·
Ffordd Ddosbarthu'r Morfa - cynllun
priffyrdd wedi'i gwblhau. ·
Ardal Ffordd y Morfa - ardal gymysg
safon uchel o ddefnyddiau preswyl, masnachol a diwydiant ysgafn, sy'n manteisio
i'r eithaf ar y lleoliad ardderchog ar lan yr afon, agosatrwydd yr ardal i
ganol y ddinas a'r glannau ac sydd hefyd yn dathlu ac yn dehongli treftadaeth
yr ardal. Gwaith
gwaredu a cheisiadau/trafodaethau cynllunio yn dal ar waith - gwerthu Glanfa
Pipehouse i Coastal Housing a thrafodaethau cyn cynllunio ar safleoedd eraill. ·
Safle Gwaith Copr yr Hafod - Cynigir
datblygiad defnydd cymysg, integredig ar y safle sy'n diogelu isadeiledd
treftadaeth, yn dehongli hanes diwylliannol ac yn dod o hyd i ddefnydd newydd
ar gyfer adeiladau treftadol, datblygiadau newydd sy'n manteisio i'r eithaf ar
y lleoliad ac yn darparu amgylchedd byw o safon sy'n cryfhau cysylltiadau â'r
gymuned. Dal ati gyda chynllun Penderyn a'r gwaith pellach cynlluniedig gan
gynnwys gwerthu tir DASA. ·
Ystâd Ddiwydiannol Heol Normandy - cadw fel
lleoliad ar gyfer cyflogaeth a diwylliant, wrth ehangu'r safle'n weledol,
lleihau'r effaith weledol ar ddefnyddiau tir cyfagos a buddsoddi mewn
gwelliannau i eiddo. ·
Safle Addis - wedi'i ailddatblygu/gwblhau. ·
Upper Bank/Llyn Pluck - Annog cymysgedd
amrywiol o ddefnydd tir i adfywio safle Upper Bank, cynllun Upper Bank/Coedwig Brunel
(datblygiadau Highgrove), Llyn Pluck a Choetir Cilfái y mae angen Cynllun
Rheoli arnynt a nodi cyfle datblygu addas yn Llyn Pluck. ·
Glan yr afon - mwyafu
potensial yr afon fel adnodd ar gyfer y ddinas - ar gyfer hamdden a
thrafnidiaeth dŵr, hamdden ar lan yr afon a gwella llwybrau cerdded a
beicio ar hyd y cwm - angen rhagor o waith. Wrth
ystyried Gwaith Copr yr Hafod (HCW) (Astudiaeth Purcell 2014), mae Strategaeth
HCW yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd, ynghyd â pharatoi briffiau safleoedd
unigol ar gyfer y safleoedd ar lan yr afon at ddibenion marchnata. Mae'r ardal astudiaeth yn cynnwys cais HDL a
chynllun Penderyn. Mae'r ardal ddatblygu
yn gofyn am waith lliniaru llifogydd a lliniaru oddi ar y safle (JBA 2017) Roedd Adolygiad Drafft Cynllun Adnau Lleol Abertawe
(2016) yn cynnwys polisïau lefel uchel ar gyfer Coridor Glannau'r Tawe fel
Ardal Datblygu Strategol - sy'n cynnwys cyfeiriad at Waith Copr yr Hafod ac
Iard Orsaf San Thomas. Cysylltiadau
Eastside Abertawe - (Mai 2015) Archwiliodd dogfen Cyfoeth Naturiol Cymru a
baratowyd gan Trilein i botensial afon Tawe Isaf, Mynydd Cilfái, Cors Crymlyn a
Chamlas Tennant a chysylltiadau'r mannau gwyrdd â'i gilydd a'r cymunedau
cyfagos. Nododd yr
aelodau ddiddordeb presennol, mewn perthynas â Skyline/Skyluge, gan ddatblygwr
o Seland Newydd mewn car/gondola cebl, car llusg ac adeiladau masnachol.
Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol ac ymweliad safle lle nodwyd llwybr dangosol
y car cebl o bwynt uchaf mynydd Cilfái i lawr at Waith Copr yr Hafod. Mae'r
cynnig yn cynnwys tirddaliad preifat ar Fynydd Cilfái a thir sy'n berchen i'r
cyngor/tir sy'n cael ei brydlesu gan CNC. Mae'n gofyn am ddatrysiad datblygiad
cynaliadwy yng nghyd-destun ei leoliad gwledig, ac mae angen ystyried blaenoriaethau
datblygu a threftadol safle Gwaith Copr yr Hafod. Manylodd ar
yr ystyriaethau canlynol: ·
Cwblhau llwybr cerdded glan yr afon ac ochrau'r afon/cei
- Perchnogaeth breifat gymysg, graddoli cyllideb - cysondeb dylunio/gorffeniad
mannau cyhoeddus. ·
Cyllideb i sicrhau defnydd cadarnhaol yn y dyfodol a
gwaith cynnal a chadw adeiladau rhestredig a rhinweddau treftadol a llwybrau
glan yr afon/mannau cyhoeddus (e.e. Ceisiadau CTL am arian cyfatebol). ·
Cysylltiadau cymunedol, cysylltiadau cerddwyr a beicwyr
er mwyn croesi'r afon a chynnwys datblygiadau newydd ar lan yr afon. ·
Anghenion isadeiledd a gwasanaeth a mesurau rheoli perygl
llifogydd. ·
Cynlluniau/cysylltiad â mynediad a dyluniad Ffordd
Ddosbarthu'r Morfa newydd. ·
Materion/amodau halogi archaeoleg a thir sy'n effeithio
ar y mwyafrif o safleoedd. ·
SoDdGA dynodedig newydd yn ardal Llyn Pluck. ·
Potensial cyfleoedd hamdden dŵr, cyfleoedd
treftadaeth a dehongli nad oes neb wedi manteisio arnynt. ·
Annog defnyddiau tir addas a chymysg. ·
Heriau dylunio/cynllun oherwydd ffurfwedd y safleoedd. ·
Mynydd Cilfái - angen ymagwedd gynaliadwy at ddefnyddiau
hamdden newydd, gwella mynediad a rheoli ar gyfer yr ardal ehangach. ·
Hen lethr sgïo y tu ôl i Morrisons - difeithdra. Roedd sylwadau'r aelodau'n cynnwys: ·
Yr angen i gynnwys llwybrau cerdded/beicio mewn unrhyw
gynigion yn y dyfodol. ·
Ystyried ehangu bywyd gwyllt yr ardaloedd. ·
Cymeradwyo/ymgynghoriad â Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer
y ceir llusg arfaethedig. ·
Ymgynghoriad â defnyddwyr glan yr afon (e.e. pysgotwyr
etc). Diolchodd y cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am ei
gyflwyniad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd trafod y mater yn y cyfarfod nesaf. |
|||||||||||||||||||
Strategaeth Cludiant y Dyfodol a Thai. (trafodaeth) Cofnodion: Darparodd y Pennaeth Cludiant a oedd wedi'i gynorthwyo gan Swyddog
Strategaeth Trafnidiaeth, George, gyflwyniad am Strategaeth Trafnidiaeth y
dyfodol. Manylodd y Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth; · Cyd-destun - Sut mae'r Strategaeth Trafnidiaeth yn gweithio. · Trefniadau gweithio rhanbarthol. · Ffrydiau ariannu allanol. · Gwariant cyfalaf 2016/17. · Proses y cais am arian. · Heriau - swm y traffig ffyrdd yn Abertawe. · Dinas sy'n tyfu. · Heriau polisïau. · Tensiynau'r polisi trafnidiaeth. · Manteision gwirioneddol. · Dinasoedd gwych 2025. · Cyfleoedd allweddol a'r camau nesaf. · Datblygu'r defnydd o gludiant ac isadeiledd yn Abertawe. · Parcio a'r strategaeth trafnidiaeth integredig. · Trefniadau siopa rhanbarthol. · Prif gynllun strategaeth canol y ddinas. Heriau/ystyriaethau sydd wedi'u cynnwys: diffyg arian; dyletswydd i
ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; blaenoriaethu cynlluniau yn
unol ag amcanion corfforaethol y cyngor; tagfeydd (yn enwedig yn yr ardaloedd
critigol megis Ffordd Fabian); datblygu a hyrwyddo'r defnydd o feiciau yng
nghanol y ddinas drwy gyflwyno gorsafoedd beidio ar gyfer llogi beiciau a
gwaith parhaus gyda First Cymru. Er ei bod hi'n bwysig ystyried y dyfodol, mae angen dod o hyd i atebion
tymor byr a chanolig. Mae'r tîm adfywio yn comisiynu astudiaeth ar hyn o bryd
sy'n edrych ar brif gynlluniau canol y ddinas ac anghenion parcio. Bydd hwn ar
gael yn y misoedd nesaf. Bydd hyn yn cael ei adrodd yn ol i'r tîm craffu
unwaith y bydd yn cael ei gwblhau. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd y dylid: 1.
Nodi'r cyflwyniad. 2.
Rhannu copi o'r cyflwyniad
ag aelodau'r pwyllgor. 3.
Cynnwys canlyniadau'r
astudiaeth dichonoldeb yn y cynllun gwaith. |
|||||||||||||||||||
Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. (Diweddariad ar lafar) Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r mater tan y cyfarfod nesaf. |
|||||||||||||||||||
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. Cofnodion: Awgrymodd y Cadeirydd
a'r Cyfarwyddwr Lleoedd y pynciau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol:
Penderfynwyd cynnwys y pynciau a nodwyd uchod yng Nghynllun Gwaith 2017/2018. |