Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw gysylltiad personol â Chofnod 37 a 40 "Adfywio ac Adeiladau Gwag y Stryd Fawr".

 

36.

Cofnodion: pdf eicon PDF 215 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2022 fel cofnod cywir.

 

37.

Adfywio ac Adeiladau Gwag y Stryd Fawr. pdf eicon PDF 332 KB

Cofnodion:

Darparodd y Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd i adfywio'r Stryd Fawr a mynd i'r afael ag eiddo gwag.

 

Nododd yr Aelodau gamau gweithredu'r cynllun adfer sy'n cael eu datblygu a'u cyflawni ar hyn o bryd:

 

·         Arian grant a ddyrennir i fusnesau lleol drwy'r Grant i Addasu Mangre ar gyfer yr Awyr Agored, i gefnogi busnesau lleol i addasu i ofynion cadw pellter cymdeithasol – wedi cwblhau y rhan fwyaf o’r gwaith.

·         Parhau i roi cymorth ariannol COVID-19 Llywodraeth Cymru i fusnesau lleol drwy gynlluniau fel cymorth ardrethi annomestig uniongyrchol a grantiau dewisol

·         Cwblhawyd y broses o recriwtio swyddogion datblygu busnes newydd ym mis Mawrth 2021 gan weithio o dan faner Busnes Abertawe a darparu ystod o gymorth busnes sydd wedi cynnwys grantiau cychwyn busnes, seminarau ar-lein yn seiliedig ar thema a chynyddu ymgysylltiad â busnesau ledled Abertawe

·         Cyflwynwyd menter Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Abertawe ar draws y sir, wedi'i hamseru i gyd-fynd â llacio'r cyfyngiadau ar wahanol gamau dros y 12 mis diwethaf

·      Ystod eang o ddarpariaeth cyflogadwyedd gan gynnwys lleoliadau â chynllun Kickstart

·         44 o fwrsariaethau cychwyn busnes wedi'u cyflwyno hyd yma

 

Mae cynigion Canolfan Gymunedol Dyfaty a amlinellwyd ym mis Chwefror 2021 ynghylch yr unedau siopau gwag yn datblygu’n dda ac yn darparu cyfle gwych i leoli a phrofi'r dulliau hyn gan weithio'n agos gyda'r holl wasanaethau cymorth perthnasol, ac yn rhoi cyfle gwirioneddol i weithredu fel galluogwyr i roi’r offer y mae eu hangen ar bobl leol i gryfhau'r gymuned a chreu cyfleoedd cadarnhaol i ficro-fusnesau. Roedd pedair o'r chwe uned bellach wedi'u hadnewyddu ac mae'r cyfleustodau wedi'u hysgogi. Gwnaed gwaith ymgysylltu cychwynnol â'r gymuned, a byddai cymorth yn cael ei ddarparu i wahanol grwpiau ac unigolion i roi cynnig ar eu syniadau, a oedd yn cynnwys busnesau bach newydd, gweithgareddau cymorth a gwasanaethau. Roedd gweithgarwch ymgysylltu wedi bod yn gadarnhaol iawn.  Yn ogystal, roedd hen dafarn y Lamb yn gweithredu fel swyddfa safle gwaith Theatr y Palace, ac roedd hyn ynddo'i hun yn dod ag ymwelwyr i'r lleoliad ac yn golygu bod yr adeilad presennol yn cael ei ddefnyddio dros dro, sy'n ategu'r gweithgareddau a fydd yn dechrau yn unedau'r siop yn fuan.

 

Rhoddwyd y cynllun gweithredu gorfodi ar waith ac roedd gwaith yn dechrau ar gynlluniau cychwynnol.

 

Yr hyn a oedd yn allweddol oedd integreiddio'r gweithgareddau hyn – nid oes gan unrhyw un sector na maes gwaith yr holl atebion, ond mae'r cyfle i greu amgylchedd cadarnhaol a chost-effeithiol i alluogi pobl i wireddu eu dyfodol eu hunain yn wirionedd, gyda phecyn cyfannol o gymorth ar gael ar yr adeg gywir.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd Swyddogion fod strategaethau marchnata amrywiol yn mynd rhagddynt, a oedd yn cynnwys argaeledd grantiau a chymorth ardrethi busnes. Roedd tîm amlddisgyblaethol, a oedd yn cynnwys sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a grwpiau cymunedol hefyd yn rhan o waith adfywio'r Stryd Fawr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol a'u gwaith parhaus.

 

38.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 108 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd gynllun gwaith 2021-2022.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith.

 

39.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

40.

Adfywio ac Adeiladau Gwag y Stryd Fawr.

Cofnodion:

Darparodd y Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd i adfywio'r Stryd Fawr a mynd i'r afael ag eiddo gwag.

 

Diolchodd y Cadeirydd iddo am ei adroddiad addysgiadol a'i waith parhaus.