Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636123 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 222 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo Cofnodion Pwyllgor Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020, fel cofnod cywir.

 

11.

Ymateb i'r Ymgynghoriad gan y Strategaeth Toiledau Lleol. pdf eicon PDF 206 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Lleoedd yr ymateb i'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r Strategaeth Toiledau Leol.

 

Nododd yr Aelodau y cefndir, yr ymgynghoriad cyhoeddus, datblygiadau diweddar a rhai sydd ar y gweill a'r camau nesaf.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth at ddatblygu pen uchaf y Stryd Fawr.  Byddai'r datblygiad yn cynnwys llety myfyrwyr a byddai'n creu cyfleoedd i fusnesau lleol.  Nodwyd bod Trafnidiaeth Cymru yn ystyried gosod cyfleusterau cyhoeddus o flaen yr orsaf drenau.

 

Manylodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Gwella Gwasanaethau ar y canlyniadau llwyddiannus a gafwyd o ganlyniad i waith a wnaed gan y cyngor a sefydliadau'r Trydydd Sector i gael effeithiau cadarnhaol mewn perthynas â nifer yr unigolion digartref yng Nghanol y Ddinas.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd at ymdrechion y cyngor i ennill y Prosiect DIY SOS llwyddiannus ym Mae Caswell a oedd wedi gwella enw da'r cyngor ac Abertawe yn ei chyfanrwydd.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Swyddogion am eu mewnbwn o ran adfywio, digartrefedd a Phrosiect DIY SOS. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am ei adroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

 

12.

Cynllun Gweithredu Adfer Economaidd. pdf eicon PDF 386 KB

Cofnodion:

Darparodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas grynodeb cynhwysfawr o'r Cynllun Gweithredu Adfer Economaidd gyda chymorth y Rheolwr Datblygu Economaidd ac Ariannu Allanol.

 

Nododd yr Aelodau'r materion allweddol yn y Cynllun Gweithredu a'r gwaith cadarnhaol a wnaed i sicrhau ffrydiau grant a darparu ystod amgen o gymorth i gefnogi unigolion a busnesau. 

 

Canmolodd Aelodau'r Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Swyddogion am gydweithio a sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn ystod pandemig COVID-19.

 

Mynegodd y Cadeirydd a'r Aelodau eu diolch i'r Swyddogion am eu hymdrechion a'u llwyddiannau.

 

Penderfynwyd y byddai agweddau ar y Cynllun Gweithredu yn eitem barhaus i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

13.

Cynllun Gwaith 2020/2021. pdf eicon PDF 380 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Cynllun Gwaith amlinellol ar gyfer 2020 - 2022.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai Cylch Gorchwyl Pwyllgor Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd yn cael ei ddiwygio yn ystod cyfarfod y cyngor ym mis Rhagfyr i gwmpasu materion amgylcheddol.  Awgrymwyd y dylid pennu eitemau'r Cynllun Gwaith mewn perthynas ag amserlenni ar ôl i'r diwygiad gael ei wneud. 

 

Trafododd yr Aelodau'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Toiledau a phenderfynwyd nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau pellach i'w gwneud, ac roeddent yn ddiolchgar i’r Swyddogion am eu hadroddiad cynhwysfawr.

 

Byddai angen i'r Pwyllgor Datblygu Polisi ystyried y Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd o bryd i'w gilydd wrth i'r sefyllfa ddatblygu. 

 

Penderfynwyd:

 

1.    caiff y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd ei hystyried yn y cyfarfod ar 17 Rhagfyr 2020.

2.    Bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn cyfarfod â'r Cyfarwyddwr Lleoedd ynghylch y cynllun gwaith amlinellol ar gyfer 2020-2022 ac yn pennu amserlen ar gyfer ystyried eitemau.