Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu
Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 17 Medi 2020 ac 1 Hydref 2020
fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd
Arweinydd y Tîm, Strategaeth Trafnidiaeth a Monitro, grynodeb ar ddatblygu a
chyflwyno'r Rhaglen Teithio Llesol. Nododd yr Aelodau
Fframwaith y Polisi, Rhwystrau a Thueddiadau, y Rhaglen Teithio Llesol,
Prosiectau, Ymgyrch Hyrwyddo Llwybrau'r Bae, y Blaenraglen
a Manteision Cymunedol. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am eu hadroddiad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd nodi'r adroddiad a dylai'r pwyllgor
archwilio canlyniadau'r ymarfer ymgynghori a fyddai'n cael ei gynnal yng
ngwanwyn 2021. |
|||||||||||||||||||||
Amnest ar Wastraff. (Llafar). Cofnodion: Cyfeiriodd y
Pennaeth Rheoli Gwastraff at y mentrau blaenorol a gynhaliwyd gan yr awdurdod
lleol drwy osod sgipiau (gyda gweithredwyr) mewn
cymunedau. Fodd bynnag, cynhaliwyd y
fenter hon cyn y sensitifrwydd presennol o ran rheoli gwastraff a'r gwahanol
fentrau i alluogi preswylwyr i reoli ac ailgylchu eu gwastraff cartref eu
hunain yn effeithiol. Nodwyd y byddai
darparu sgipiau gyda gweithredwyr mewn cymunedau yn
llafurddwys iawn ac y gall achosi ddrwgdeimlad o ystyried y canolfannau
ailgylchu da sydd ar waith. Hefyd, byddai'n gwrth-ddweud y strategaeth
ailgylchu bresennol. Fodd bynnag, gellid
cynyddu ymwybyddiaeth o dipio anghyfreithlon ac ailgylchu drwy ymarferion
hyrwyddo arferol Rheoli Gwastraff. Gofynnodd yr aelodau
gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Byddai sylwadau
ynghylch y weithdrefn ar gyfer casglu gwastraff swmpus yn cael eu trosglwyddo
i'r Aelod Cabinet perthnasol. Fodd
bynnag, nododd yr aelodau fod y weithdrefn bresennol wedi'i chymeradwyo'n
flaenorol gan y Cabinet. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am ei gyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1.
nodi'r diweddariad. 2.
Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn trafod y sylwadau a godwyd
â’r Aelod Cabinet perthnasol. |
|||||||||||||||||||||
Cynllun Gwaith 2020/2021. PDF 202 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021. Gofynnodd y Cadeirydd
i bob adroddiad yn y dyfodol fod ar ffurf ysgrifenedig, yn hytrach na
diweddariadau llafar. Penderfynwyd y dylai'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2020/21
gynnwys y canlynol:
|