Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

36.

Cofnodion. pdf eicon PDF 223 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

 

37.

Amnest ar wastraff (diweddariad).

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y bu peth dryswch ynghylch yr wybodaeth yr oedd Aelodau'n ei cheisio.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at fenter a gynhaliwyd ychydig flynyddoedd yn ôl a oedd yn caniatáu i breswylwyr lleol waredu eitemau gwastraff yn gywir ac yn gyfleus yn eu wardiau. Roedd y fenter yn llwyddiannus wrth leihau'r achosion o dipio anghyfreithlon a chafwyd adborth cadarnhaol gan breswylwyr lleol. Yn ogystal, roedd cyfleuster a oedd yn caniatáu i breswylwyr gael gwybodaeth am ailgylchu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai darparu adnoddau ar gyfer gwastraff cymysg yn her, yn enwedig gan nad oedd dyraniad cyllidebol ar hyn o bryd ar gyfer y math hwn o fenter. 

 

Nododd yr aelodau'r ffigurau ailgylchu cyfredol, problemau gyda gwastraff masnachol, cymariaethau ag awdurdodau lleol cyfagos mewn perthynas ag erlyniadau a gosod camerâu cudd mewn lleoliadau tipio anghyfreithlon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd nad oedd rhai materion a godwyd gan yr aelodau yng cylch gorchwyl y Pwyllgor Datblygu Polisi. Fodd bynnag, byddai swyddogion yn llunio adroddiad am gyflwyno cynllun peilot yng nghyd-destun strategaeth ailgylchu'r cyngor. 

 

Nodwyd ymhellach gan yr Aelodau y gallai mentrau o'r math hyn (ar yr amod nad oeddent yn mynd yn groes i bolisi cyfredol y cyngor) gael eu hariannu o fewn cyllidebau cymunedol pe baent yn dymuno gwneud hynny.

 

Penderfynwyd cyflwyno adroddiad i'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 16 Ebrill, 2020.

 

38.

Cynllun Gwaith 2019/2020. pdf eicon PDF 213 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cynllun gwaith. 

 

Penderfynwyd y dylai'r cynllun gwaith ar gyfer 2019/2020 gynnwys y canlynol:

 

19 Mawrth 2020

1)    Adroddiad Blynyddol 2019/2020.

16 Ebrill 2020

 

1)    Amnest ar Wastraff (Diweddariad).

2)    Goblygiadau Teithio Llesol yn Abertawe.

3)    Strategaeth Toiledau Leol