Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd a
gynhaliwyd ar 19 Medi 2019 fel cofnod cywir yn amodol ar gynnwys ymddiheuriadau'r
Cynghorydd P Downing. |
|||||||||||||||
Economi Abertawe (Twristiaeth). Cofnodion: Rhoddodd y
Rheolwr Twristiaeth a Marchnata ynghyd ag Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi,
Adfywio a Thwristiaeth, Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol a'r Rheolwr
Strategol ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau gyflwyniad ar
effeithiau cadarnhaol y diwydiant twristiaeth ar economi Abertawe. Roedd y
cyflwyniad yn cynnwys y canlynol: ·
Ffigurau
STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor) (2018) a oedd yn dangos
bod twristiaeth yn werth £447.7m i'r economi leol. ·
Cafwyd
4.78m o ymwelwyr yn 2018. ·
Mathau
o hysbysebu (Bwrdd Padlo ar eich Traed). ·
Dulliau
hysbysebu (Twitter/Youtube/canolfannau cludiant/canolfannau siopa) ·
Gwerth
cysylltiadau cyhoeddus a chroesawu newyddiadurwyr (blogwyr a flogwyr). ·
Cynllun
Rheoli Cyrchfannau ar gyfer Bae Abertawe 2017-2020. ·
Cymorth
busnes i gyfleoedd twristiaeth. ·
Nifer
y rhai sy'n mynd i'r wefan. ·
Buddsoddi
yn y wefan a'i datblygu. Manylodd y
Rheolwr Strategol - Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau ar y ddau frand a
ddefnyddir i hyrwyddo Abertawe; Joio Bae Abertawe a Chroeso Bae Abertawe. Mewn ymateb i
gwestiynau gan Aelodau, dywedodd swyddogion y canlynol: ·
Er
nad oes cyswllt uniongyrchol â chwmnïau teithio, cânt eu targedu ar gyfer y digwyddiadau
mawr megis y Sioe Awyr a Gorymdaith y Nadolig. ·
Mae
gwestai yn Abertawe yn cynnig pecynnau pan gynhelir digwyddiadau mawr yn y
ddinas. ·
Mae
cadw ymwelwyr yn ardal Abertawe yn her. ·
Gwnaed
ymdrechion yn flaenorol i weithio gyda phartneriaid cludiant. ·
Mae
swyddogion yn gweithio'n agos gyda Swyddogion Trwyddedu Tacsis cyn digwyddiadau
mawr (cyngherddau etc). ·
Er ei
bod hi'n bwysig bod adrannau'r cyngor yn gweithio gyda'i gilydd wrth lunio
polisïau a allai effeithio ar feysydd gwasanaeth eraill, pan fo cyllidebau'n
gyfyngedig, daw hyn yn dipyn o her. Cyfeiriwyd at
adroddiad y Panel Ymchwiliad Craffu a oedd yn archwilio ymagwedd y cyngor at
hyrwyddo twristiaeth. Nodwyd y byddai ymateb Aelod y Cabinet yn cael ei
gyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet ar 21 Tachwedd, 2019. Dywedodd y
Rheolwr Strategol - Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau y cynhelir arolwg
ymwelwyr bob 3 i 4 blynedd. Dadansoddir yr wybodaeth hon i bennu a oes
tueddiadau o ran canfyddiadau pobl (e.e. ymwelwyr yn cwyno am faterion penodol
a hynny’n digwydd dro ar ôl tro). Bob blwyddyn mae 37% i 40% o ymwelwyr yn
ymweld eto â'r ddinas. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd y Rheolwr Twristiaeth a Marchnata yn dosbarthu manylion yr holl gysylltiadau/ddolenni
sy'n ymwneud â hyrwyddo Abertawe. 2)
Cynnwys
ymateb Aelod y Cabinet i'r ymchwiliad craffu i hyrwyddo twristiaeth yn Abertawe
yn y cynllun gwaith i'w drafod yn y cyfarfod a gynhelir ar 14 Tachwedd 2019. |
|||||||||||||||
Gwelliannau Teithio Llesol. PDF 11 MB Cofnodion: Rhoddodd y
Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth gyflwyniad ar y Strategaeth Teithio Llesol. Roedd y
cyflwyniad yn cynnwys: ·
Nifer
yr aelwydydd heb fynediad at gar neu fan. ·
Cyfran
y bobl 20 i 29 oed heb drwydded yrru. ·
Y
cynnydd mewn traffig ers 2013 (+7.5). ·
Mynediad
aelwydydd at geir yn ôl ACEHI. ·
Sut
mae pobl yn teithio i'r gwaith. ·
Rhwystrau
i deithio llesol. ·
Deddf
Teithio Llesol (Cymru). ·
Fframwaith
y Polisi. ·
Map
llwybrau presennol 2017 ·
Dyfyniadau
gan yr Ymgynghorydd Trafnidiaeth Gweinidogol a Dirprwy Ysgrifennydd y Cabinet
dros Isadeiledd. ·
Cronfeydd
Cyfalaf Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. ·
Twf y
Rhwydwaith 2016-2020. ·
Cyswllt
Townhill - prosiect heriol. ·
Cyswllt
Townhill - trawstoriad. ·
Pwysau
cystadleuol. ·
Beiciau
Santander - cyfanswm y beiciau a logwyd yn ôl yr orsaf y'u benthycwyd ohonynt. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog
Strategaeth Trafnidiaeth am ei gyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||||||||||||
Cynllun Gwaith 2019/2020. PDF 210 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cynllun gwaith. Penderfynwyd y dylai'r cynllun gwaith ar gyfer 2019/2020
gynnwys y canlynol:
|