Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

51.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

52.

Cofnodion: pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod (au) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

 

53.

Diweddariad ar y Drafodaeth Metro Ranbarthol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth yr wybodaeth ddiweddaraf am Metro De-orllewin Cymru.

 

Nododd yr aelodau;

 

·       Y Cyd-destun.

·       Cyfartaledd cyflymder y rheilffordd.

·       Lleihau cyflymder y rheilffordd.

·       Nifer y bobl sy’n teithio ar drenau.

·       Ffocws y Cam Cyntaf.

·       Dyfyniad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi ac Isadeiledd.

·       Parcffordd De-orllewin Cymru.

·       Sut gwnaethom gyrraedd yma?

·       Cyd-destun y Rhwydwaith.

·       Dolen Llansamlet.

·       Parcffordd Gorllewin Cymru.

·       Negeseuon allweddol.

·       Metro De-orllewin Cymru.

 

Nododd yr aelodau ymhellach fod cynnig wedi'i gyflwyno i barhau â gwaith y Metro yn 2019-2020 gyda chyfranogaeth gwasanaethau bws.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei gyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd cynnwys Metro De-Orllewin Cymru yn y cynllun gwaith.

 

54.

Cynllun Gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith diwygiedig ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith diweddaredig ar gyfer 2018-2019;

 

21/03/19

1.      Goblygiadau cadarnhaol/negyddol Brexit (Arweinydd i fynd i'r cyfarfod a rhoi barn).

18/04/19

1.      Adroddiad Diwedd Blwyddyn Drafft

2.      Dug Beaufort/Coridor yr afon (Aelod perthnasol o'r Cabinet i fynd i'r cyfarfod a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w hystyried yn ystod blwyddyn ddinesig 2019-2020.

Ymweliadau Safle/

Gweithdai

1.      Ymweliad safle Gwaith Copr yr Hafod (22/08/18).

2.      Gweithdy Glannau Afon Tawe; (22/10/18).

3.      Ymweliad safle - Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

4.      Strategaeth Coridor Afon Tawe - Y Diweddaraf am Gynnydd.

5.      Metro De-orllewin Cymru.