Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd V M Evans – Personol - Cofnod Rhif 43 - Strategaeth Trafnidiaeth - wedi'i gyflogi am dâl gan GWR fel a grybwyllwyd yng Nghofnod Rhif. 43.

41.

Cofnodion: pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod (au) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

 

42.

Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Canol y Ddinas Astudiaeth Dichonoldeb ddrafft Stryd y Gwynt.

 

Nododd yr aelodau fod yr adroddiad wedi'i gomisiynu ar y cyd rhwng y cyngor a'r Rhanbarth Gwella Busnes.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys 36 o dudalennau, gan gynnwys y cynllun busnes a'r wybodaeth dechnegol.

 

Nodwyd nad yw'r rhagair wedi'i amlinellu eto. Fodd bynnag, rhagwelir y byddai'r Arweinydd/Aelod y Cabinet a Chadeirydd y Rhanbarth Gwella Busnes yn darparu mewnbwn. 

 

Rhoddodd Rheolwr Canol y Ddinas grynodeb cynhwysfawr o'r ddogfen, y weledigaeth 8 pwynt a gynigiwyd a'r costau sy'n gysylltiedig â'r cynigion Efydd, Arian ac Aur.

 

Roedd materion allweddol a gododd o'r trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

·       Cafwyd 80-90% o gefnogaeth ar gyfer y cynigion a gyflwynwyd.

·       Cyfanswm cost cyflwyno'r cynllun llawn yw £2.3m. 

·       Byddai'r cynllun yn cael ei gyflwyno mewn camau dros gyfnod estynedig.

·       Roedd amlygu'r buddion posib yn allweddol i ddatblygu'r cynllun.  

 

Manylodd Rheolwr Canol y Ddinas yr amserlenni mewn perthynas â phenderfyniad y Cabinet a cheisiwyd sylwadau gan aelodau'r Cabinet.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Canol y Ddinas am ei chyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd cylchredeg Astudiaeth Dichonoldeb ddrafft Stryd y Gwynt i aelodau'r Cabinet, yn gofyn am gyflwyno unrhyw sylwadau i Reolwr Canol y Ddinas erbyn dydd Gwener 4 Ionawr 2019 fan bellaf.

 

43.

Strategaeth Cludiant.

Cofnodion:

 Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at ddiweddariad swyddog blaenorol mewn perthynas â'r ymagwedd ranbarthol at drafnidiaeth a sut mae hyn yn cysylltu â'r cynllun trafnidiaeth lleol.

 

Bu llwyddiant wrth sicrhau grant gwerth £700,000 i gynnal astudiaeth dichonoldeb a chanfod sut olwg fyddai ar strategaeth trafnidiaeth rhanbarthol.  Mae Llywodraeth Cymru wedi creu cwmni 'Trafnidiaeth Cymru' sydd â rôl oruchwyliol ar gyfer isadeiledd cludiant yng Nghymru. 

 

Nododd yr aelodau'r adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Mark Barry mewn perthynas ag amseroedd teithio a gwelliannau i'r isadeiledd rheilffyrdd.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at y Papur Gwyn a baratowyd gan Lywodraeth Cymru sy'n archwilio taliadau consesiynol ac integreiddio â'r rhwydwaith trenau yn rhanbarthol.  

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a ymatebodd yn briodol iddynt.

 

Penderfynwyd y bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn penodi unigolyn a fydd yn darparu mwy o wybodaeth i'r pwyllgor. 

44.

Polisi Seilwaith Gwyrdd.

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Lleoedd drosolwg o'r adolygiad Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd.  Nodwyd y byddai'r adolygiad yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill.

 

Awgrymodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y dylid cynnal gweithdy lle gallai aelodau'r pwyllgor gyfrannu at ddatblygiad y strategaeth honno.

 

Penderfynwyd y byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn ymgysylltu â'r Cadeirydd ynglŷn â'r dyddiadau ar gyfer y gweithdy â siaradwr addas.

 

45.

Y diweddaraf am fargen y ddinas.

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod digwyddiad cynnwys busnesau mewn perthynas â'r strategaeth trafnidiaeth wedi'i gynnal ar 6 Rhagfyr 2018 a oedd wedi cynnwys busnesau, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector. Mae'r gwaith yn parhau gyda Llywodraeth Cymru a bydd cyfarfod pellach yn cael ei  mewn perthynas â phroblemau prosiect Abertawe a bydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnull er mwyn egluro rhai o'r problemau.

 

Nodwyd y byddai angen i'r broses gyflymu fel ei bod yn cael ei chwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2019, gyda'r nod y byddai arian y Fargen Ddinesig yn dilyn erbyn diwedd mis Mawrth.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

46.

Cynllun Gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019;

 

 

17/01/19

1.     Adborth ar goridor yr afon.

 

21/02/19

1.     Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd - Gweithdy.

2.     Parcio yn y ddinas.

3.     Ymweliadau safle â Chartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.