Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. 

 

25.

Cofnodion: pdf eicon PDF 115 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 16 Awst 2018 fel cofnod cywir.

 

26.

Fflyd Werdd. pdf eicon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Cerbydlu'r Polisi Cerbydlu Gwyrdd a rhoddodd drosolwg o'r cefndir, y datganiad polisi a chwmpas, strategaethau cerbydlu gwyrdd, defnyddio cerbydau a thargedau'r cerbydlu gwyrdd, monitro a llywodraethu.

 

Ailadroddodd y Cyfarwyddwr Lleoedd yr ystyrir y 'cerbydlu llwyd' fel adendwm i'r polisi hwn yn hwyrach.

 

Trafododd yr aelodau gostau lorïau sbwriel trydan; treialu ail-lenwi hydrogen ym Mhrifysgol Abertawe a rhannu arfer gorau'r cyngor gydag awdurdodau lleol eraill.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Lleoedd y gofynnir am farn yr aelodau mewn perthynas â manylebau a dewis o gerbydau a nodwyd ym mharagraff 3.4. Cadarnhaodd bod y broses yn cynnwys y broses dendro ac ymrwymiad y cyngor i dreialu cyn caffael.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Cerbydlu at y 'gyfundrefn llogi achlysurol' a allai fod yn gostus, gan ddibynnu ar bwysau'r cerbyd. Cadarnhaodd fod y cyngor yn aelod o 'Fframwaith Prydlesu Cerbydau Cymru Gyfan' ac felly'n elwa o gael costau prydlesu is.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni i'r swyddogion am eu hymrwymiad i'r Strategaeth Cerbydlu Gwyrdd.

 

Penderfynwyd:

 

1.     cytuno ar feini prawf y Cerbydlu Gwyrdd a restrir ym mhwynt 3.5 yr adroddiad,

2.     diwygio'r adroddiad er mwyn cynnwys y rhaglen waith a'r targedau dros y 12 mis nesaf a'i gyflwyno i'r pwyllgor ym mis Hydref cyn ei gyflwyno i'r Cabinet; a

3.     bydd Rheolwr y Cerbydlu'n dosbarthu dogfen dyfarnu contractau safonol i'r aelodau er gwybodaeth.

 

27.

Adborth o ymweliad safle â choridor afon ar 20/08/18.

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd ei fod wedi dysgu llawer yn ystod yr ymweliad a nododd y materion allweddol canlynol:

 

·       Roedd gan y staff ar y ddwy daith afon wybodaeth hanesyddol ardderchog.

·       Mae angen sicrhau bod yr ardal yn cael ei chydnabod fel coridor bywyd gwyllt a bod ganddi rinweddau ecolegol allweddol. 

·       Mae cyfleoedd ar gael i berchnogion tir ac asiantaethau preifat, ac mae ganddynt ddiddordeb ynddi ac maent yn hapus i ymrwymo iddi.

·       Mae angen sicrhau nad yw ochr ddwyreiniol yr afon yn cael ei hanwybydddu. 

·       Mae cyfleoedd ar gael i storfeydd yr amgueddfa.

 

Trafododd y Cyfarwyddwr Lleoedd y grantiau posib a allai fod ar gael sy'n gyfle i adfer ac agor canolfan ymwelwyr addysgol. Nododd y byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â pholisïau cadw a chylchdroi yn storfeydd yr amgueddfa.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1.     Bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn anfon neges i hysbysu am Weithdy Coridor yr Afon a drefnir ar gyfer dydd Llun, 22 Hydref 2018 rhwng 12.30pm a 2.30pm yn Ystafell Bwyllgor 1, Canolfan Ddinesig

2.     Bydd aelodau'n ystyried materion penodol i'w trafod yn y gweithdy.

3.     Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn trafod hygyrchedd a pholisïau cadw a chylchdroi yn storfeydd yr amgueddfa gyda Phennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol.

 

28.

Cynllun Gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno ar y diwygiadau i gynllun gwaith 2018 – 2019 fel a ganlyn:

 

18/10/18

1.     Cerbydlu Gwyrdd.

2.     Tai Cydweithredol (bydd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo yn bresennol).

3.     Troi Stryd y Gwynt yn Ardal i Gerddwyr - Adborth o'r Ymgynghoriad ar 14/09/18. (bydd Rheolwr Canol y Ddinas yn bresennol)

15/11/18

1.     Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (bydd Aelod y Cabinet dros Dai ac Ynni yn bresennol).

2.     Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd.

13/12/18

1.     Strategaeth Trafnidiaeth.