Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw gysylltiadau.

20.

Cofnodion: pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir.

21.

Fflyd Werdd.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at y diweddaraf a roddwyd i aelodau ym mis Mehefin 2018 a manylodd ar brif faterion y polisi drafft a oedd yn cynnwys:

 

·       Penderfynu ar yr hierarchaeth gerbydau (datblygu meini prawf/matrics e.e. cerbydau â'r allyriadau isaf wedi'u cydbwyso yn erbyn costau ac ymarferoldeb).  Sicrhau bod y polisi yn 'fyw' er mwyn cynnwys datblygiadau technolegol newidiol. 

·       Creu gwaelodlin ar gyfer y cerbydlu a oedd yn cynnwys niferoedd ac yn hepgor y cerbydlu cyfan gyda'r nod o'i leihau 10-20%.

·       Mabwysiadu ymagwedd gorfforaethol at brynu holl gerbydau'r cyngor, gyda rheolwr y cerbydlu'n unig yn gyfrifol am gaffael y rhain.

·       Cyflwyno trefniadau monitro i sicrhau y gall aelodau ddal swyddogion i gyfrif.

·       Penderfynu ar gynnwys cerbydlu 'llwyd' (cerbydau wedi'u prydlesu) a'r effaith ar gaffael cost-effeithiol.

·       Efallai bydd angen addasu amodau a thelerau gweithwyr er mwyn annog newid mewn ymddygiad drwy dalu cyfradd treuliau llogi i weithwyr sy'n defnyddio cerbydau trydan yn hytrach na rhai diesel.

·       Byddai angen i ystyriaethau ariannol fod o fewn cyllidebau sydd ar gael oni bai fod y Cabinet/cyngor yn penderfynu fel arall.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at yr amrywiol brofion sy'n bodoli yng Nghymru, a lwyddodd i gael arian grant. Nododd aelodau fod Swyddogion Arloesedd Llywodraeth Cymru wedi clustnodii £2m er mwyn newid cerbydau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y Cyfarwyddwr Lleoedd,

 

·       Roedd gwaith yn cael ei wneud i ehangu argaeledd pwyntiau gwefru i aelodau'r cyhoedd drwy'r defnydd o fannau parcio dynodedig.

·       Roedd posibilrwydd o osod paneli solar ar eiddo'r cyngor, fodd bynnag, erys heriau o ran storio batris. Dan fenter 'Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer' y cyngor, roedd opsiynau'n cael eu hystyried. Rhagwelwyd y byddai cost paneli solar yn lleihau dros amser fel y byddai eu gosod ar eiddo'r cyngor yn opsiwn ymarferol.

·       Yr amser ailwefru presennol ar gyfer cerbydau trydan yw 4 awr, a'r nod yw lleihau hyn i 20 munud.

·       Y dyhead trosgynnol fyddai sicrhau bod y polisi'n hyblyg er mwyn caniatáu datblygiadau technolegol.

·       Mae 'Polisi o'r Cartref i'r Gwaith' cadarn ar gyfer cerbydau'r cyngor a ddefnyddir gan weithwyr.

·       Heb fychanu pwysigrwydd y Polisi Aer Glân a'r angen am gynnwys hwn yn y Polisi Cerbydlu Gwyrdd, mae yna broblem amseru. Mae'r Polisi Aer Glân yn cysylltu â'r Polisi Trafnidiaeth a bydd yn cymryd mwy o amser i'w ddatblygu.  Rhagwelir y gellir datblygu'r Polisi Cerbydlu Gwyrdd erbyn diwedd 2018.

·       Cafwyd tua 240 o gerbydau newydd yn lle'r hen rai yn y 9 mis diwethaf. Bydd APSE (Cymdeithas Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus) yn cynnal adolygiad fel rhan o broses gomisiynu ar gerbydlu'r cyngor. Y nod fyddai lleihau'r tymor contract ar gyfer cerbydau a brydlesir i dymor o 2 i 3 blynedd a fyddai'n gost-effeithiol i'r cyngor. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai'n cymryd 4 i 5 mlynedd er mwyn i'r cerbydlu weithio drwy'r system. Felly, y ffordd orau ymlaen fyddai ymagwedd gyfnodol.

·       Gosodir teclynnau olrhain ar y rhan fwyaf o gerbydau ac mae system adolygu gadarn yn weithredol.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

·       Ystyried y Polisi Cerbydlu gwyrdd drafft mewn cyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer mis Medi a mis Hydref.

·       Y bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn e-bostio aelodau i roi'r diweddaraf iddynt a manylion niferoedd y ceir gwyrdd cyn y cyfarfod.

22.

Strategaeth Cludiant.

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod y cyngor yn ceisio mabwysiadu ymagwedd ranbarthol o ran y Strategaeth Trafnidiaeth. Daw'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol i ben yn 2020.  Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grant i ddechrau'r broses ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar y strategaeth ddrafft. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £700 mil ar gael ar gyfer y cam nesaf sy'n cwmpasu comisiynu unigolyn penodol a fydd yn arwain ar y Polisi Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Mae Metro De Cymru'n cynnwys awdurdodau lleol ffiniol ac mae'n ymdrin â'r cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad dros yr 50 mlynedd nesaf. Mae'n cyd-fynd â'r Fargen Ddinesig ac yn edrych ar y tymor byr, canolig a hir. Mae ymchwil yn cael ei wneud i ganfod tueddiadau teithio a sut mae trafnidiaeth leol yn ateb y galw. Mae lleoliadau rhesymegol ar gyfer canolfannau lleol a rhanbarthol sy'n cynnwys trenau/bysus a lle mae'r rhain yn cyd-fynd ag anghenion rhanbarthau eraill. 

 

Roedd ail ddarn o waith wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith trenau strategol, y byddai'r Athro Barry, Prifysgol Caerdydd, yn ei wneud. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod rhai o'r prosiectau'n gysylltiedig â'r Fargen Ddinesig, ac eraill yn cyd-fynd â ffin. Mae Cyngor Sir Gâr yn cydlynu'r cyd-bwyllgor ar ran y rhanbarth, a rhagwelwyd na fyddai problem pe bai'r pwyllgor yn dymuno siarad â swyddogion Cyngor Sir Gâr.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod y Cynllun Teithio Llesol yn allweddol i ddatblygu darpariaeth i feicwyr.

23.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Resolved that the revisions to the work plan 2018 – 2019 be agreed as follows:

 

20/09/18

 

1.     Troi Stryd y Gwynt yn Ardal i Gerddwyr - Adborth o'r Ymgynghoriad ar 14/09/18.

2.     Adborth o'r ymweliad safle â choridor yr afon.

3.     Cerbydlu Gwyrdd.

18/10/18

1.     Cerbydlu Gwyrdd.

2.     Tai Cydweithredol

15/11/18

1.     Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (bydd Aelod y Cabinet dros Dai ac Ynni yn bresennol).