Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd P R
Hood-Williams - Personol - Cofnod Rhif 16 - Coridor yr afon - Cadeirydd Fforwm
Mynediad Lleol Abertawe. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 10 Awst 2017 fel cofnod cywir. |
|
Coridor yr Afon - Cylch gorchwyl y Gweithdy. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas ddiweddariad llafar i'r pwyllgor am y sefyllfa
gyfredol o ran coridor yr afon. Dywedodd fod y
pwyllgor eisoes wedi derbyn cyflwyniad ar y pwnc hwn a oedd wedi rhoi'r
manylion cefndir iddynt ynghyd â chyd-destun y cynigion er mwyn parhau i
ailddatblygu'r ardal. Dywedodd fod y CDLl sy'n dod i'r amlwg hefyd yn cynnwys
cyfeiriadau cryf at yr ardal. Amlinellodd y
cynlluniau i gynnal gweithdy ym mis Medi i drafod amrywiol faterion sy'n
ymwneud â'r coridor megis: ·
Pa
gamau gweithredu/adnoddau y mae eu hangen; ·
Materion
cyflwyno; ·
Manylion
yr astudiaethau blaenorol yr ymgymerwyd â hwy; ·
Hanes
cefndir a threftadaeth yr ardal; ·
Cynnydd
hyd yma; ·
Symudiadau
ar y ffyrdd/beicio; ·
Bioamrywiaeth; ·
Cynigion ailddatblygu yn y dyfodol (Penderyn etc); ·
Materion
perchnogaeth tir/yr afon. Cyfeiriodd at y
sesiwn yr oedd yn gobeithio y byddai'n cynnwys aelodau, swyddogion,
rhanddeiliaid/sefydliadau partner amrywiol lle byddai'r holl faterion amrywiol
a amlinellir uchod yn cael eu trafod. Trafododd aelodau
fuddion ymgymryd ag ymweliad safle yn yr ardal, cyn cynnal y gweithdy, a
gofynnwyd a ellid cylchredeg unrhyw wybodaeth berthnasol sydd ar gael am yr
ardaloedd a amlinellir uchod a'r cylch gorchwyl ar gyfer y gweithdy iddynt cyn
y gweithdy. Penderfynwyd y byddai'r Cadeirydd yn cysylltu ag
aelodau'r Pwyllgor i drefnu ymweliad safle ag ardal coridor yr afon. |
|
Creu Parth i Gerddwyr ar Stryd y Gwynt. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas ddiweddariad llafar i'r pwyllgor ynghylch cynnydd
sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod ar y cyd â BID Abertawe wrth fwrw ymlaen â'r
cynigion ar gyfer troi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr. Dywedodd fod
ymgynghorwyr bellach wedi'u penodi i ddatblygu'r syniadau a'r awgrymiadau o'r
ymarfer ymgynghori blaenorol a datblygu cynigion cadarn ar y cyd ag
aelodau/busnesau lleol/rhanddeiliaid perthnasol a
sefydliadau partner etc. Dywedodd fod yr
ymgynghorwyr wedi trefnu sesiwn galw heibio yn Stryd y Gwynt i bob parti â
diddordeb ar 31 Gorffennaf (lleoliad i'w gadarnhau). Byddai porth ar-lein ar
gael hefyd drwy gydol yr haf ar wefan y cyngor a fyddai'n amlinellu'r opsiynau
posib ar gyfer yr ardal ac yn gwahodd sylwadau gan bartïon â diddordeb ynghyd
â'u barn. Trafododd yr
aelodau fuddion ymgymryd ag ymweliad safle'n dilyn y digwyddiad galw heibio a
chyn y cyfarfod nesaf. Dywedodd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas y byddai'n cylchredeg manylion y digwyddiad wedi
i'r dyddiad gael ei drefnu'n derfynol. Penderfynwyd y byddai'r Cadeirydd yn cysylltu ag aelodau'r
pwyllgor i drefnu ymweliad safle ag ardal Stryd y Gwynt. |
|
Cynllun Gwaith 2018 - 2019. PDF 91 KB Cofnodion: Amlinellodd y Cadeirydd
gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2018/2019. Awgrymodd y dylid
ychwanegu'r pynciau canlynol at yr agendâu ar gyfer y cyfarfodydd a restrir
isod: 16 Awst - Adborth
o ymweliadau safle a'r Cerbydlu Gwyrdd 20 Medi - Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer 18 Hydref -
Strategaeth Cludiant a Thai Cydweithredol Penderfynwyd y dylid cytuno ar y cynllun gwaith gyda'r
diwygiadau a awgrymwyd uchod. |