Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw ddiddordebau.

 

43.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

 

 

44.

Astudiaeth Dichonoldeb Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Darparodd Rheolwr Canol y Ddinas gefndir yr astudiaeth dichonoldeb mewn perthynas â throi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr a chyflwynodd awduron yr astudiaeth, Mr O Davies a Mr E Smith, Owen Davies Consulting, Element Urbanism.

 

Darparodd Mr O Davies a Mr I Smith gyflwyniad llawn gwybodaeth a oedd yn manylu ar y:

 

·       Rhaglen

·       Gweithgarwch hyd yn hyn

·       Ffactorau allweddol a adolygwyd

·       Treftadaeth a thirwedd

·       Gweithgaredd a defnyddiau

·       Diwrnodau tawel a nosweithiau bywiog

·       Dosbarthu nwyddau busnesau

·       Lliniaru cerbydau diogelwch

·       Dylanwad datblygiadau eraill

·       Heriau

·       Amcanion y cynllun

·       Gofynion allweddol

·       Y safle (mynediad o'r de/gogledd)

·       Coed: Buddion ac effeithiau

·       Dadansoddiad o lwybr yr haul

·       Cysgod y coed

·       Aliniad y ffordd

·       Y safle (unffordd, cynllun presennol etc)

·       Mannau cyhoeddus

·       Llwytho a pharcio

·       Presennol

·       Ffordd gerbydau wedi'i hail-alinio a'i lleihau

·       Arwyneb a rennir

·       Hunaniaeth - Cydrannau'r stryd

·       Deunyddiau

·       Celfi

·       Nodweddion goleuadau

·       Amrywiol

·       Opsiynau i'w harchwilio

 

Nodwyd mai Opsiwn 2 (h.y. datblygu system unffordd, mewnlenwi'r cilfachau llwytho a chulhau'r ffordd gerbydau bresennol i wneud mwy o le i gerddwyr) oedd yr opsiwn a ffefrir.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, nododd yr Ymgynghorwyr;

 

·       y byddai angen i'r perchnogion gael hawlen i'w caniatáu i osod hysbysebion bwrdd dwbl, mannau eistedd/sefyll y tu allan ac ymraniadau ffiniau rhwng lleoliadau priodol. Byddai hyn yn darparu mwy o reolaeth o'r ardaloedd y tu allan.

·       Roedd yn hanfodol bod angen gwneud Stryd y Gwynt yn fwy deniadol i amrywiaeth eang o bobl, gan beidio â cholli'r cynnig gyda'r nos.  Byddai hyn yn gofyn am newid mewn diwylliant.

·       Nid yw'r prosiect hwn ar wahân i gynlluniau eraill yng nghanol y ddinas (e.e. Y Faner Borffor etc).  Mae angen i fusnesau fod yn gyfrifol ac mae ymchwil yn nodi bod cwsmeriaid sy'n eistedd yn dueddol o yfed llai o alcohol na'r rheiny sy'n sefyll.  Gellir gosod amodau ar sefydliadau i gynorthwyo wrth ddatblygu enw da Stryd y Gwynt.  Mae llawer o'r gweithredwyr presennol ar Stryd y Gwynt yn sefydliadau cadwyn sy'n gweithredu drwy'r DU, ac felly'n dod ag arfer da drwy eu dulliau o reoli eu sefydliadau.

·       Nid yw rhai sefydliadau wedi'u cynnal oherwydd strategaethau gwerthiant (e.e. Idols), fodd bynnag, gall y prosiect annog perchnogion i adnewyddu ac ailddatblygu yn unol â'r sefydliadau eraill ar Stryd y Gwynt.

·       Nid yw'r oriau lle bydd y ffordd ar gau ar Stryd y Gwynt wedi'u cytuno arnynt eto, a byddai angen ystyried gofynion gweithredol busnesau, megis amseroedd derbyn nwyddau a'r posibiliad o ymchwiliad cyhoeddus.

·       Mae posibiliad y gallai problemau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gael eu mudo i rannau eraill o'r ddinas.

·       Roedd treftadaeth yr ardal (yr adeiladau a phresenoldeb y Castell)yn bwerus a dylid cael ei dathlu.

·       Gallai ailgyflwyno'r hen gerflun (fel y manylwyd mewn hen luniau o Stryd y Gwynt) fod yn gyfle.

·       Ni chyfyngwyd ar yr astudiaeth gan gostau.

·       Gallai'r palmentydd presennol gael eu defnyddio ar gyfer y prosiect newydd.

·       Gallai'r prosiect gael ei gyflwyno fesul cam.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Ymgynghorwyr am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Nododd Rheolwr Canol y Ddinas nad oedd unrhyw gyllideb a ddyrennir er mwyn troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr.  Fodd bynnag, os yw'r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn camau, gall cyfleoedd fodoli o fewn y cyllidebau presennol a'r ffrydiau ariannu amrywiol.

 

Ceisiodd y Cyfarwyddwr Lleoedd farn y pwyllgor mewn perthynas â'r opsiynau.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Y Cadeirydd i e-bostio aelodau'r pwyllgor yn gofyn am eu barn dim hwyrach na 20 Ebrill 2018;

2)    Cylchredodd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd gopi o'r cyflwyniad.

 

 

45.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod materion sy'n weddill i'w hystyried yn y cynllun gwaith a cheisiwyd barn mewn perthynas â chyfarfod yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd cynnull cyfarfod arbennig ddydd Mawrth 24 Ebrill 2018 er mwyn ystyried:

 

1)    Adborth aelodau - Astudiaeth Dichonoldeb - Troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr

2)    Economi ac Isadeiledd PDChP - Datganiad sefyllfa - Diwedd Blwyddyn 2017/2018

3)    Cynllun Gwaith Economi ac Isadeiledd PDChP - 2018/2019