Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2017 fel
cofnod cywir. |
|
Yr Economi - Cyflwyniad gan Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Cofnodion: Darparodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas gyflwyniad manwl ac addysgiadol ar
'Abertawe a'r Dinas-ranbarth.... Persbectif Economaidd'. Roedd y manylion
a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys: - ·
Cyflwyno
Abertawe...; ·
Cysylltedd; ·
Ystadegau
Abertawe a'n Sectorau Strategol; ·
Y
Sylfaen Fusnes; ·
Safleoedd
Cyflogaeth Strategol; ·
Arloesedd, dysgu, ansawdd bywyd, diwylliant, hamdden a
chwaraeon; ·
Prif
ystadegau rhanbarthol; ·
Yr
heriau mawr; ·
Ymateb
i'r Fargen Ddinesig; ·
Gweithgareddau
adfywio lleol allweddol; ·
Gweithio
mewn partneriaeth; ·
Rhaglen
adfywio; ·
Goblygiadau
Brexit; ·
Cynllun
Gweithredu Ffyniant i Bawb a Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru. Gofynnodd y
pwyllgor nifer o gwestiynau ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Roedd y
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Cynhyrchedd,
gwerth ychwanegol gros a chymariaethau ag awdurdodau eraill yn y rhanbarth; ·
Cysylltiadau
cludiant, cysylltedd, astudiaeth dichonoldeb bosib Metro Bae Abertawe a
Llywodraeth Cymru sy'n edrych ar gydgysylltu rhwng rhanbarthau; ·
Prosiect
y Morlyn Llanw; gwella prif borth Ffordd Fabian i'r ddinas; ·
Cynnwys
cymunedau y tu allan i ganol y ddinas yn y newidiadau, gwella trafnidiaeth yng
nghanol y ddinas a denu siopau mawr i Abertawe; ·
Y Fargen
Ddinesig - gwella rhagolygon cyflogaeth, hyfforddiant, sgiliau a hyder wrth
weithio gyda phobl oedran gweithio; ·
Effaith
y prifysgolion yn Abertawe a'r gwaith sy'n cael ei wneud; ·
Potensial
safle Felindre; ·
Hyder
yn y broses gynllunio yn Abertawe. Penderfynwyd ar y canlynol: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad; 2)
Cylchredeg
y cyflwyniad i'r pwyllgor. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 91 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2017/18. Ychwanegodd fod
yr eitemau canlynol wedi'u cynnig ar gyfer cyfarfod y pwyllgor ar 8 Mawrth
2018: - 1)
Troi
Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr; 2)
Cerbydlu Gwyrdd. Penderfynwyd ar y canlynol: - 1)
Dylid
nodi cynnwys yr adroddiad. 2)
Ychwanegu'r
eitemau ychwanegol a restrir uchod i gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer
2017/18. |