Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir. |
|
Trosolwg o'r Fargen Ddinesig. (Cyflwyniad-Phil Holmes). Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas drosolwg cynhwysfawr i'r pwyllgor o Fargen
Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Fel rhan o'r
cyflwyniad, disgrifiodd y meysydd canlynol yn fanwl: ·
Hanes
cefndirol y cais; ·
Y
cytundebau a'r trefniadau partneriaeth sydd ar waith rhwng yr awdurdodau lleol
amrywiol, prifysgolion, cyrff cyhoeddus, diwydiant preifat a Llywodraeth Cymru
a Llywodraeth y DU. ·
Prif
nodau a heriau'r prosiect; ·
Y
gweledigaethau, yr effeithiau disgwyliedig a'r ymyriadau cynlluniedig; ·
Cyd-fynd
â Strategaeth Ddiwydiannol y DU; ·
Nodau
i gyflwyno prosiectau a chreu swyddi; ·
Dadansoddi
cyllid a buddsoddiad o arian y Fargen Ddinesig a buddsoddiad diwydiant preifat
ar gyfer pob cynllun; ·
Enillion
arfaethedig o'r buddsoddiad, a nodau ac amcanion y prosiectau ·
Blaenlwytho arian awdurdodau lleol i roi hwb i brosiectau; ·
Cynigion
Rhanbarth Arloesedd Clyfar Iawn gan gynnwys Campws a
Phentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant, Canolfan Gwyddoniaeth Dur, Ffatri'r
Dyfodol, Cartrefi fel Pwerdai a Phrosiect Morol Doc Penfro; ·
Model
Busnes 5 Achos sy'n cael ei baratoi ar gyfer pob cynllun ar hyn o bryd; ·
Y
Fenter Sgiliau a Doniau a arweinir gan Bartneriaeth Ranbarthol Dysgu Sgiliau; ·
Isadeiledd
Digidol Rhanbarthol; ·
Datblygiad
o Ganolfannau Rhagoriaeth yng Ngwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf; ·
Cysylltiadau
ag S4C i ddatblygu Clwstwr Digidol Creadigol "Yr Egin"; ·
Adfywio
Canol Dinas Abertawe a Phrif Brosiectau a gynhwysir yn y prosiect hwnnw: Arena,
Gwesty, Maes Parcio Aml-lawr, Gwely Prawf Cyfathrebiadau Symudol 5G ac adfywio
safle Dewi Sant; ·
Datblygu
Ardal Fusnes Ddigidol y Glannau; ·
Ardal
Ddigidol Ffordd y Brenin; ·
Amserlenni
Cyflwyno; ·
Trefniadau
Llywodraethu. Gofynnodd y
pwyllgor nifer o gwestiynau i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, a
ymatebodd yn briodol. Roedd
trafodaethau'n ymwneud â'r pynciau canlynol yn bennaf: - ·
Dadansoddi
cyllid y Fargen Ddinesig; ·
Isadeiledd
cludiant cyhoeddus; ·
Tystiolaeth
o gynaladwyedd wrth ystyried llesiant a'r amgylchedd; a ·
Mynd
i'r afael â'r bwlch GVA. Diolchodd y cadeirydd i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 47 KB Cofnodion: Datganodd y
cadeirydd y byddai'r canlynol yn eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf: 1)
Cerdyn
Dinesydd; a 2)
Chynllun
Creu Parth Cerddwyr ar Stryd y Gwynt. PENDERFYNWYD nodi’r eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf. |