Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi a Buddsoddiad a gynhaliwyd ar 25 Mai 2017 fel cofnod cywir. |
|
Y Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth.) Hybu datblygu Polisïau Corfforaethol yr Economi ac Isadeiledd y cyngor i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor fel y bo'n briodol. Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y cylch gorchwyl ar gyfer Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr
Economi ac Isadeiledd a datganodd y gallai'r PDCP gyfethol eraill i'r pwyllgor
ar gyfer pwnc neu am dymor pe bai'r pwyllgor yn ystyried bod eu hangen hwy
arnynt. Amlinellodd i'r aelodau'r cefndir a’r rhesymeg dros gyflwyno'r Pwyllgorau
Datblygu a Chyflwyno Polisi (PDCP). Y bwriad yw y byddant yn canolbwyntio ar ddatblygu polisi a sicrhau
cyflwyniad, yn bennaf drwy ymrwymiadau polisi'r cyngor sydd i'w mabwysiadu gan
y cyngor ar 27 Gorffennaf 2017. Y nod yw y bydd y pwyllgorau'n gweithredu er
mwyn i aelodau a swyddogion gydweithio gydag ymagwedd glir gan aelodau tuag at
gyflwyno Blaenoriaethau Corfforaethol. Manylwyd ar y gwahaniaeth amlwg rhwng y PDCP a Chraffu ynghyd â sut maent
yn wahanol i'r PCC blaenorol gan y byddant yn cael eu harwain gan y
Blaenoriaethau Corfforaethol drwy'r cadeirydd ac nid Aelod y Cabinet. Serch
hynny, bydd cysylltiadau agos yn parhau gyda phroses y Cabinet ac Aelod y
Cabinet. Dylai'r PDCP geisio darparu canlyniadau clir ar ôl cyflwyno ymchwil,
tystiolaeth a gwybodaeth a dylai geisio osgoi unrhyw ddyblygiad o waith â'r 4
PDCP arall er gall cydweithio fod yn angenrheidiol mewn rhai pynciau. PENDERFYNWYD
NODI’R cylch gorchwyl. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. (Trafodaeth). PDF 47 KB Cofnodion: Awgrymodd y cadeirydd y dylid gohirio'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2017/2018
tan y cyfarfod nesaf gan fod y Datganiad Ymrwymiad Polisi'n cael ei gyflwyno
i'r cyngor ar 27 Gorffennaf 2017. PENDERFYNWYD gohirio'r cynllun gwaith ar gyfer 2017/18 tan y cyfarfod nesaf ar 10 Awst 2017. |