Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cefnogi Adferiad Addysg. PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Helen
Morgan-Rees adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth yr argymhellion yr oedd y
Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau wedi'u datblygu yn dilyn ei waith
trafod, adolygu, archwilio a chasglu tystiolaeth sy'n ymwneud ag effaith pandemig COVID ar ddarpariaeth addysg ar draws Abertawe. Fel rhan o
adolygiad y pwyllgor datblygu polisi o dystiolaeth yn ystod blwyddyn academaidd
2020-2021, daeth yn amlwg bod pandemig COVID-19 wedi
cyflwyno heriau a chyfleoedd ar gyfer gwella addysg, parhad dysgu a datblygu
sgiliau mewn blwyddyn eithriadol o reoli argyfwng a tharfu sylweddol ar addysg,
sydd wedi effeithio ar ddisgyblion ac aelodau staff. Nododd fod yr
adroddiad yn dwyn ynghyd holl waith y pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,
ac mae wedi arwain at ddatblygu'r tri argymhelliad canlynol: 1.
Caiff
pob ysgol ei chefnogi a'i monitro i gynnal a gwella'r dulliau dysgu cyfunol a
ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 2.
Datblygu
ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles emosiynol. 3.
Mae'r
broses o ledaenu arfer da'n systematig mewn dysgu cyfunol a chefnogi iechyd a
lles emosiynol yn cael ei chyflymu. Cafodd y gwahanol
sylwadau, safbwyntiau a thystiolaeth a gyflwynwyd ac a ystyriwyd gan y pwyllgor
eu hamlinellu a'u nodi yn yr adroddiad. Diolchodd y
Cadeirydd i Helen Morgan-Rees am ei chefnogaeth i'r Pwyllgor ac am ddrafftio'r
adroddiad, a diolchodd i'r holl swyddogion am yr wybodaeth a'r dystiolaeth a
gyflwynwyd ac a drafodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Penderfynwyd bod yr argymhellion a amlinellir uchod yn
yr adroddiad yn cael eu cefnogi a'u cymeradwyo a bod yr adroddiad yn cael ei
gyflwyno i'r Cabinet ar 17 Mehefin 2021. |
|
Cynllun Gwaith. Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd y byddai'r cynllun gwaith ar gyfer 2021-22 yn cael ei drafod yng
nghyfarfod y pwyllgor ar 16 Mehefin. Dywedodd ei fod
wedi derbyn awgrym bod pwnc mentoriaid dysgu cymunedol yn un y gellid ei
ystyried wrth symud ymlaen. Byddai'r pwnc hwn yn cael ei drafod ynghyd â
phynciau eraill yn y cyfarfod nesaf. |